Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cau canghennau banciau yn parhau i effeithio ar gymunedau ledled Cymru, ac mae adroddiadau am hyn yn ymddangos yn rheolaidd yn y cyfryngau, fel arfer yn sôn am bryderon am yr effaith ar fynediad at arian parod a'r cyfyngu ar wasanaethau bancio wyneb yn wyneb.

Er bod yr ystadegau yn dangos rhywfaint o alw newydd am arian parod, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n defnyddio arian parod i'w helpu i gadw llygad ar eu cyllideb, mae'r duedd gyffredinol tuag i lawr. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn diogelu mynediad at arian parod ledled Cymru, gan sicrhau bod gwasanaethau yn gynhwysol. 

Er nad yw 'gwasanaethau ariannol' yn fater a ddatganolwyd, ac mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydynt, mae cynhwysiant ariannol yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru. 

Rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi addo sefydlu o leiaf 350 o ganolfannau bancio ledled y DU. Mae'r rhwydwaith hwn o ganolfannau yng Nghymru yn parhau i ehangu - mae deuddeg canolfan fancio a rennir ar agor yng Nghymru bellach, a thair arall yn y broses o gael eu sefydlu yng Nghas-gwent, Gorseinon a Chaergybi. Mae'r canolfannau bancio hyn yn achubiaeth i gymunedau lleol sydd wedi colli eu cangen fanc olaf.

Mae'r ganolfan sydd eisoes yn gweithredu ym Mhorthcawl ymhlith y prysuraf yn y DU. Mae'r ganolfan yn Nhreorci hefyd yn unigryw yng Nghymru gan ei bod wedi'i lleoli mewn archfarchnad yn hytrach na swyddfa bost neu adeilad annibynnol. Mae cynllun peilot hefyd yn cael ei dreialu yng nghanolfan Treorci yn sgil cyflwyno Swyddog Cyswllt â Chwsmeriaid, sy'n darparu cymorth cyffredinol ac yn cyfeirio cwsmeriaid i'r man iawn. Mae'n lle diogel i gwsmeriaid gysylltu â'u banc, naill ai drwy'r Banciwr Cymunedol neu dros y ffôn. 

Wrth gwrs, mae gan swyddfeydd post rôl hanfodol wrth ddarparu mynediad at arian parod, gan ganiatáu i gwsmeriaid dalu arian parod i mewn, adneuo sieciau a thynnu arian parod o gyfrifon banc. Rhaid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o'r rôl sydd gan swyddfeydd post o ran mynediad at arian parod. Ymhlith y camau lliniaru allweddol eraill sy'n cael eu datblygu mae cownteri gwell mewn swyddfeydd post, menter arian wrth y til lle gellir cael arian parod yn ôl am ddim mewn safleoedd manwerthu, unedau symudol ar gyfer adneuo a thynnu arian parod, peiriannau ATM sy'n cynnig arian parod o sawl banc, a chyfleusterau undebau credyd, sy'n cefnogi gwasanaethau wyneb yn wyneb mewn cymunedau. 

Mae datrysiadau unigryw hefyd yn cael eu sefydlu mewn cymunedau ledled Cymru. Mae partneriaethau ar waith sy'n darparu mynediad amgen at wasanaethau bancio, er enghraifft Barclays Local, sy'n gweithredu o fannau cymunedol, fel Parc Busnes Tredomen, a chownteri Cyswllt Cymunedol Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, yr oeddwn yn falch iawn o ymweld â nhw ym mis Mai eleni. Mae'r rhain yn enghreifftiau gwych o sut mae banciau a chymdeithasau adeiladu yn dod o hyd i ffyrdd newydd o gefnogi pobl yng nghanol cymunedau.

Mae i'r holl fentrau hyn yr un nod – sef cynnal mynediad cynhwysol at gyfleusterau bancio a gwasanaethau adneuo wyneb yn wyneb i bobl a busnesau sy'n dibynnu arnynt. 

Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda LINK (rhwydwaith mynediad at arian parod sy'n gweithredu ledled y DU) a Cash Access UK i ddiogelu mynediad am ddim at arian parod ledled Cymru. 

Mae LINK yn arwain y ffordd o ran asesu'r angen am wasanaethau bancio newydd (peiriannau ATM, canolfannau bancio a rennir - rhai'n cynnwys peiriannau ATM, a rhai heb eu cynnwys) bob tro y caiff y bwriad i gau cangen fanc ei gyhoeddi, a phan fydd y gangen olaf mewn unrhyw dref yn cau, a gall gomisiynu gwasanaethau newydd lle bo angen. 

Mae mesurau diogelu rheoleiddiol bellach yn ei gwneud yn ofynnol i fanciau asesu effaith cau ar fynediad pobl at arian parod, ac adrodd ar y cymorth a gynigir i'r cwsmeriaid sydd fwyaf agored i effaith y newid drwy'r Ddyletswydd Defnyddwyr.

Mae fy swyddogion hefyd yn cwrdd yn rheolaidd â'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol, sy'n gyfrifol am reoleiddio'r Ddyletswydd Defnyddwyr a'i rheolau, sy'n ei gwneud yn ofynnol i fanciau asesu bylchau yn y mynediad lleol at arian parod cyn cau unrhyw wasanaethau. Os nodir bylchau, rhaid i fanciau gynnig dewisiadau amgen fel canolfannau a rennir, gan sicrhau mynediad at swyddfa bost leol neu ganghennau symudol. 

Gall unigolion mewn cymunedau hefyd ofyn am i asesiad gael ei gynnal o wasanaethau bancio drwy LINK - LINK / Request Access to Cash Review.

Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip, rwy'n pryderu am effaith cau banciau ar y rhai nad ydynt yn gallu bancio ar-lein neu sy'n dewis peidio gwneud hynny, ac rwy'n croesawu'r datrysiadau bancio lleol amgen.

Ym mis Mawrth 2025, es i ail ddigwyddiad llwyddiannus 'Bancio yng Nghymunedau Cymru', a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â FinTech Cymru, gyda chefnogaeth Cymdeithas Adeiladu'r Principality. Ymhlith y rhai oedd yno roedd busnesau sy'n gweithio ar gynhyrchion ariannol, rheoleiddwyr ariannol, banciau prif ffrwd, undebau credyd, cymdeithasau adeiladu yn ogystal â sefydliadau'r trydydd sector a'r sector gwirfoddol. 

Amcan y digwyddiadau hyn yw cefnogi trafodaethau allweddol sy'n canolbwyntio ar sut y gallwn greu cysylltiadau, cydweithio, ac addasu'r gefnogaeth a ddarperir i unigolion—gan gynnwys y rhai sy'n wynebu rhwystrau sylweddol o ran cynhwysiant ariannol—yn ogystal ag i fusnesau a chymunedau, fel bod y gefnogaeth hon yn mynd i'r afael â'r newidiadau cyflym sy'n digwydd ym maes bancio'r stryd fawr. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i helpu cymunedau i gael mynediad at wasanaethau bancio amgen, ac i gefnogi hyn bydd trydydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn fuan yn 2026.