Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Rwy'n croesawu cyhoeddi adolygiad thematig Estyn ar y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (GenAI) mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion ledled Cymru. Gyda'r wythnos hon yn wythnos AI, mae'r adolygiad hwn yn gyfraniad amserol a phwysig i'n dealltwriaeth o botensial trawsnewidiol technolegau newydd wrth lywio dyfodol addysg yng Nghymru.
Hoffwn ddiolch i Estyn am gyflawni adolygiad cynhwysfawr yn gyflym mewn ymateb i gomisiwn gan Lywodraeth Cymru ac esblygiad cyflym GenAI mewn addysg. Hoffwn hefyd estyn fy niolch diffuant i'r ysgolion, y dysgwyr a'r ymarferwyr a ymgysylltodd ag Estyn yn ystod yr adolygiad. Mae eu cyfraniadau wedi rhoi gwybodaeth werthfawr am yr arferion presennol ac wedi helpu i lunio'r canfyddiadau a'r argymhellion.
Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu argymhellion Estyn. Mae GenAI yn cynnig cyfleoedd sylweddol i wella addysgu a dysgu ac ehangu gwelliant mewn ysgolion. Ar yr un pryd, nid yw'r cyfleoedd hyn heb her. Wrth i'r dechnoleg hon barhau i esblygu'n gyflym, mae'n rhaid i ni barhau i ymdrin â hyn mewn ffordd ystyriol a chynhwysol sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei integreiddio i addysg mewn ffordd bwrpasol a chynaliadwy.
Mae'r adolygiad yn tynnu sylw at yr angen am ddull cenedlaethol clir a chydgysylltiedig ar gyfer defnyddio GenAI mewn addysg. Mae hyn yn cyd-fynd â'n gweledigaeth strategol yn 'Addysg Ddigidol yng Nghymru: Grymuso dysgu trwy dechnoleg', sy'n pwysleisio pwysigrwydd ymgorffori arloesedd digidol ar draws y cwricwlwm, addysgeg ac asesu.
Rhaid i'r ffordd rydym yn cefnogi ysgolion i ddefnyddio GenAI fod yn glir a strwythuredig ac wedi'i seilio ar ymrwymiad cyffredin i arferion cyfrifol - gyda diogelwch a lles dysgwyr a'r gweithlu addysg yn greiddiol iddi. Yn unol ag argymhellion Estyn, byddwn yn cydweithio ag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid allweddol ar draws y sector addysg i gyd-gynllunio fframwaith strategol sy'n cefnogi'r defnydd diogel, moesegol ac effeithiol o GenAI. Bydd hyn yn adeiladu ar y sylfeini sydd eisoes wedi'u gosod drwy raglen Hwb a bydd yn cael ei lywio gan yr ymchwil a'r arferion gorau diweddaraf.
Rydym eisoes wedi galluogi mynediad at becynnau GenAI arloesol drwy blatfform Hwb, gan gynnwys Microsoft Copilot Chat ac Adobe Express AI, gan sicrhau bob ysgol a gynhelir yng Nghymru yn gallu elwa o dechnolegau newydd. Rwy'n falch o gadarnhau y bydd Google Gemini hefyd yn cael ei lansio ar Hwb yn fuan, a fydd yn ehangu ymhellach y gyfres o adnoddau digidol arloesol sydd ar gael i'n hysgolion.
Mae gan ysgolion rôl ganolog o ran modelu'r defnydd priodol o dechnoleg mewn addysg a chefnogi plant a phobl ifanc i ymgysylltu'n gyfrifol ag AI yn eu bywydau bob dydd. Drwy wneud hynny, maent yn helpu i wireddu uchelgais y Cwricwlwm i Gymru i ddatblygu dinasyddion galluog, creadigol a moesegol sy'n barod i ffynnu mewn byd digidol. Dylai dysgwyr allu adnabod risgiau, cymhwyso arferion diogel a blaenoriaethu eu lles digidol. Rydym wedi ymrwymo o hyd i sicrhau bod ein canllawiau a'n cefnogaeth yn adlewyrchu'r cyfrifoldeb hwn.
Mae canfyddiadau Estyn yn pwysleisio pwysigrwydd arfogi'r gweithlu ysgolion gyda'r sgiliau a'r gefnogaeth sydd eu hangen i ddefnyddio GenAI yn hyderus ac yn effeithiol. Mewn ymateb i hyn, byddwn yn cynnal archwiliad cynhwysfawr o sut all GenAI gefnogi'r gweithlu ysgolion yng Nghymru orau. Bydd hyn yn cynnwys dulliau o leihau llwyth gwaith a gwella llesiant, ochr yn ochr â ffocws penodol ar addysgeg a dysgu proffesiynol. Bydd ein gwaith yn ystyried integreiddio GenAI i arferion dysgu proffesiynol a chreu cyfres o gyfleoedd dysgu proffesiynol i helpu ymarferwyr i ddatblygu eu sgiliau a'u hyder. Wrth i ni weithio'n agos gyda Dysgu i ddatblygu ei ddarpariaeth o ddysgu proffesiynol i'r gweithlu ysgolion, byddwn yn archwilio sut all hyn gynnwys y defnydd effeithiol o GenAI.
Mae'r adolygiad hefyd yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau bod dysgwyr yn meddu ar y sgiliau digidol sydd eu hangen mewn byd sy'n cael ei yrru fwyfwy gan dechnoleg. Mae cymhwysedd digidol yn sgil trawsgwricwlaidd gorfodol yn y Cwricwlwm i Gymru. Ar hyn o bryd rydym yn adolygu'r canllawiau sy'n helpu ysgolion i ddatblygu cymhwysedd digidol er mwyn sicrhau eu bod yn adlewyrchu datblygiadau technolegol gan gynnwys GenAI. Rydym eisoes wedi ymgysylltu ag arweinwyr ysgolion, partneriaid EdTech a rhanddeiliaid y cwricwlwm wrth wneud y gwaith hwn a bydd yn parhau i lywio cyfeiriad y fframwaith yn y dyfodol.
Mae partneriaeth gref a chydgysylltiedig ar draws y sector addysg yn hanfodol i osod cyfeiriad cenedlaethol clir a chydlynol ar gyfer sut mae GenAI yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion. Byddwn yn gweithio'n agos gydag Estyn, awdurdodau lleol, gwasanaethau gwella ysgolion a phartneriaid allweddol eraill - gan gynnwys Swyddfa AI newydd Llywodraeth Cymru yn eu rôl arwain traws-sector - i sicrhau bod ysgolion ledled Cymru yn cael eu cefnogi'n gyson ac yn effeithiol i fabwysiadu GenAI mewn ffyrdd sy'n gwella addysgu a dysgu ac yn ehangu gwelliant mewn ysgolion.
Mae GenAI yn cynnig cyfleoedd cyffrous, ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â'r sector i sicrhau y caiff ei ddefnyddio mewn ffordd ddiogel, gynhwysol a phwrpasol. Byddwn yn canolbwyntio ar gefnogi ysgolion i fabwysiadu technoleg mewn ffyrdd sy'n gwella addysgu a dysgu ac yn sicrhau bod arloesedd digidol yn parhau i wasanaethu anghenion dysgwyr, ymarferwyr a chymunedau ledled Cymru. Mae cyhoeddi'r adolygiad hwn yn garreg filltir bwysig yn ein taith i ddeall a harneisio potensial AI mewn addysg.
