Neidio i'r prif gynnwy

Pa gamau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Mae'r Rhaglen Parth Buddsoddi yng Nghymru yn cynnig cyfle i harneisio potensial economaidd helaeth Cymru. 

Gweithiodd Llywodraeth Cymru (LlC) gyda Llywodraeth y DU (LlDU) i gynllunio model parth buddsoddi Cymru, i gyflawni tri phrif amcan:

  • cryfhau diwydiannau allweddol
  • hybu arloesedd yng Nghymru ac ar draws y DU
  • cefnogi gwaith teg a chynaliadwyedd

Bydd busnesau yn elwa o fod yn rhan o barth arbennig. Mae hyn yn cynnwys:

  • buddion treth; a
  • chyllid grant.

Mae'r Rhaglen yn cynnwys polisïau ar waith teg a phartneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod gweithwyr yn:

  • cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli
  • gallu symud ymlaen mewn amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol
  • yn cael eu hawliau wedi'u parchu
  • Ardaloedd Teithio i'r Gwaith Caerdydd a Chasnewydd, a ddarperir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru
  • Ardal Teithio i'r Gwaith Wrecsam a Sir y Fflint, a ddarperir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru

Yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y byddai dau barth buddsoddi yng Nghymru. Mae'r rhain fel a ganlyn:

Mae LlC yn gweithio gyda'r darpar barthau buddsoddi i sicrhau eu bod yn:

  • cael effaith gadarnhaol; ac
  • yn gallu dechrau gweithredu cyn gynted â phosibl.

Bydd Rhaglen Parth Buddsoddi Cymru yn cael ei heffeithio gan y canlynol:

  • heriau newid yn yr hinsawdd (Dr A Netherwood (2021) Evidence for the third UK Climate Change Risk Assessment (CCRA3)) a'r brys i drosglwyddo i economi carbon isel er mwyn sicrhau ffyniant yn y dyfodol
  • risgiau i'n hamgylchedd naturiol (State of Nature Partnership (2023) Sefyllfa Natur) a'r cyfle i ddiogelu bioamrywiaeth er mwyn diogelu gwydnwch ecolegol Cymru
  • anghydraddoldebau hirsefydlog mewn rhai daearyddiaethau a chymunedau (Llywodraeth Cymru (2021) Gweithredu'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol - Adolygiad o dystiolaeth am anfantais economaidd-gymdeithasol ac anghydraddoldebau canlyniadau) y gellir mynd i'r afael â nhw drwy brif ffrydio cydraddoldeb a thegwch mewn polisi a chyflawni, gan gynnwys ystyriaeth benodol i'r cyfle i fynd i'r afael â gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol a brofir ar hyn o bryd yn yr ardaloedd parth buddsoddi
  • y cyd-destun ehangach o alw uchel ar wasanaethau iechyd (Cydffederasiwn y GIG (2023) Briefing: Current challenges facing the health and social care system in Wales), a'r angen i ddatblygu mentrau sgiliau a chyflogaeth i fynd i'r afael ag anweithgarwch economaidd er mwyn gwella disgwyliad oes iach (Y Sefydliad Iechyd (2018) Relationship between employment and health)
  • diwylliant Cymru a'r Gymraeg y mae'n rhaid eu diogelu a'u hyrwyddo (Llywodraeth Cymru (2024) Comisiwn Cymunedau Cymraeg: Grymuso cymunedau, cryfhau'r Gymraeg) drwy ymgysylltu'n helaeth â chymunedau lleol
  • Dyletswydd LlC i gydymffurfio â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Gymru sefydlu ei hun fel cenedl sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Mae parthau buddsoddi yn rhan o bolisi ehangach LlC sy'n mynd i'r afael â gorddibyniaeth ar danwyddau ffosil drwy gefnogi'r newid i ddulliau glanach o gynhyrchu ynni (Llywodraeth Cymru (2021) Cymru Sero Net). 

Bydd y newid hwn yn cael ei ategu gan system gynllunio a system reoleiddio amgylcheddol Cymru a fydd yn diogelu ac yn gwella ein bioamrywiaeth drwy leihau gwastraff, defnydd adnoddau ac allyriadau wrth wella ansawdd aer a dŵr. 

Bydd y cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau yn y parthau buddsoddi yn codi safonau byw a fydd yn ei dro yn helpu i fynd i'r afael ag iechyd gwael sy'n gyffredin mewn sawl ardal (Sefydliad Iechyd y Byd (2025) World Report on Social Determinants of Health Equity).

Mae problemau economaidd a chymdeithasol sylfaenol mewn ardaloedd parth buddsoddi yn amlwg ar gyfer grwpiau neu gymunedau sydd eisoes dan anfantais (Dr Sara MacBride-Stewart a Dr Alison Parken (2021) Anghydraddoldeb yng Nghymru'r Dyfodol: Meysydd i weithredu arnynt mewn gwaith, hinsawdd a newid demograffig). Bydd ffocws cydraddoldeb a thegwch parthau buddsoddi yn helpu i fynd i'r afael â'r problemau hyn.

Bydd cydlyniant cymunedol hefyd yn cael ei wella mewn ardaloedd parth buddsoddi, yn enwedig y rhai sydd â hunaniaeth Gymraeg gref lle gall cyfleoedd parth buddsoddi gael effaith gadarnhaol. 

Drwy gynhyrchu manteision lluosog, bydd parthau buddsoddi yn cyfrannu at lawer o agendâu polisi Llywodraeth Cymru:

  • Cenhadaeth economaidd: blaenoriaethau ar gyfer economi gryfach
  • Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Allforio
  • Strategaeth Arloesi Cymru
  • Strategaeth Ryngwladol  
  • Gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd sero net: cynllun Cymru gyfan
  • Cymru'r Dyfodol, y Cynllun Cenedlaethol 2040
  • Polisi Cynllunio Cymru
  • Strategaeth Drafnidiaeth Cymru
  • Canllaw i waith teg
  • Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net  
  • Strategaeth Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr

Rhaid i barthau buddsoddi ymgorffori gwerthoedd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a gwneud cyfraniad cadarnhaol at y saith nod yn y Ddeddf. Mae Adran 10 o Barthau Buddsoddi: dogfen dechnegol (Cymru) (Llywodraeth Cymru / Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (2024) Parthau Buddsoddi: dogfen dechnegol (Cymru)) yn amlinellu bod ‘rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddefnyddio eu hadnoddau a sicrhau bod eu trefniadau llywodraethu yn effeithiol gyda’r nod o wneud y cyfraniad mwyaf posibl at nodau llesiant cenedlaethol Cymru.   Mae’n rhaid i Gyd-bwyllgorau Corfforedig hyrwyddo ac ymgymryd â datblygu cynaliadwy drwy ystyried eu heffaith hirdymor, a thrwy fonitro ac asesu’r graddau y maent yn cyflawni eu hamcanion llesiant mewn perthynas â chydweithio, cynnwys eraill, a mabwysiadu dull integredig.  Mae’n ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig yng Nghymru gydymffurfio â’r Ddeddf wrth gyflawni eu dyletswyddau mewn perthynas â’r Parthau Buddsoddi. Wrth ystyried sut mae Cyd-bwyllgor Corfforedig yn cyflawni ei ddyletswyddau o dan y Ddeddf, dylai Cyd-bwyllgorau Corfforedig roi sylw dyladwy i ganllawiau statudol y Ddeddf.’

Mae ffurfio a chyflwyno parthau buddsoddi yn broses gydweithredol.  Yn genedlaethol, mae LlDU a LlC yn datblygu polisi, yn cynorthwyo, yn ariannu, yn arwain ac yn monitro a gwerthuso.  Yn rhanbarthol ac yn lleol, mae sefydlu a rhedeg parthau buddsoddi yn effeithiol yn dibynnu ar y ffordd o weithio partneriaeth gymdeithasol sy'n cynnwys llywodraeth leol, y trydydd sector, busnesau, gweithwyr, a chymunedau lleol. 

Rhaid i gynigion parth buddsoddi ddangos cymorth cymunedol cryf er mwyn cael cymorth y llywodraeth, a rhaid cynnal hyn drwy strategaethau ymgysylltu.   

Mae'r dadleuon o blaid ac yn erbyn mentrau economaidd fel parthau buddsoddi wedi bod yn destun ymchwil helaeth (M Ward (2024) Briff Ymchwil Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin – Enterprise Zones, Centre for Cities (2019) In the zone? Have enterprise zones delivered the jobs they promised?, UNCTAD (2019) World Investment Report 2019 – Special Economic Zones). I grynhoi, y dadleuon o blaid mentrau fel parthau buddsoddi yw:

  • maent yn cael effeithiau economaidd, uniongyrchol ac anuniongyrchol. Mae'r manteision uniongyrchol yn cynnwys denu buddsoddiad, creu swyddi ac incwm, twf allforio ac arallgyfeirio, ac enillion cyfnewid tramor.
  • yn draddodiadol maent yn denu buddsoddiadau sy'n ceisio effeithlonrwydd symudol yn rhyngwladol, y mae gwledydd yn cystadlu amdanynt.
  • maent yn cefnogi cyfranogiad yn y gadwyn gwerth, uwchraddio diwydiannol ac arallgyfeirio.
  • maent yn adfywio ardaloedd adfeiliedig.

Y dadleuon yn erbyn parthau buddsoddi yw eu bod yn gallu:

  • creu llawer llai o swyddi nag a ragwelwyd, gyda'r mwyafrif yn rhai sgiliau isel.
  • achosi lefelau uchel o ddadleoli
  • ddim yn perfformio llawer yn well nag ardaloedd tebyg heb statws parth arbennig.
  • Arwain at ddatblygiadau buddsoddi uniongyrchol tramor nad ydynt yn ymrwymo i feddiannaeth/buddsoddiad hirdymor ac yna symud i ranbarthau eraill sydd â chymhellion ariannol mwy deniadol. 

Archwiliwyd y dadleuon hyn yn fanwl mewn trafodaethau rhwng swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae'r anfanteision posibl wedi cael eu lliniaru gan y llywodraeth yn:

  • ei gwneud yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddatblygu cynlluniau busnes cadarn sydd â thystiolaeth dda i gyflawni targedau buddsoddi a swyddi.
  • cynllunio i ddarparu cymorth parhaus i'r parthau buddsoddi ar gyllid, cynllunio, cysylltiad grid, denu buddsoddwyr, gweithio gyda busnesau lleol, sgiliau, arloesi, a sero net.
  • darparu canllawiau clir i Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddatblygu cynigion parth buddsoddi a fydd yn nodi, yn meintioli ac yn lliniaru risgiau dadleoli. Bydd y rhain yn cael eu gwerthuso a'u monitro gan y llywodraeth.

Mae parthau buddsoddi yn derbyn cyfanswm amlen ariannu o hyd at £160 miliwn am hyd at 10 mlynedd, y gellir ei ddefnyddio'n hyblyg rhwng gwariant ac un cynnig treth deng mlynedd, y mae modd ei ehangu yn seiliedig ar nifer a maint y safleoedd. Mae hyn yn cynnwys:

  • Gwariant hyblyg, wedi'i rannu 40:60 rhwng gwariant adnoddau (RDEL) a gwariant cyfalaf (CDEL), i'w ddefnyddio ar draws portffolio o ymyriadau yn seiliedig ar gyfleoedd pob clwstwr; a
  • Chymhellion treth, sydd ar gael am ddeng mlynedd, a gynigir dros uchafswm o 600 hectar ar draws hyd at dri safle, yn ddelfrydol o ddim mwy na 200 hectar yr un. Os bydd lle yn dewis peidio â manteisio ar ryddhad treth i'r graddau llawn sydd ar gael, bydd ganddynt amlen wariant fwy ar gael iddynt. Mae'r egwyddor o hyblygrwydd wedi'i gweu drwy gydol y cynnig polisi parth buddsoddi a bydd yn ymateb i flaenoriaethau rhanbarthol y gellir eu dangos, gan adlewyrchu mai partneriaid rhanbarthol sy'n adnabod eu heconomi orau.

Disgwylir i barthau buddsoddi gyfateb neu gyfateb yn rhannol cyllid y Llywodraeth â buddsoddiad sector preifat, benthyca awdurdodau lleol a chyd-ariannu gan gyrff cyhoeddus eraill lle y bo hynny'n berthnasol. Yn benodol, disgwylir i awdurdodau lleol ddefnyddio refeniw ardrethi annomestig a gedwir i dalu costau benthyca ar gyfer seilwaith (lle y bo'n berthnasol); ailfuddsoddi yn safleoedd treth y parth buddsoddi i gynhyrchu twf pellach; neu wrthbwyso effeithiau disgwyliedig dadleoli gweithgarwch economaidd lleol o ardaloedd difreintiedig. 

Bydd angen rhywfaint o ddeddfwriaeth Cymru ar gyfer parthau buddsoddi gan gynnwys diwygiadau deddfwriaethol i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“LTTA”). Bydd y diwygiadau yn darparu rhyddhad rhag treth trafodiadau tir (“LTT”) ar gyfer trafodiadau cymwys o dir o fewn safle treth arbennig dynodedig yng Nghymru am gyfnod penodol. Bydd hyn yn cynnwys trafodiadau cymwys o fewn parthau buddsoddi Cymru.  Bydd Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn cael ei gwblhau ar gyfer hyn a'i gyhoeddi pan fydd y ddeddfwriaeth yn cael ei gosod gerbron Senedd Cymru.

Casgliad

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Hyrwyddo cydraddoldeb

Bydd Parthau Buddsoddi Cymru o fudd uniongyrchol i'r rhai o oedran gweithio a fydd yn cael y cyfle i dderbyn y swyddi newydd y disgwylir i barthau buddsoddi eu creu. Bydd egwyddorion gwaith teg yn sicrhau bod y swyddi newydd yn deg ac yn ddiogel, gan helpu i fynd i'r afael â gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol o fewn y poblogaethau lleol. 

Bydd achosion busnes parth buddsoddi Cymru yn datblygu llwybrau i'r gwaith newydd i bobl leol. Disgwylir y byddai'r llwybrau hynny yn darparu ar gyfer pob person sydd â nodweddion gwarchodedig i gael cyfle cyfartal i dderbyn swyddi drwy ddileu rhwystrau i gyfranogiad. 

Dros amser disgwylir y bydd budd masnach a buddsoddi mawr i Gymru o'r ddwy ardal parth buddsoddi. Dylai fod o fudd i'r economi ehangach, ac o ganlyniad pawb sydd â nodweddion gwarchodedig ac sydd ar hyn o bryd wedi'u dosbarthu yn y grwpiau economaidd-gymdeithasol is. 

Bydd camau gweithredu gwaith teg parth buddsoddi yn galluogi cyfranogiad cynrychiolwyr undebau llafur i ddarparu mecanwaith i sicrhau ymhellach bod rhwystrau i gyfranogiad yn cael eu dileu a bod cyfle cyfartal i bobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig.

Bydd y Rhaglen Parth Buddsoddi yng Nghymru yn helpu i hyrwyddo datblygu economaidd ar draws economïau a chymunedau lleol drwy ysgogi twf cynhwysol a chynaliadwy yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. 

Gall dod â sefydliadau lleol ynghyd sy'n ceisio cyflawni nodau economaidd tebyg, cyfuno adnoddau a chreu amcanion a rennir fod y ffordd orau o gyflawni canlyniadau sy'n wirioneddol drawsnewidiol. 

Bydd y parthau buddsoddi hefyd yn cefnogi gwaith i ddatgarboneiddio diwydiant yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol gan helpu i gyflawni'r targedau carbon sero net. Bydd twf economaidd gwyrdd yn helpu i fynd i'r afael â materion strwythurol tlodi ac amddifadedd yn yr economïau lleol a rhanbarthol, gan ysgogi cadwyni cyflenwi lleol a chynyddu sgiliau a chymwysterau poblogaethau preswyl. Fel rhan o'r achosion busnes, bydd gwaith datblygu yn cael ei wneud i sefydlu llwybrau clir at waith i bobl leol a busnesau lleol. Bydd hyn yn cael ei gynllunio mewn ffordd sy'n dileu rhwystrau i gyfranogiad a bydd yn galluogi pobl o wahanol grwpiau i gael cyfle cyfartal ar gyfer cael mynediad at y gyflogaeth newydd y disgwylir i'r parthau buddsoddi ei chreu.

Cydlyniant cymunedol a mynd i'r afael â thlodi

Bydd Rhaglen Parth Buddsoddi Cymru yn cymell busnesau preifat i fuddsoddi mewn cyfleoedd newydd yng Nghymru, a fydd yn cynnwys gwneud y cynnydd mwyaf posibl tuag at ddatgarboneiddio. Bydd Rhaglen Parth Buddsoddi Cymru yn adeiladu ar gryfderau lleol presennol a bydd yn gwneud dinasoedd, trefi a phentrefi o fewn pellter teithio i'r parthau buddsoddi hyd yn oed yn well lleoedd i fyw a gweithio ynddynt. 

Mae gan dwf economaidd cynhwysol y potensial i drawsnewid cymunedau difreintiedig sy'n agos at y parthau buddsoddi ac i fynd i'r afael ag achosion sylfaenol y tlodi a'r anfantais y mae pobl yn eu profi ar hyn o bryd. Dylai'r ymrwymiad i waith teg a chynaliadwyedd sicrhau y bydd cyflogaeth newydd yn deg ac yn ddiogel.

Y Gymraeg

Gall diffyg cyfleoedd cyflogaeth lleol mewn cymunedau â lefelau uchel o siaradwyr Cymraeg arwain at fudo allan, yn enwedig o ran pobl ifanc.  Gall hyn erydu'r defnydd o'r iaith yn y cymunedau hyn.  Felly, gall rhoi hwb i amodau economaidd lleol mewn ardaloedd parthau buddsoddi sydd â chyfran sylweddol o siaradwyr Cymraeg gyfrannu at warchod y Gymraeg drwy ddarparu mwy o gyflogaeth yn enwedig i bobl ifanc. Mewn ardaloedd sydd â dwysedd is o siaradwyr Cymraeg, gall creu cyfleoedd economaidd newydd greu amodau i gryfhau'r iaith yn yr ardal.

Bioamrywiaeth a Sero Net

Bydd canolbwyntio gweithgarwch mewn ardaloedd parth buddsoddi tuag at ynni gwyrdd yn lleihau effeithiau negyddol ar yr amgylchedd, yn ogystal â chefnogi newid y DU tuag at ddyfodol carbon is. Mae'r gwaith o sefydlu a datblygu'r parthau buddsoddi yn cael ei arwain a'i fonitro gan LlC a LlDU i sicrhau y gellir lliniaru unrhyw effeithiau ar fioamrywiaeth yn llawn a gwella bioamrywiaeth. 

Bydd arwain y newid i sero net yn flaenoriaeth i ddau barth buddsoddi Cymru.  Mae mynd i'r afael â datgarboneiddio yn floc adeiladu allweddol o ran y DU yn cyflawni ei tharged sero net 2050.  Mae Rhaglen Parthau Buddsoddi Cymru yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a gyflwynir gan drawsnewid ynni. 

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Hirdymor

Bydd Rhaglen Parth Buddsoddi Cymru yn ceisio hyrwyddo adfywio ar draws economïau a chymunedau lleol drwy ysgogi twf cynhwysol a chynaliadwy yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  Bydd parthau buddsoddi Cymru yn anelu at gefnogi cenhadaeth LlC i adeiladu economi ffyniannus, werdd a chyfartal sy'n seiliedig ar egwyddorion gwaith teg, cynaliadwyedd, a diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol. Bydd y parthau buddsoddi yn anelu at wella gallu Cymru i ddenu buddsoddiad a busnesau newydd ymhellach, gan ddod â thwf a ffyniant i gymunedau difreintiedig. 

Nod y rhaglen parth buddsoddi hefyd yw helpu Cymru i ddod yn genedl fwy cynaliadwy drwy wella llesiant cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru, gan gymhwyso'n benodol yr egwyddor datblygu cynaliadwy a gynlluniwyd i wneud y cyfraniad mwyaf at gyflawni pob un o'r nodau llesiant fel y nodir gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. 

Bydd y Rhaglen Parth Buddsoddi yn darparu mynediad at gymysgedd o gymhellion ariannol ynghyd â llywodraethu da a fydd yn cefnogi partneriaeth gref rhwng rhanddeiliaid y sector lleol, preifat a chyhoeddus.  Bydd llywodraethau Cymru a'r DU yn cefnogi'r parthau buddsoddi i ddenu buddsoddiad a datblygu seiliau sgiliau lleol a rhanbarthol cryf. 

Gall parthau buddsoddi Cymru fod yn gatalydd ar gyfer twf economaidd sylweddol yn eu hardaloedd a'r rhanbarthau ehangach sy'n gysylltiedig â diwydiannau sy'n dod i'r amlwg.  Bydd hyn yn cefnogi gwaith i ddatgarboneiddio diwydiant yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol gan helpu i gyflawni'r targedau carbon sero net. Bydd twf economaidd gwyrdd yn helpu i fynd i'r afael â materion strwythurol tlodi ac amddifadedd mewn economïau lleol a rhanbarthol, gan ysgogi cadwyni cyflenwi lleol a chynyddu sgiliau a chymwysterau poblogaethau preswyl.

Atal

Mae'r Rhaglen Parth Buddsoddi yng Nghymru yn gyfle newydd i helpu Cymru i barhau i ddatblygu economi sy'n gystadleuol yn fyd-eang, entrepreneuraidd, gynhwysol a chynaliadwy. Bydd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at ymrwymiadau LlC i'r economi, gwaith teg a'r saith nod llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n darparu manteision hirdymor i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. 

Mae potensial parthau buddsoddi Cymru yn gyfle unigryw i gyflymu prosiectau economaidd potensial uchel gan gynnwys technoleg carbon isel a phrosiectau sy'n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio, gan gyfrannu at yr agenda sero net.  Dylai statws parth buddsoddi sbarduno buddsoddiad preifat ar raddfa fwy. 

Mae'r llywodraeth yn ceisio gwrthdroi'r manteision y mae gweithgynhyrchwyr tramor wedi'u cronni drwy gymorth y wladwriaeth, costau suddedig, ac arbedion maint cronedig a phrofiad helaeth. Mae cynnig cyfunol parth buddsoddi Cymru o dir, cymhellion treth, cydlynu cynllunio, galluogi seilwaith a buddsoddi mewn sgiliau/arloesi yn gymhellol i fuddsoddwyr.

Cydweithredu a Chyfranogiad 

Mae polisi a goruchwyliaeth parthau buddsoddi Cymru yn ymdrech ar y cyd rhwng LlDU a LlC.

Ar lawr gwlad, bydd gan Gyd-bwyllgorau Corfforedig ddull cyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer marchnata cyfleoedd a manteision y parthau buddsoddi, a ffyrdd o ymgysylltu â chymunedau lleol (gan gynnwys grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol), darpar fuddsoddwyr, rhanddeiliaid strategol lleol gan gynnwys endidau sydd â chylch gwaith ar gyfer strategaeth economaidd (is-) ranbarthol; rhanddeiliaid gwleidyddol lleol; a darparwyr addysg a sgiliau lleol.

O ran agweddau deddfwriaethol ar Raglen Parthau Buddsoddi Cymru, roedd diwygiadau i'r Ddeddf Treth Trafodiadau Tir yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ac ymarfer ymgysylltu wyth wythnos, a ddechreuodd ar 19 Rhagfyr 2023 ac a ddaeth i ben ar 18 Chwefror 2024. Cyhoeddwyd y ddogfen ymgynghori, a oedd yn cynnwys yr Offeryn Statudol drafft, ar dudalennau ymgynghori gwefan Llywodraeth Cymru. Roedd ymatebwyr yn gallu cyflwyno eu barn a'u sylwadau. Yn ystod yr ymgynghoriad, cyfarfu swyddogion Llywodraeth Cymru â rhanddeiliaid, i drafod y diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig.

Integreiddio

Gall parthau buddsoddi Cymru sicrhau newid sylweddol mewn buddsoddiad diwydiannol drwy greu swyddi newydd, teg, a diogel yn sectorau yfory a diogelu safonau byw cenedlaethau'r dyfodol.  Mae'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig yn mabwysiadu dull hirdymor, cymunedol, gan ystyried sut y gall y parthau buddsoddi wella ‘llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru’.

Cymru lewyrchus 

Gall parthau buddsoddi Cymru gyflawni buddsoddiad sylweddol i Gymru mewn sectorau diwydiannol modern, gan alluogi pobl i elwa o'r cyfoeth a gynhyrchir drwy sicrhau gwaith teg.  Mae'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig lleol yn bwriadu cyfuno ardrethi annomestig wedi'u hailgylchu er mwyn cefnogi'r broses drawsnewid, er enghraifft, drwy ddarpariaeth alwedigaethol ac academaidd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yn rhanbarthau'r parth buddsoddi, gan helpu i baratoi cenedlaethau'r dyfodol ar gyfer swyddi y bydd eu hangen ar economi'r 21ain ganrif, yn ogystal ag uwchsgilio oedolion sydd eisoes mewn cyflogaeth.

Cymru gydnerth

Bydd y buddsoddiadau mewn technoleg y bydd y parthau buddsoddi yn eu cyflwyno, yn y tymor canolig i'r hirdymor, yn helpu i sicrhau bod allyriadau carbon yn cael eu lleihau'n gyflymach yng Nghymru. At hynny, drwy'r gefnogi'r broses o drawsnewid o economi sy'n defnyddio tanwyddau ffosil, bydd yn lleihau amlygiad Cymru i ysgytwadau i'r galw a'r cyflenwad sy'n gysylltiedig â diwydiannau sy'n agored i ffactorau geowleidyddol megis nwy. 

Mae llawer o leoliadau safleoedd parth buddsoddi yng Nghymru yn lleoliadau tir llwyd sy'n bodoli eisoes, a fydd yn lleihau effaith gwaith datblygu ar fioamrywiaeth leol. Lle y caiff effeithiau eu nodi, mae'n ofynnol i'r parthau buddsoddi gyflwyno mesurau lliniaru.

Cymru iachach

Gall parthau buddsoddi Cymru greu swyddi teg a diogel a chynyddu cyflogaeth a fydd yn gwella iechyd meddwl ceiswyr swyddi. Mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd â chyfraddau cyflogaeth uchel yn fwy tebygol o fwy'n hirach – mae cydberthyniad cadarnhaol rhwng cyfradd cyflogaeth ardal a disgwyliad oes iach dynion a menywod.

Cymru sy'n fwy cyfartal 

Bydd parthau buddsoddi Cymru yn cyfeirio buddsoddiad preifat sylweddol at ardaloedd sy'n ffinio â chymunedau difreintiedig yng Nghymru. Byddant yn creu cyfleoedd yn y farchnad lafur a chyfleoedd hyfforddiant (drwy fuddsoddiad preifat, ymrwymiadau perchnogion tir/datblygwyr ac ardrethi annomestig wedi'u hailgylchu) i bobl leol yn y cymunedau hyn. Bydd y twf economaidd rhagamcanol o amgylch y parthau buddsoddi yn helpu i fynd i'r afael â thlodi, gan gynyddu cynhyrchiant a chyflogau lleol.

Cymru o gymunedau cydlynus 

Mae mwy o fuddsoddiad ac economi leol sy'n tyfu yn aml yn gysylltiedig â mwy o gydlyniant cymunedol. 

Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu 

Bydd y parthau buddsoddi yn diogelu ac yn cryfhau'r Gymraeg. Bydd creu swyddi ar draws y sbectrwm sgiliau cyfan, ynghyd â darpariaeth addysg bwerus, yn darparu llwyfan cadarn i wireddu dyheadau pobl leol. Bydd hyn yn lleihau allfudo o ardaloedd parth buddsoddi – sy'n broblem benodol ymhlith yr aelodau iau o'r boblogaeth sy'n fwy tebygol o siarad Cymraeg. Gall y parth buddsoddi hefyd greu amodau economaidd ffafriol a allai gynyddu nifer a defnydd y Gymraeg mewn ardaloedd dwysedd is 

At hynny, gall twf economaidd cynyddol greu refeniw i'w fuddsoddi mewn diwylliant a'r celfyddydau. 

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang 

Mae'r parthau buddsoddi yn cynnig cyfle i Gymru gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel cynhyrchydd ac arloeswr pwysig wrth ddatblygu a gweithgynhyrchu cynhyrchion a all gael effaith fyd-eang.   

Lleihau Effeithiau Negyddol

Mae canllawiau'r Llywodraeth i barthau buddsoddi Cymru yn gynhwysfawr ac mae'n gofyn iddynt gyfleu eu gweledigaeth. Rhaid i hyn gynnwys crynodeb o sut y gall y parth buddsoddi sicrhau ei fod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl at gyflawni nodau llesiant cenedlaethol Cymru fel y'u nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 

Yn ogystal, rhaid i bob parth buddsoddi lunio achos busnes gan gynnwys achos economaidd, mesurau gwaith teg (gan gynnwys datganiadau gwaith teg cyhoeddedig gydag ymrwymiadau clir), asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, cynigion datgarboneiddio, a mesurau rheoli amgylcheddol.

Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben? 

Bydd effaith parthau buddsoddi  Cymru yn cael ei monitro a'i mesur fel rhan o Fframwaith Monitro a Gwerthuso Parthau Buddsoddi ledled y DU

A. Asesiad o'r effaith ar hawliau plant

Amcanion polisi 

Mae hwn yn asesiad o effaith ar gyfer Rhaglen Parth Buddsoddi Cymru sy'n cynnig cyfle i harneisio potensial economaidd helaeth Cymru.

Gweithiodd Llywodraeth Cymru (LlC) gyda Llywodraeth y DU (LlDU) i gynllunio model parth buddsoddi Cymru, i gyflawni tri phrif amcan:

  • cryfhau diwydiannau allweddol
  • hybu arloesedd yng Nghymru ac ar draws y DU
  • cefnogi gwaith teg a chynaliadwyedd

Bydd busnesau yn elwa o fod yn rhan o barth arbennig. Mae hyn yn cynnwys:

  • buddion treth; a
  • chyllid grant.

Mae'r Rhaglen yn cynnwys polisïau ar waith teg a phartneriaeth gymdeithasol i sicrhau bod gweithwyr yn:

  • cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli
  • gallu symud ymlaen mewn amgylchedd gwaith diogel, iach a chynhwysol
  • yn cael eu hawliau wedi'u parchu.

Yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru y byddai dau barth buddsoddi yng Nghymru. Mae'r rhain fel a ganlyn:

  • Ardaloedd Teithio i'r Gwaith Caerdydd a Chasnewydd, a ddarperir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-ddwyrain Cymru
  • Ardal Teithio i'r Gwaith Wrecsam a Sir y Fflint, a ddarperir gan Gyd-bwyllgor Corfforedig Gogledd Cymru

Mae'r Rhaglen Parthau Buddsoddi yn fenter datblygu economaidd hirdymor a oruchwylir gan lywodraethau Cymru a'r DU a fydd yn creu cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau i blant yn y rhanbarth pan fyddant yn dod yn oedolion ifanc.

Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc

Yn dilyn chwiliad helaeth, ni ellid dod o hyd i unrhyw ymchwil na data perthnasol ar blant na phobl ifanc mewn perthynas â pharthau buddsoddi na mentrau adfywio economaidd yn fwy cyffredinol. Bydd y penderfyniadau terfynol ynghylch pa fusnesau a fydd yn ymsefydlu yn y parthau buddsoddi, a'r prosiectau seilwaith cysylltiedig, yn cael eu gwneud fel rhan o'r gwaith o ddatblygu achosion busnes sy'n mynd rhagddo.  Bydd ffactorau ariannol a masnachol yn llywio'r broses hon er bod yn rhaid i'r buddsoddiad gyd-fynd ag amcanion y parth buddsoddi i ddenu buddsoddiad a chreu swyddi o ansawdd uchel.  Ymgysylltir â phlant a phobl ifanc pan fydd yn glir pa fuddsoddiadau y bwriedir eu gwneud a pha seilwaith y bwriedir ei gyflwyno ar gyfer pob parth buddsoddi er mwyn iddynt roi eu barn ar natur y buddsoddiad hwnnw a'r ffordd y caiff ei roi ar waith. 

Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith

Mae polisi parthau buddsoddi yn rhoi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.  Un o brif amcanion parthau buddsoddi yw codi safonau byw i gymunedau lleol o fewn ffin parth buddsoddi a'r cymunedau sy'n gysylltiedig ag ef. Mae ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011’ sy'n seiliedig ar ‘Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn’ yn cynnwys yr erthyglau canlynol a allai fod yn berthnasol yng nghyd-destun parthau buddsoddi. 

  • Erthygl 2: gyda mabwysiadu mesurau gwaith teg, mae gan y parthau buddsoddi y potensial i wella tegwch a chyfiawnder mewn rhagolygon economaidd i bobl ifanc ledled Cymru.
  • Erthygl 12: bydd y parthau buddsoddi yn ceisio cynnwys plant mewn cynlluniau ymgysylltu â rhanddeiliaid fel bod ganddynt lais ar sut mae cynigion yn cael eu datblygu a'u gweithredu.
  • Erthygl 27 (safon byw) – bydd y cyfleoedd cyflogaeth a sgiliau mewn parthau buddsoddi yn codi'r safonau byw i deuluoedd â phlant, ac i oedolion ifanc.
  • Erthygl 28 (hawl i addysg) – un o brif ffocws y Rhaglen yw datblygu sgiliau i bobl ifanc

Cyngor a phenderfyniad gweinidogol

Mae'r asesiad hwn wedi'i gymeradwyo ar lefel Dirprwy Gyfarwyddwr a bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn cael gwybod am yr asesiad.

Cyhoeddi Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant

Mae'r asesiad hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cyfathrebu â phlant a phobl ifanc

Bydd parthau buddsoddi Cymru yn ceisio cynnwys plant mewn cynlluniau ymgysylltu â rhanddeiliaid fel bod ganddynt lais ar sut mae cynigion yn cael eu datblygu a'u gweithredu. 

Monitro ac Adolygu

Bydd effaith parthau buddsoddi  Cymru yn cael ei monitro a'i mesur fel rhan o Fframwaith Monitro a Gwerthuso Parthau Buddsoddi ledled y DU sy'n cael ei ddatblygu. Bydd hyn yn ystyried ffyrdd o fesur effeithiau ar blant.

B. Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg

Cyfeirnod yr Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg (a gwblhawyd gan Dîm Safonau'r Gymraeg, e-bost: Safonau.Standards@gov.wales): 03/10/2025

A yw'r cynnig yn cysylltu'n glir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg?

Ydy, mae'r Rhaglen Parthau Buddsoddi yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg a'r defnydd o'r Gymraeg erbyn 2050.  Bydd hyn yn helpu i greu cymunedau cydlynus a diogelu a hybu'r Gymraeg, ei diwylliant a'i threftadaeth.

Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg ac eglurwch sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y Gymraeg. Sut y bydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oedran (effeithiau cadarnhaol a/neu effeithiau andwyol)? 

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru “Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr” yn nodi pwysigrwydd cynnal a meithrin cymunedau lle ceir niferoedd mawr o siaradwyr Cymraeg. Mae hefyd yn cydnabod y cyfleoedd i gynyddu nifer a defnydd yr iaith mewn ardaloedd sydd â dwysedd is o siaradwyr Cymraeg sy'n ganolog i'r nod o sicrhau bod y Gymraeg yn ffynnu ledled Cymru gyfan. Mae cysylltiadau clir â'r parthau buddsoddi yn hyn o beth gan y gall pobl sy'n symud i mewn i'r cymunedau hyn ac yn eu gadael gael effaith ar nifer y siaradwyr Cymraeg.

Bydd parthau buddsoddi yn diogelu ac yn cryfhau'r Gymraeg drwy greu swyddi ar draws y sbectrwm sgiliau cyfan, ynghyd â darpariaeth addysg bwerus, a byddant yn darparu llwyfan cadarn i wireddu dyheadau pobl leol o bob oedran. Un o nodau eraill strategaeth y Gymraeg yw cadw siaradwyr Cymraeg ifanc mewn cymunedau Cymraeg fel nod gan fod hyn yn hyrwyddo parhad y Gymraeg i genedlaethau'r dyfodol. Yn ogystal, nod Cymraeg 2050 yw creu amodau ffafriol i'r iaith ffynnu ym mhob rhan o Gymru, sy'n cynnwys cyfleoedd newydd i ddysgu a defnyddio'r iaith mewn ardaloedd sydd â dwysedd is o siaradwyr Cymraeg.

At hynny, mae Adran 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi bod Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu yn un o'r saith nod llesiant. Mae'n ofynnol i gynlluniau busnes parthau buddsoddi nodi sut y byddant yn cyfrannu at gyflawni'r saith Nod Llesiant Cenedlaethol, gan gynnwys “Cymru â diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu”.

Bydd yn ofynnol i Gyd-bwyllgorau Corfforedig a'r busnesau y maent yn eu cefnogi gyrraedd safonau statudol y Gymraeg gan gynnwys safonau ar gyfer deunydd digidol, arwyddion a hyfforddiant a digwyddiadau cyhoeddus. Bydd darparwyr a phartneriaid yn cael y pecyn cymorth canlynol Pecyn cymorth technoleg dwyieithog: profiad da i’r defnyddiwr | LLYW. CYMRU.

Cafwyd tystiolaeth ar gyfer yr asesiad hwn o'r Gymraeg o'r ffynonellau canlynol:

  • yr “Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth - Gallu siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn” (Llywodraeth Cymru (2024) Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth - Gallu siarad Cymraeg yn ôl awdurdod lleol a blwyddyn); ac
  • ymgysylltu â'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig 

Caiff nifer y siaradwyr Cymraeg, a'r defnydd o'r Gymraeg, yn ardaloedd y parthau buddsoddi ei dracio er mwyn mesur effaith y Rhaglen ar yr iaith.

Byddwn yn edrych ar ganfyddiadau'r gwerthusiad annibynnol o'r Rhaglen ARFOR a byddwn yn ystyried y gwersi allweddol a ddysgwyd a'r cyfleoedd i brif ffrydio'r Gymraeg mewn ymyriadau economaidd-gymdeithasol.