Neidio i'r prif gynnwy

Mae dros 131,000 o dyllau ar draws 266 milltir o ffordd yng Nghymru wedi cael eu trwsio neu eu hatal yn ystod y chwe mis diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers mis Ebrill mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos gyda chynghorau lleol i gyflawni ei hymrwymiad o ran 'Trwsio ein ffyrdd'.

Mae'r fenter benthyca ar gyfer llywodraeth leol wedi galluogi cynghorau lleol i drwsio neu atal tua 107,000 o dyllau ar draws 216 milltir ar ffyrdd lleol yng Nghymru. Ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol (SRN) mae tua 24,000 o dyllau wedi'u trwsio neu eu hatal ar fwy na 50 milltir o ffordd yn yr un cyfnod, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.

Hyd yma mae 480 o gynlluniau ailwynebu lleol ac 20 o gynlluniau ailwynebu cefnffyrdd wedi'u cwblhau ledled y wlad a bydd mwy yn cael eu cwblhau cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Mae cynlluniau fel yr A548 o Abergele i Lanfair Talhaiarn yng Nghonwy a Heol yr Orsaf, Rogiet i ger Heol Shakespeare, Cil-y-coed yn Sir Fynwy eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr o fewn cymunedau lleol.

Mae'r gwaith yn parhau gyda chynlluniau pellach megis yr A487 yn Eglwyswrw a'r A40 Arnold's Hill yn Sir Benfro a'r A55 Dobbs Hill i Ewlo yn Sir y Fflint.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Mae trwsio ein ffyrdd yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon.

"Er nad yw'r rhaglen hon ond ar waith ers chwe mis rwy'n falch iawn o'r gwaith gwych sydd wedi'i wneud hyd yn hyn, ac mae llawer mwy i ddod.

"Rydym nawr yn gweld canlyniadau'r buddsoddiad ychwanegol o £25m yn ein prif ffyrdd, a'r gefnogaeth i'n hawdurdodau lleol i drwsio ffyrdd lleol.

"Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i gymunedau ledled Cymru, gan ddatrys problemau nawr a gwneud ein ffyrdd yn fwy gwydn ar gyfer y dyfodol.”