Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n cyhoeddi'r Datganiad hwn i hysbysu'r aelodau bod penodiadau Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi'u hymestyn.

Mae penodiad Ruth Glazzard fel Cadeirydd wedi'i ymestyn hyd at fis Hydref 2026.

Mae penodiad Jocelyn Davies fel Dirprwy Gadeirydd wedi'i ymestyn hyd at fis Hydref 2027. 

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Ruth a Jocelyn am eu cyfraniad parhaus i Fwrdd ACC. 

Mae'r penderfyniadau hyn yn adlewyrchu cyfraniad y ddau unigolyn i waith ACC. Maent hefyd yn rhoi sefydlogrwydd ar adeg pan fo Prif Weithredwr newydd i'w benodi ac ACC yn ymgymryd â chyfrifoldebau newydd sylweddol o ganlyniad i ddeddfwriaeth ddiweddar a basiwyd gan y Senedd hon.