Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir a chyd-destun deddfwriaethol

O dan adran 303 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“Deddf 1990”) gall Gweinidogion Cymru ragnodi ffioedd neu daliadau mewn cysylltiad â swyddogaethau cynllunio. Mewn perthynas â chategorïau ffioedd ceisiadau cynllunio Awdurdodau Cynllunio Lleol, ar hyn o bryd mae'r rhain wedi'u nodi yn Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 Rhif 1522 (fel y'u diwygiwyd) (“Rheoliadau Ffioedd 2015”). 

Daeth Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau Ffioedd 2025”) yn weithredol ar 20 Hydref 2025. Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer system fwy effeithiol ac effeithlon o ddiweddaru a chyhoeddi ffioedd. Bydd hyn yn cynorthwyo Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r diffyg presennol rhwng cost pennu ceisiadau a'r incwm a dderbyniwyd ar gyfer darparu'r gwasanaeth hwn. 

Roedd ein dull gweithredu mewn perthynas â'r amseru a'r dull o gynyddu ffioedd yn destun ymgynghoriad. Mae dogfennau'r ymgynghoriad, ymateb y Llywodraeth i'r ymgynghoriad a'r Memorandwm Esboniadol i'r Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gefnogi Rheoliadau Ffioedd 2025 i'w gweld drwy'r dolenni canlynol:

Effaith rheoliadau ffioedd 2025

Effaith Rheoliadau Ffioedd 2025 yw bod categorïau a strwythur y ffioedd sefydledig presennol a nodwyd yn Rheoliadau Ffioedd 2015 (fel y'u diwygiwyd) yn cael eu cadw a bod unrhyw werthoedd ariannol a briodolir iddynt yn cael eu dileu. Mae'r gwerth ariannol hwn wedi cael ei gyhoeddi bellach, ynghyd â gwybodaeth arall, mewn Dogfen Ffioedd gan Weinidogion Cymru. Yn ogystal, mae Rheoliadau 2025 yn gwneud newidiadau i'r trothwyon ffioedd amrywiol ar gyfer datblygiad preswyl (gan gynnwys newid defnydd).  Ar gyfer ceisiadau amlinellol, mae'r trothwy wedi lleihau o 2.5 hectar i 1.2 hectar, ac ar gyfer ceisiadau llawn, o 50 o unedau i 25 o unedau. 

Mae Rheoliadau Ffioedd 2025 yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi Dogfen Ffioedd ar wefan a gynhelir gan, neu ar ran, Gweinidogion Cymru. Rhaid i'r Ddogfen Ffioedd amlinellu: 

  • Y dull a ddefnyddir i gyfrifo ffioedd
  • Swm y ffioedd sy'n daladwy
    • Y cyfnod o amser sy'n ymwneud ag unrhyw newidiadau i ffioedd
    • Amseru ac amlder y broses o gyhoeddi'r Ddogfen Ffioedd
    • Y dyddiad y daw'r Ddogfen Ffioedd yn weithredol
    • Gofynion ymgynghori 

Rhaid i'r Ddogfen Ffioedd gael ei chyhoeddi o leiaf bedair wythnos cyn y diwrnod y daw'r Ddogfen Ffioedd yn weithredol. 

Amseru cynnydd mewn ffioedd yn y dyfodol

Yn dilyn y cynnydd cychwynnol mewn ffioedd, a ddaw yn weithredol ar 01 Rhagfyr 2025, daw Dogfen Ffioedd newydd yn weithredol ar 1 Ebrill bob blwyddyn, gan ddechrau ar 1 Ebrill 2027. 

Ni fydd unrhyw gynnydd mewn ffioedd yn 2026, oherwydd gallai cyflwyno addasiad arall mor fuan ar ôl y cynnydd mewn ffioedd a gyflwynir ar 1 Rhagfyr 2025 achosi ansicrwydd ymysg ymgeiswyr. Felly, ystyrir ei bod yn amhriodol cyflwyno'r cynnydd nesaf ar 1 Ebrill 2026 o ystyried y cyfnod byr ers y newid blaenorol. 

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi unrhyw gynnydd mewn ffioedd ar wefan Llywodraeth Cymru o leiaf bedair wythnos cyn i'r cynnydd ddod yn weithredol. Er mai pedair wythnos yw'r gofyniad cyhoeddi sylfaenol, fel arfer, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r Ddogfen Ffioedd newydd dri mis cyn i unrhyw gynnydd ddod yn weithredol. Bydd hyn yn rhoi digon o amser i'r ACLlau wneud trefniadau hysbysu a chyhoeddi. Hefyd, bydd copi caled o'r Ddogfen Ffioedd wedi'i diweddaru ar gael gan Lywodraeth Cymru ar gais. 

Y dull o ddiweddaru ffioedd

Caiff yr holl ffioedd cynllunio eu cynyddu yn unol â chyfradd chwyddiant, fel y'i mesurir gan y Mynegai Prisiau Defnyddwyr o'r mis Medi blaenorol.  Bydd y ffioedd yn aros yr un fath ac ni chânt eu codi os bydd chwyddiant negyddol (dibrisiant). Caiff ffioedd eu talgrynnu i’r £1 agosaf. 

Caiff y categorïau ffioedd hynny a roddwyd ar y Llwybr Adennill Costau Llawn eu cynyddu hyd at 10% y flwyddyn (neu £100, pa un bynnag yw'r mwyaf) yn ogystal â chwyddiant blynyddol, nes i'r targed Adennill Costau Llawn gael ei gyrraedd. Pan fydd y targed Adennill Costau Llawn wedi'i gyrraedd, bydd cynnydd blynyddol yn gysylltiedig â chwyddiant yn unig. Caiff y math o gynnydd mewn ffioedd ar gyfer pob categori ei ddynodi'n glir.

Mae'r cynnydd cychwynnol mewn ffioedd (1 Rhagfyr 2025) yn seiliedig ar gynnydd mewn chwyddiant (ac Adennill Costau Llawn pan fydd yn gymwys) o 2020 (y cynnydd diwethaf mewn ffioedd) hyd at fis Mehefin 2024. Nid yw'r ffioedd wedi'u diwygio i lefelau chwyddiant 2025 i sicrhau cysondeb â chynigion yr ymgynghoriad. 

Bydd y cynnydd nesaf mewn ffioedd a ddaw yn weithredol ar 1 Ebrill 2027 yn cyfrif am chwyddiant o fis Mehefin 2024 i fis Medi 2026. Bydd cynnydd dilynol a ddaw yn weithredol o 1 Ebrill 2028 yn seiliedig ar chwyddiant blynyddol o fis Medi i fis Medi a dônt yn weithredol bob mis Ebrill. 

Yn ogystal â chwyddiant, bydd y categorïau hynny ar y llwybr Adennill Costau Llawn yn parhau i gael eu haddasu 10% bob blwyddyn (neu £100, pa un bynnag yw'r mwyaf) nes i'r targed Adennill Costau Llawn gael ei gyrraedd. 

Gofynion ymgynghori

Mae'r dull presennol o ddiweddaru ffioedd eisoes wedi bod yn destun ymgynghoriad. Pe byddai Llywodraeth Cymru yn newid y dull, y cyfnod o amser sy'n berthnasol i unrhyw newidiadau mewn ffioedd, ac amlder cyhoeddi cynnydd mewn ffioedd, yna bydd hyn yn destun ymgynghoriad cyn gwneud unrhyw newidiadau, a chyn i unrhyw gynnydd mewn ffioedd ddod yn weithredol.