Mewn cyfres o gyfarfodydd cyhoeddus, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles, yn dwyn pob sefydliad y GIG i gyfrif o ran sut y mae’n mynd ati i wella gofal a mynediad.
Bydd y cyfarfodydd yn agored i’r cyhoedd eu gwylio ar-lein gan roi cipolwg ar drafodaethau rhwng yr Ysgrifennydd Cabinet a byrddau iechyd ynglŷn â sut y caiff y GIG ei redeg yng Nghymru.
Byddant yn canolbwyntio ar sut y mae’r GIG yn cyrraedd targedau amseroedd aros, ei sefyllfa ariannol a’i ragolygon a materion o ran ansawdd a diogelwch
Cynhelir y cyfarfod cyntaf ddydd Iau 23 Hydref 2025 gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
Rwyf wedi trefnu’r cyfarfodydd hyn gan fy mod eisiau gwella atebolrwydd a thryloywder yn y gwasanaeth iechyd.
Rwyf eisiau i bobl gael hyder yn safonau gofal iechyd a pherfformiad sefydliadau iechyd lle maen nhw’n byw.
Rwy’n awyddus i agor y drysau i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru a gwella hyder yn y system.
Cyn diwedd mis Mawrth 2026, bydd cyfarfodydd atebolrwydd cyhoeddus yn cael eu cynnal gyda phob bwrdd iechyd a chydag Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, Iechyd a Gofal Digidol Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Bydd pob cyfarfod yn agored i unrhyw un ei wylio ar-lein.
Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles hefyd wedi nodi cyfres o gamau eraill i wella tryloywder ac atebolrwydd yn y GIG:
- Cyhoeddi mwy o ddata perfformiad y GIG nag erioed o’r blaen, gan gynnwys adroddiad chwarterol ynghylch sut y mae’r byrddau iechyd yn perfformio yn erbyn mesurau allweddol o ran gofal brys a gofal a gynlluniwyd, yn ogystal â ffigurau dros dro ar gyfer yr arosiadau hiraf am y mis calendr llawn diweddaraf.
- Mae model clinigol Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi’i ddiwygio ac mae’n cynnwys mesurau mwy ystyrlon sy’n seiliedig ar ganlyniadau.
- Yr wythnos diwethaf, cymeradwyodd y Senedd reoliadau a fydd yn diwygio system gwynion a gwneud iawn y GIG. Bydd y system newydd, Gwrando ar Bobl, yn annog mwy o onestrwydd a thryloywder pan fo rhywbeth yn mynd o’i le.
- Mae holl sefydliadau’r GIG yn casglu’n systematig adborth cleifion am wasanaethau.
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:
Os ydyn ni am wella’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, rhaid inni sicrhau bod sefydliadau yn agored ac yn onest, yn defnyddio data i wella eu perfformiad a’i fod ar gael i’r cyhoedd, yn gwrando ar bobl sy’n defnyddio’u gwasanaethau ac yn gallu dysgu o’u camgymeriadau.
