Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru, 2 Hydref 2025: cofnodion
Cofnodion ar gyfer y cyfarfod Pwyllgor Cyswllt Ystadegol Cymru ar 2 Hydref 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Philip Barlow (PB), Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Lee Clarke (LC), Cyngor Sir Caerdydd
Rachael Clifford (RC), Medr
Peter Davies (PD), Comisiwn y Senedd
Vicky Doyle (VD), Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Janine Edwards (JE), Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Andre Fedeli (AF), Iechyd Cyhoeddus Cymru
Manon Fflur Pritchard (MFP), Cyngor Gwynedd
Tyla Fuller (TF), Estyn
Bryn Jeffries (BJ), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Hefin Jones (HJ), Cymen
Paul Jones (PJ), Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Richard Jones (RJ), Cyngor Sir Fynwy
Geeta Kerai (GK), y Swyddfa Ystadegau Gwladol - Lleol
Steve King (SK), Cyngor Dinas a Sir Abertawe
Henry Knowles (HK), Llywodraeth Cymru
Anja Knox (AK), Llywodraeth Cymru
Morgan Lowden (ML), Cyngor Sir Ynys Môn
Geraint Morgan (GM), Cyngor Sir Powys
Brenna Organ (BO), Data Cymru
Lara Phelan (LP), y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Andreas Pieris-Plumley (APP), Cyngor Bro Morgannwg
Hayley Randall (HR), Data Cymru
Lesley Rees (LR), Cyngor Sir Caerfyrddin
Elaine Smith (ES), Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Caitlin Theodorou (CT), Cyngor Sir Ceredigion
Alwyn Williams (AW), Cyngor Sir Ynys Môn
Megan Williams (MW), Llywodraeth Cymru
Andy Wilson (AWi), Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen
Lowri Wyn Morton (LWM), Cyngor Gwynedd
Siaradwyr
Nicole Burchill (NB), Llywodraeth Cymru
Richard Davies (RD), Llywodraeth Cymru
Steph Howarth (SH), Llywodraeth Cymru
Nia Jones (NJ), Llywodraeth Cymru
Jay Lindop (JL), y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Martin Parry (MP), Llywodraeth Cymru
Gowan Watkins (GW), Llywodraeth Cymru
Cofnodwr
Jasmine Sears, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
Brett Davis, Heddlu De Cymru
Eleri James, Comisiynydd y Gymraeg
Leanne John, Cyngor Abertawe
Kate Jones, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yng Nghymru
Jonathan Radcliffe, Chwaraeon Cymru
Neil Townsend, y Swyddfa Ystadegau Gwladol
Nia Wyn Vaughan, Cyngor Gwynedd
Cyflwyniad
Mae'r sleidiau cyflwyno wedi'u cyhoeddi ar-lein.
Esboniwyd y trefniadau ar gyfer cyfieithu ar y pryd yn y cyfarfod, a rhoddwyd cyflwyniadau ar gyfer y rhai a oedd yn bresennol am y tro cyntaf.
Cofnodion a chamau gweithredu'r cyfarfod blaenorol
Nid oedd unrhyw sylwadau ar gofnodion y cyfarfod diwethaf. Roedd y camau gweithredu blaenorol i gyd wedi'u cwblhau.
Un o'r camau gweithredu blaenorol oedd trosglwyddo adborth am y ffaith fod y seminar digartrefedd wedi'i chynnal wyneb yn wyneb yn unig, oedd yn golygu nad oedd rhai aelodau wedi gallu cymryd rhan. Bydd y tîm yn ystyried hyn ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol. Mae'r tîm ystadegau tai wedi cyhoeddi'r cyflwyniadau o'r seminar grŵp gwybodaeth tai (digartrefedd).
Ystadegau chwarterol a diweddariadau Data Cymru
Diweddariad Ystadegau Cymru (Stephanie Howarth, Llywodraeth Cymru)
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y cylchlythyr sydd wedi'i gyhoeddi.
Rhoddodd SH grynodeb o brif bwyntiau'r cylchlythyr, gan gynnwys lansio llwyfan newydd StatsCymru a chais am adborth gan y tîm ystadegau tân ar yr allbynnau ynghylch tanau glaswelltir a thanau bwriadol.
Trafodaeth
Gofynnodd JE pa ranbarthau a fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer amcangyfrifon GDP rhanbarthol, gan awgrymu y byddai'n ddefnyddiol cael mwy o ddata ar gyfer ardaloedd is-ranbarthol yng Nghymru. Gofynnodd SH a yw'r Lefelau Tiriogaethol Rhyngwladol (ITLs) yn addas a bydd yn gwirio pa lefelau daearyddiaeth sy'n cael eu defnyddio ar gyfer yr amcangyfrifon GDP rhanbarthol.
Cam gweithredu 1: SH i ofyn i'r tîm ystadegau economaidd pa lefelau daearyddiaeth sy'n cael eu defnyddio ar gyfer ystadegau GVA a GDP rhanbarthol.
Holodd JE am y diweddariadau disgwyliedig i setiau data tai a meddygon teulu nad oedd wedi'u cyhoeddi. Atebodd SH gan ddweud mai heriau casglu data oedd yr achos ac y bydd yn trosglwyddo adborth i'r tîm tai fel y gallant ddarparu dyddiad ar gyfer diweddariadau disgwyliedig i'r setiau data hyn.
Diweddariad ar amcangyfrifon poblogaeth (Martin Parry, Llywodraeth Cymru)
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y cylchlythyr sydd wedi'i gyhoeddi.
Rhoddodd MP grynodeb o brif bwyntiau'r cylchlythyr, a oedd yn cynnwys amcangyfrifon poblogaeth newydd canol 2024 ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ni chafwyd unrhyw gwestiynau na sylwadau am y diweddariad.
Diweddariad Data Cymru (Hayley Randall, Data Cymru)
I gael rhagor o wybodaeth, gweler diweddariad Data Cymru.
Rhoddodd HR grynodeb o ddiweddariad Data Cymru, gan gynnwys yr integreiddio rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Data Cymru, diweddariadau ar yr arolwg preswylwyr cenedlaethol a dangosfwrdd ar y cyd y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar ddata llesiant.
Trafodaeth
Gofynnodd ES pryd y byddai gwefan meincnodi Cymru yn cael ei diweddaru gan fod data sydd wedi dyddio ar y wefan ar hyn o bryd. Atebodd HR y dylai'r wefan fod yn gyfredol, ac y byddai hyn yn cael ei wirio. Bydd HR yn mynd ar drywydd hyn gydag ES.
Cam gweithredu 2: HR i wirio bod gwefan meincnodi Cymru wedi'i diweddaru a rhoi diweddariad i ES.
Diweddariad StatsCymru
Cyflwynodd RD sleidiau ar wasanaeth newydd StatsCymru a aeth yn fyw ar 26 Medi. Esboniodd RD y broses lle mae cyhoeddwyr yn adeiladu'r setiau data, y prosesau ar gyfer cyfieithu metadata a gallu'r StatsCymru newydd i drin setiau data mawr.
Yna dangosodd NB sut i ddefnyddio gwasanaeth newydd StatsCymru i hidlo a lawrlwytho setiau data. Dangosodd NB hefyd sut i weld y metadata ar gyfer pob set ddata.
Nododd RD y bydd yr holl ddata newydd yn cael ei gyhoeddi ar y gwasanaeth newydd yn unig, ond y bydd yr hen wasanaeth yn dal ar gael i'w weld yn ystod y cyfnod pontio o'r hen wasanaeth i'r gwasanaeth newydd. Ychwanegodd SH y bydd yr hen wasanaeth yn debygol o gael ei gau i ddefnyddwyr tua mis Ionawr 2026, pan fydd y contract presennol yn dod i ben. Ychwanegodd RD fod y gwasanaeth yn dal i fod mewn cyfnod datblygu a nododd ei bod yn bwysig cael adborth i wella'r gwasanaeth.
Trafodaeth
Dywedodd JE bod diffyg swyddogaeth chwilio ar y gwasanaeth newydd yn ei gwneud yn anodd dod o hyd i'r setiau data cywir. Fe wnaeth JE hefyd sylwadau ar hygyrchedd y wefan newydd a mynegi pryderon y byddai defnyddwyr yn cael trafferth dod o hyd i'r data sydd ei angen arnynt os nad ydynt eisoes yn dda am ddefnyddio Excel. Awgrymodd JE y dylai'r metadata fod gyda'r data a bod angen i godau ardal fod ym mhob tabl. Awgrymodd JE hefyd y byddai canllaw defnyddiwr sy'n esbonio'r broses o lawrlwytho a hidlo'r setiau data yn ddefnyddiol.
Awgrymodd GM y dylai setiau data ddangos y data diweddaraf yn gyntaf. Cadarnhaodd RD fod hyn wrthi'n cael ei ddatrys.
Cytunodd GM hefyd fod diffyg swyddogaeth chwilio ar y safleoedd newydd yn ei gwneud yn anodd dod o hyd i setiau data a'i bod yn anodd darganfod a yw set ddata wedi cael ei symud i'r safle newydd.
Cytunodd VD â'r adborth gan JE a rhoddodd sylwadau pellach am y pryderon ynghylch hwylustod defnyddio'r safle newydd. Dywedodd VD y byddai defnyddwyr heb sgiliau Excel medrus yn ei chael yn anodd defnyddio'r gwasanaeth newydd.
Cytunodd PD â'r adborth gan eraill a nododd bwysigrwydd swyddogaeth chwilio a hygyrchedd y safle newydd.
Awgrymodd JE gael sesiwn grŵp i roi adborth ar y gwasanaeth newydd.
Atebodd RD gan ddweud bod y gwasanaeth newydd yn dal i gael ei wella a'i ddatblygu ac mai un o flaenoriaethau'r gwasanaeth newydd oedd ei wneud yn hygyrch i ddefnyddwyr. Ychwanegodd SH fod yr holl adborth ar y gwasanaeth newydd yn cael ei werthfawrogi ac y bydd yn helpu i benderfynu pa ddatblygiadau y mae angen eu blaenoriaethu ar gyfer y gwasanaeth newydd.
Diolchodd SH i'r aelodau am eu hadborth ac anogodd unrhyw un sydd ag adborth ychwanegol i lenwi'r ffurflen adborth StatsCymru sydd i'w gweld ar y wefan.
Cam gweithredu 3: Dylai'r holl aelodau sydd ag adborth i'w roi ar wasanaeth newydd StatsCymru lenwi ffurflen adborth StatsCymru.
Diweddariad ar Fynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025
Rhoddodd NJ gyflwyniad ynghylch hynt y gwaith ar MALlC 2025, y bwriedir ei gyhoeddi ddiwedd mis Tachwedd. Rhoddodd NJ ddiweddariad ar ansawdd y data a'r newidiadau i'r dangosyddion. Mae cynlluniau hefyd i wahodd cynrychiolwyr awdurdodau lleol i wirio'r data ar gyfer eu hardaloedd, o ran synnwyr.
Esboniodd NJ y cynllun i ryddhau data ar lefel daearyddiaeth ardal gynnyrch ehangach haen is ar y diwrnod cyhoeddi a lefelau daearyddiaeth eraill i ddilyn yn ystod y misoedd dilynol. Gofynnodd NJ i'r grŵp am awgrymiadau ar ba lefelau daearyddiaeth sydd bwysicaf i'w blaenoriaethu ar ôl y dyddiad cyhoeddi.
Trafodaeth
Gofynnodd AWi a oes bwriad i gynnal sesiynau ar gyfer awdurdodau lleol i sicrhau ansawdd y data cyn ei gyhoeddi. Dywedodd NJ y bydd sesiwn rithwir ar 6 Tachwedd ar gyfer cynrychiolwyr awdurdodau lleol.
Yr ymateb i'r cwestiwn am lefelau daearyddiaeth oedd clystyrau gofal sylfaenol, ardaloedd llesiant, ardaloedd ward ac ardaloedd byrddau iechyd.
Cynlluniau Cyfrifiad 2031
Cyflwynodd JL y cynlluniau ar gyfer Cyfrifiad 2031. Ym mis Gorffennaf 2025, comisiynodd Llywodraeth y DU y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynnal cyfrifiad gorfodol, seiliedig ar gwestiynau, ar gyfer poblogaeth gyfan Cymru a Lloegr yn 2031.
Trafododd JL y cynlluniau ar gyfer ymgynghoriad ar bynciau Cyfrifiad 2031 a fydd yn cael ei lansio ar 28 Hydref. Esboniodd JL hefyd y cynllun ar gyfer ymgysylltu â defnyddwyr cyn ac ar ôl y diwrnod lansio.
Trafodaeth
Gofynnodd GW beth mae SYG yn ei wneud ynglŷn â system mapio cyfeiriadau ar gyfer defnydd mapio traws-lywodraethol. Dywedodd JL fod y gofrestr cyfeiriadau yn cael sylw ar hyn o bryd ac y bydd yn gwirio hyn ac yn adrodd yn ôl.
Cam gweithredu 4: JL i roi diweddariad am sefyllfa a gwaith SYG ar baru cyfeiriadau.
Gofynnodd BJ a oedd y data ar gyfer hunaniaeth rhywedd a rhyw yn cael ei wella ar gyfer Cyfrifiad 2031. Dywedodd JL y disgwylir i'r safonau cytûn ar gyfer hunaniaeth rhyw a rhywedd fod ar gael ac y byddant yn cael eu defnyddio ar gyfer y cyfrifiad.
Gofynnodd MP a fyddai grwpiau cynghori ar y cyfrifiad yn cael eu hailsefydlu. Dywedodd LP y byddai'r grwpiau hynny'n cael eu hailsefydlu.
Ychwanegodd SH y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r ymgynghoriad ar y cyfrifiad. Anogir aelodau'r Pwyllgor i rannu eu hymateb i'r ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru, er mwyn iddi allu mynegi barn defnyddwyr yng Nghymru.
Yr arolwg tai
Rhoddodd GW ddiweddariad ar yr arolwg tai nesaf a fydd yn dechrau yn 2027-28. Bydd yr arolwg yn cynnwys elfen gymdeithasol, a fydd yn edrych ar agweddau pobl tuag at y faterion tai yng Nghymru, eu barn amdanynt a'u profiadau ohonynt; ynghyd ag archwiliad eiddo ffisegol o is-sampl o dai. Bydd gwaith maes ar gyfer yr arolwg yn digwydd dros flwyddyn ariannol 2027-28 a bydd y canlyniadau cyntaf yn cael eu cyhoeddi ym mis Rhagfyr 2028.
Trafodaethau
Gofynnodd JE a fyddai data yn cael ei gynhyrchu ar lefel genedlaethol yn unig, neu a fyddai'n cael ei roi ar gyfer lefelau daearyddiaeth eraill. Atebodd GW gan ddweud mai'r bwriad yw rhoi amcangyfrifon rhanbarthol ar gyfer agweddau ffisegol, ond mai amcangyfrifon cenedlaethol sy'n debygol o hyd ar gyfer y rhan fwyaf o ddadansoddiadau cymdeithasol, gan ddibynnu pa nodwedd/newidyn sydd dan sylw (er enghraifft, ethnigrwydd).
Gofynnodd ES a yw hwn yn arolwg o'r maes tai cyfan yng Nghymru, neu dai cymdeithasol / awdurdodau lleol yn unig. Dywedodd GW fod yr arolwg ar gyfer y maes tai cyfan yng Nghymru.
Asesiadau llesiant lleol ac anghenion poblogaeth
Bydd adroddiad Llesiant Cymru yn cael ei gyhoeddi ar 7 Hydref. Asesiad blynyddol yw hwn o'r cynnydd tuag at y saith nod llesiant. Bydd y setiau data dangosyddion cenedlaethol a'r dangosfwrdd yn cael eu diweddaru. Mae data islaw lefel Cymru ar gael lle bo modd. Eleni bydd yr adroddiad llesiant yn adrodd ar y dangosydd cyfiawnder am y tro cyntaf. Mae'r Prif Weinidog wedi cytuno i adolygu'r dangosyddion cenedlaethol a'r cerrig milltir unwaith yn nhymor pob Senedd.
O ran yr adroddiad Tueddiadau'r Dyfodol, mae'r tîm sy'n gyfrifol wedi bod yn cytuno ar y themâu. Byddant yn cael eu gwahodd i gyfarfod yn y dyfodol i roi diweddariad manylach.
Trafodaethau
Holodd VD am y ffaith fod amseriad adroddiad tueddiadau'r dyfodol yn rhy hwyr i'w ddefnyddio ar gyfer asesiadau llesiant. Atebodd SH gan ddweud bod y tîm sy'n llunio'r adroddiad yn ymwybodol o'r her hon ac yn ystyried sut i reoli hyn, er enghraifft drwy lunio'r adroddiad mewn camau.
Gofynnodd ES a oes fersiynau hawdd eu darllen o'r adroddiadau llesiant yn cael eu llunio. Eglurodd SH fod fersiynau hawdd eu darllen ar gael a bod nifer uchel yn edrych arnynt.
Gofynnodd SK a yw'r posibilrwydd y bydd y dangosyddion cenedlaethol yn cael eu newid yn ystod tymor nesaf y Senedd, tra bod asesiadau llesiant yn cael eu paratoi, yn achosi problemau. Atebodd SH gan ddweud na ellir mesur newidiadau i ddangosyddion cenedlaethol ar unwaith fel arfer, a'i bod yn cymryd amser i ddatblygu'r ffynonellau data ar gyfer y dangosyddion newydd.
Esboniodd JE fod rhywfaint o waith cefndir ar gyfer asesu anghenion poblogaeth ar y gweill yn barod ac y gallai fod yn ddefnyddiol i ardaloedd eraill yng Nghymru ei ddefnyddio.
Soniodd ES mai'r nod yn y Gogledd yw cynhyrchu asesiadau llesiant rhanbarthol gyda data ar lefel fwy lleol lle bo angen.
Gofynnodd VD am yr ymgysylltu ar gyfer y dangosfwrdd llesiant ar y cyd. Dywedodd HR fod bwriad i gynnal cyfarfod yn ystod yr wythnos neu ddwy ar ôl y lansio i gael gwybod am ymgysylltu.
Cam gweithredu 5: HR i roi diweddariad ar yr ymgysylltu ar gyfer y dangosfwrdd llesiant ar y cyd yn y cyfarfod nesaf.
Soniodd SK am yr anawsterau o ran yr ymgysylltu ar gyfer yr asesiadau llesiant a'r pryderon ei fod yn anoddach y tro hwn. Gofynnodd SK hefyd am yr adolygiad o'r canllawiau ar gyfer cynnal asesiadau llesiant. Bydd SH yn cysylltu â'r tîm perthnasol ac yn adrodd yn ôl ar hyn.
Cam gweithredu 6: SH i gysylltu â'r tîm perthnasol i roi canllawiau ar y broses o gynnal asesiadau llesiant.
Rhoddodd SH grynodeb o'r cynlluniau i ystyried eitemau agenda yn y dyfodol ynglŷn â'r dangosfwrdd llesiant a gwahodd rhywun o swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i siarad am y disgwyliadau, a chydweithwyr o Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am adroddiad tueddiadau'r dyfodol.
Unrhyw fater arall
Gofynnodd MP i unrhyw un sy'n ymwneud â chasglu data cofrestru etholiadol i SYG gysylltu ag ef er mwyn iddo allu gwella ei ddealltwriaeth o'r broses.
Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 5 Chwefror 2026.
Trafod eitemau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol
Awgrymodd SK y gellid gwahodd rhywun o'r Comisiwn Ffiniau i esbonio'r broses a'r gofynion ar gyfer cynhyrchu amcanestyniadau rhanbarthau etholiadol ar gyfer awdurdodau lleol a rhoi eglurder ynghylch disgwyliadau ac unrhyw ddulliau safonol y dylid eu defnyddio.
Awgrymodd JE ychwanegu esboniad gan SYG am y dosbarthiadau trefol a gwledig newydd.
Camau gweithredu
Cam gweithredu 1: SH i ofyn i'r tîm ystadegau economaidd pa lefelau daearyddiaeth sy'n cael eu defnyddio ar gyfer ystadegau GVA a GDP rhanbarthol.
Cam gweithredu 2: HR i wirio bod gwefan meincnodi Cymru wedi'i diweddaru a rhoi diweddariad i ES.
Cam gweithredu 3: Dylai'r holl aelodau sydd ag adborth i'w roi ar wasanaeth newydd StatsCymru lenwi ffurflen adborth StatsCymru.
Cam gweithredu 4: JL i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa a gwaith SYG ar baru cyfeiriadau.
Cam gweithredu 5: HR i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgysylltu ar gyfer y dangosfwrdd llesiant ar y cyd yn y cyfarfod nesaf.
Cam gweithredu 6: SH i gysylltu â'r tîm perthnasol i roi canllawiau ar y broses o gynnal asesiadau llesiant.
