Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am yr adolygiad hwn o dystiolaeth

Mae'r adolygiad hwn o dystiolaeth yn rhan o werthusiad o bolisi Llywodraeth Cymru i ariannu'r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, fel rhan o broses i ddatblygu Damcaniaeth Newid. 

Y tri chwestiwn ymchwil canolog ar gyfer yr adolygiad hwn o'r dystiolaeth yw:

  • sut mae pobl wedi cyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol yng nghyd-destun gofal cymdeithasol?
  • pa fath o weithgareddau ac adnoddau y mae hyn wedi'u cynnwys?
  • pa effaith y mae tâl uwch/ychwanegol yn ei chael ar y gweithlu gofal cymdeithasol?
  • beth yw'r canlyniadau i weithwyr?
  • pa ganlyniadau sy'n deillio neu a allai ddeillio o dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol?
  • beth yw'r canlyniadau i gyflogwyr, y gweithlu ehangach, a defnyddwyr?

Mae'r protocol chwilio a'r llyfryddiaeth lawn ar gael yn Atodiadau A a B yn y drefn honno.

Ymgorffori y Cyflog Byw Gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol

Mae astudiaethau yn amlinellu sawl enghraifft o le mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol neu bolisïau tebyg wedi cael eu cyflwyno a'r rhesymau pam mae sefydliadau neu lunwyr polisi gwahanol wedi ceisio cyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol (neu gynnydd i'r cyflog lefel sylfaen). Nodwyd y canlynol gan yr astudiaethau:

  • mae cyflogau isel wedi cyfrannu at ystod o heriau yn y sector gofal cymdeithasol, megis recriwtio gwan, prinder gweithlu, cyfraddau gadael uchel ymysg staff, a throsiant rheolaidd; mae'r rhain yn arwain at ofal parhaol gwael, gan effeithio'n negyddol ar ddefnyddwyr gwasanaethau
  • mae polisïau i godi cyflogau sylfaenol wedi cael eu rhoi ar waith yn bennaf i leihau effaith cyflogau isel ar heriau recriwtio a chadw staff, er bod cymhellion eraill - fel canfyddiad mai dyma’r peth iawn i'w wneud o safbwynt moesol – wedi bod yn berthnasol hefyd

Yr enghraifft amlycaf o gyflwyno cyflog byw ym maes gofal cymdeithasol yw'r Alban, lle cyflwynodd y weinyddiaeth ddatganoledig Gyflog Byw yr Alban ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol. Roedd canfyddiadau allweddol yn ymwneud â chyflwyno Cyflog Byw yr Alban yn cynnwys:

  • nid oedd fframwaith cyfreithiol yn bodoli i orfodi darparwyr gofal cymdeithasol i dalu isafswm cyflog penodol yn uwch na lefel y Cyflog Byw Cenedlaethol i weithwyr, “er nad oedd ganddynt unrhyw rwymedigaethau contractiol penodol i dalu Cyflog Byw yr Alban, roedd [y rhan fwyaf o ddarparwyr] wedi ymateb yn gadarnhaol ar y cyfan i bolisi Llywodraeth yr Alban.”
  • roedd sefyllfa awdurdodau lleol fel prif ariannwr yn rhoi pwerau cryf iddynt ddylanwadu ar y farchnad er mwyn hyrwyddo Cyflog Byw yr Alban; fodd bynnag, oherwydd diffyg asesiad o gost y cynnydd a disgwyliad clir bod darparwyr wedi cyfrannu at y cynnydd mewn cyflogau, roedd gan rai darparwyr bryderon am gyflwyno'r cyflog
  • oherwydd absenoldeb fframwaith cyfreithiol a chyllid digonol, un risg a nodir yn y llenyddiaeth yw'r perygl y bydd mwy o gontractau yn cael eu dychwelyd neu na fydd darparwyr yn tendro amdanynt, gan ychwanegu at duedd sydd eisoes ar waith ym marchnad gofal y DU; mae hyn yn dangos sut y gallai codiadau cyflog heb eu hariannu gyfrannu at broblemau yn ymwneud ag ansefydlogrwydd y farchnad yn hytrach na'u datrys

Effeithiau a chanlyniadau tâl ychwanegol a brofwyd gan weithlu gofal cymdeithasol

Nododd y llenyddiaeth ddau brif ganlyniad cadarnhaol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol sy'n derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol neu godiad cyflog.

Gwobr ariannol well

Yn gyffredinol, mae polisi sy'n cynyddu'r isafswm cyflog yn arwain at weithwyr gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael cynnydd cyffredinol yn eu cyflogau (gan mai nhw yw'r rhai sy'n tueddu i dderbyn y cyflogau isaf). Yn ôl y disgwyl, mae graddfa'r gwelliant mewn cyflogau yn dibynnu ar lefelau tâl gweithwyr cyn cyflwyno'r polisi/newid yn y gyfradd gyflog, a gall fod yn sylweddol iawn os yw newidiadau'n cynnwys lefelau tâl uwch ar gyfer amser teithio, er enghraifft (Werner, 2021). Gan fod cyfran fwy o weithwyr rheng flaen ym maes gofal cymdeithasol yn fenywod, bydd cynnydd yn isafswm tâl gofal cymdeithasol yn debygol o gael mwy o effaith ar fenywod.

Nid yw effaith codiadau cyflog ar oriau gwaith staff gofal cymdeithasol yn glir. Ceir rhywfaint o dystiolaeth bod yna newid i fwy o gontractau dim oriau (Vadean, 2021) neu fod staff yn penderfynu y gallant fforddio gweithio llai o oriau (Werner, 2021), ac mae gwaith ymchwil arall yn awgrymu bod yna gynnydd bach yn yr oriau cyfartalog sy’n cael eu gweithio (Gardiner, 2021).

Mwy o foddhad mewn swydd

Pan fydd gweithwyr yn teimlo nad yw eu hymdrech yn cael ei gwobrwyo, gall hyn arwain at straen, boddhad mewn swydd gwael, a bwriadau i adael eu swydd (Stevens et al., 2021). Yn ôl gweithwyr gofal cymdeithasol, roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi mwy pan godwyd eu cyflogau i lefel y Cyflog Byw, ac adleisiwyd hyn gan gyflogwyr a nododd fod cyfraddau cadw staff wedi gwella (Werner, 2021). Nid yw'n glir a yw hyn yn cael effaith ar ansawdd y gwaith sy'n cael ei wneud.

Er bod tystiolaeth yn awgrymu bod gweithwyr gofal cymdeithasol yn debygol o deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi mwy yn sgil cyflwyno'r Cyflog Byw Gwirioneddol, mae'r dystiolaeth i ategu hyn ychydig yn gyfyngedig, ac mae'n seiliedig ar ymchwil ansoddol ac arolwg ar raddfa fach.

Canlyniadau ehangach posibl o dalu'r Cyflog Byw Gwirioneddol

Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod codiadau cyflog ym maes gofal cymdeithasol wedi arwain at rai manteision ond hefyd rhai heriau i'r sector gofal cymdeithasol ehangach gan gynnwys cyflogwyr, y gweithlu ehangach a defnyddwyr gwasanaethau.

Cyflogwyr

Mae effaith codiadau yn yr isafswm cyflog ar gyflogwyr yn gymhleth. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn dangos bod gwella cyflogau gweithwyr gofal cymdeithasol wedi arwain at gadw mwy o staff, a allai yn ei dro arwain at fwy o ofal parhaus (Werner, 2021); fodd bynnag, mae gwaith ymchwil ehangach arall sy'n ystyried cyflogwyr o ystod o sectorau yn creu darlun mwy cymysg (Heery, Nash a Hann, 2017), gan awgrymu efallai na fydd cynyddu cyflogau yn unig yn gwella cyfraddau recriwtio a chadw staff bob amser. Yn yr Alban, mae astudiaethau yn awgrymu nad oedd cyflwyno’r Cyflog Byw ar draws y sector wedi gwella cyfraddau recriwtio a chadw staff yn sylweddol (Cunningham et al., 2022).

Er bod cynyddu'r isafswm sy'n cael ei dalu i weithwyr gofal cymdeithasol yn debygol o gynyddu cyflog y staff hynny, mae'n llai tebygol o gael effaith uniongyrchol ar gyflogau staff sydd mewn swyddi rheoli. Er enghraifft, yn yr Alban nid oedd cyllid ychwanegol yn talu costau i dalu gwahaniaethau mewn cyflogau (Cunningham et al., 2022).

Heb gyllid digonol, mae'n bosibl y bydd darparwyr gofal cymdeithasol yn ysgwyddo baich ariannol costau ychwanegol er mwyn cadw gwahaniaethau mewn cyflogau. Os yw hyn yn mynd yn rhy feichus, mae'n bosibl y bydd y farchnad yn wynebu ansefydlogrwydd ychwanegol, yn groes i nodau polisïau amrywiol (Cunningham et al., 2022).

Defnyddwyr gwasanaethau

Cyfyngedig yw'r gwaith ymchwil yn ymwneud ag effaith newidiadau i gyflogau gweithwyr gofal cymdeithasol ar ddefnyddwyr gwasanaethau. Roedd nifer fach o astudiaethau wedi awgrymu bod cysylltiad posibl rhwng ansawdd a chyflogau uwch. Fodd bynnag, yn ôl y gweithwyr gofal cymdeithasol eu hunain, byddent yn darparu gofal hyd eithaf eu gallu waeth beth fo’u cyflog (Werner, 2021). Er bod tystiolaeth yn brin, gellid disgwyl yn rhesymol y byddai gwella'r broses o recriwtio a chadw staff rheng flaen yn arwain at fwy o ofal parhaus, a fyddai'n debygol o arwain at ansawdd gofal gwell i ddefnyddwyr gwasanaethau. Fodd bynnag, prin yw’r dystiolaeth i brofi'r ddamcaniaeth hon. Fel y nodwyd, mae'r dystiolaeth yn ymwneud ag a fydd codiad cyflog yn arwain at wella prosesau recriwtio a chadw staff yn gymysg.

Manylion cyswllt

Awduron yr Adroddiad: Dr Katie Hann, Joshua Butt, Dr Alice McDowell, Dr Lucy Webster, Tom Noon, Colin Horswell, and Nurgul Sahin (Cordis Bright)

Safbwyntiau’r ymchwilwyr yw’r rhai a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid ydynt o reidrwydd yn rhai Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r canlynol:
Tîm Dadansoddi ac Arloesi
Swyddfa Genedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays 
Caerdydd 
CF10 3NQ

E-bost: TimDadansoddiacArloesi@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 100/2025
ISBN Digidol: 978-1-83625-620-5

Image
GSR logo