Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gydweithio er mwyn mynd i’r afael ag argyfwng yr hinsawdd. Golyga hyn wrando ar wahanol safbwyntiau a dyrchafu lleisiau'r cyrion.
Wrth i ni edrych tuag at yr Wythnos Hinsawdd Cymru blynyddol ym mis Tachwedd, rwy'n edrych ymlaen at glywed unwaith eto y trafodaethau a'r amrywiaeth barn ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â mynd i'r afael â newid hinsawdd – a'r goblygiadau a allai fod ynghlwm â nhw. Rydym yn gweithio'n galed i baratoi'r ffordd i leihau allyriadau yng nghyfnod nesaf y gyllideb carbon (2026–2030) ac eleni, yn fwy nag erioed, mae arnom angen mewnbwn gan gymaint â phosibl o bobl.
Nid newid hinsawdd yn unig sydd dan sylw yma. Mae mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn hanfodol i ddyfodol Cymru, ond mae angen i ni wneud hynny mewn ffordd sy'n gwella iechyd ein cenedl, sy'n diogelu ein hamgylchedd naturiol gwerthfawr, sy'n diogelu ac yn creu swyddi, ac sy'n cynnig diogelwch ynni ac sy’n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi papur trafod o'r enw "Galluogi Pobl Cymru i Bontio i Sero Net yn 2026-2030 a thu hwnt", sy'n dwyn ynghyd y cyngor a'r dystiolaeth annibynnol ddiweddaraf i lywio ein dull gweithredu. Mae'r papur yn tynnu ar waith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Grŵp Her Sero Net Cymru 2035 a ffynonellau arbenigol eraill. Mae'n nodi'r polisïau presennol ar draws sectorau allweddol – amaethyddiaeth a defnydd tir, tai a thrafnidiaeth – ac yn archwilio'r cyfleoedd, yr heriau a'r rhyng-ddibyniaeth a fydd yn arwain ein camau nesaf ar y llwybr at sero net.
Bydd Brasil yn cynnal COP30 ym mis Tachwedd 2025 hefyd. Ddegawd ar ôl Cytundeb Paris, bydd hon yn foment dyngedfennol mewn ymdrechion byd-eang i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Bydd Cymru yn sefyll yn gadarn ac yn falch fel arweinydd byd-eang; gan adeiladu ar ein llwyddiannau mewn datblygu cynaliadwy, rheoli gwastraff ac ailgylchu, mewn trafnidiaeth ac yn y ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd i fynd i'r afael â'r materion sy'n rhwystro'r ffordd.
Mae cyhoeddi'r papur trafod hwn yn nodi dechrau'r cam nesaf o ymgysylltu. Bydd yn cael ei ddefnyddio i ysgogi trafodaeth yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru 2025, drwy raglen o ddigwyddiadau rhithwir, gweithdai rhanbarthol, a sgyrsiau yn y gymuned. Bydd yr wybodaeth a gasglwyd yn helpu i lywio datblygiad ein cynllun lleihau allyriadau nesaf, sydd i'w gyhoeddi yn 2026.
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i bontio teg a chyfiawn, ac i sicrhau bod pobl Cymru yn cymryd rhan weithredol wrth lunio'r polisïau sy'n effeithio arnynt. Mae'r papur hwn, a'r drafodaeth yr ydym yn gobeithio y bydd yn ei hysgogi, yn rhan allweddol o'r ymrwymiad hwnnw. Rwy'n annog rhanddeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd i ddarllen ei gynnwys a chyfrannu at y drafodaeth.
Mae'r papur ar gael ar wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru, ynghyd â rhagor o fanylion am Wythnos Hinsawdd Cymru.
