Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fy mod wedi gosod dwy set o reoliadau drafft i wneud newidiadau i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 ("DTTT 2017") i estyn y rhyddhad rhag y dreth trafodiadau tir ar gyfer safleoedd treth arbennig i safleoedd a ddynodwyd gan lywodraeth y DU yng Ngogledd Ynys Môn, fel rhan o Borthladd Rhydd Ynys Môn, ac ym Mharth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Rhif 2) (Cymru) 2025 yn diwygio Atodlen 21A i DTTT 2017 i ddarparu rhyddhad rhag y dreth trafodiadau tir ar gyfer safleoedd treth arbennig Gogledd Ynys Môn a leolir o fewn Porthladd Rhydd Ynys Môn.
Mae Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Rhif 3) (Cymru) 2025 yn diwygio Atodlen 21A i DTTT 2017 i ddarparu rhyddhad rhag y dreth trafodiadau tir ar gyfer y safleoedd treth arbennig a leolir o fewn Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.
Mae'r cymhellion treth, gan gynnwys y rhyddhad rhag y dreth trafodiadau tir ar gyfer safleoedd treth arbennig, yn hollbwysig ar gyfer y Rhaglen Porthladdoedd Rhydd a'r Rhaglen Parthau Buddsoddi. Eu nod yw helpu safleoedd i ddenu buddsoddiad preifat a chyflawni amcanion polisi'r rhaglenni hyn.
Edrychaf ymlaen at y ddadl ar y ddwy set o reoliadau ar 18 Tachwedd 2025.
