Neidio i'r prif gynnwy

Syniadau ac addewidion a gafwyd gan blant mewn gweithdai yn Bluestone a fydd yn helpu i lunio gweithredoedd hinsawdd Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gan fod Wythnos Hinsawdd Cymru yn digwydd fis nesaf, fe wnaeth Llywodraeth Cymru drawsnewid Parc Bluestone, cyrchfan twristiaeth gynaliadwy fwyaf Cymru, i fod yn ystafell ddosbarth fyw. Daeth disgyblion lleol draw i dorchi llewys, i blannu, i ailgylchu, ac i edrych ar ffyrdd newydd o fyw bywydau cynaliadwy. 

Bu disgyblion Blwyddyn 5 a 6 o Ysgol Bro Penfro, Ysgol Casblaidd, ac Ysgol Caer Elen yn cymryd rhan mewn gweithdai a gynlluniwyd i ddangos sut y gallwn fwyta, tyfu a defnyddio ein tir mewn ffyrdd mwy cynaliadwy. Fe gawson nhw hefyd gyfle i rannu eu syniadau, i ofyn cwestiynau, ac i wneud addewidion ar gyfer y dyfodol—bydd yr addewidion hyn yn cael eu defnyddio yng ngwaith cynllunio hinsawdd Llywodraeth Cymru. 

Rhannwyd llawer o syniadau cyffrous ac arloesol gan blant yn y gweithdai, gan gynnwys bwyta mwy o lysiau, gwastraffu llai a hyd yn oed prynu bwyd o ffermwyr lleol. 

Fe dywedodd Rebecca, 10 o Ysgol Caer Elen: 

“Heddiw dw i wedi dysgu o le mae ein bwyd yn dod a pha mor bell mae’n teithio er mwyn cyrraedd Cymru. Mae wedi dangos i fi pa mor bwysig yw bwyta bwydydd lleol a cefnogi y ffermwyr sy’n tyfu nhw. Fy hoff rhan o’r dydd oedd cynllunio pryd o fwyd am ein ysgol ni a trio llysiau newydd – dw i nawr yn hoffi nhw lot fwy!”  

Roedd y gweithdai—a gafodd eu cynllunio a’u cynnal mewn partneriaeth â Bluestone, Maint Cymru, Synnwyr Bwyd Cymru, Bwydydd Castell Howell, Green Up Farm ac Undeb Amaethwyr Cenedlaethol Cymru—yn ffordd o gynnwys cenhedlaeth nesaf Cymru yn y sgwrs genedlaethol y byddwn yn ei chael eleni ar sut rydym yn defnyddio ein tir, yn tyfu ein bwyd, ac yn gofalu am natur.

Bu disgyblion yn plannu eu microberlysiau eu hunain, yn dylunio prydau ysgol cynaliadwy, yn dysgu am ddatgoedwigo, yn cymryd rhan mewn cwisiau am dyfu yng Nghymru, ac yn creu posteri lliwgar gyda'r nod o annog eraill i fwyta mwy o lysiau lleol. 
Bydd yr adborth a gafwyd gan ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 yn bwydo'n uniongyrchol i benderfyniadau Llywodraeth Cymru ar newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol. Bydd hyn yn sicrhau bod lleisiau'r rhai a fydd yn byw ag effeithiau hirdymor y dewisiadau a wnawn heddiw yn cael eu clywed ac yn cael eu cynrychioli.

Fe wnaeth Huw Irranca-Davies, Dirprwy Brif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, dorchi ei lewys hefyd, gan ymuno â'r plant yng ngweithdai Wythnos Hinsawdd Cymru. 

Dywedodd: 

“Roedd gweld y disgyblion yn bwrw iddi ac yn cyffroi am weithredu dros yr hinsawdd yn ddigon i ysbrydoli rhywun. Bydd eu lleisiau’n cael eu defnyddio i lywio polisïau a rhaglenni a fydd yn cefnogi cymunedau, byd natur, a’n heconomi yn y dyfodol.

“Dim ond y dechrau yw’r digwyddiad hwn – rydym eisiau clywed mwy gan ein pobl ifanc, a chan gymunedau Cymru ben baladr, am y materion sy’n cael yr effaith fwyaf arnyn nhw. Fe wnaethom lansio'r Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd i gefnogi ac i hwyluso'r sgyrsiau hynny. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnal eu digwyddiad eu hunain i wneud cais.”

Bluestone National Park Resort oedd yn cynnal y digwyddiad. Y parc gwyliau cynaliadwy pum seren hwn yw’r cyntaf yn y DU i beidio â defnyddio unrhyw danwydd ffosil o ran yr ynni y maen nhw’n ei brynu. Maen nhw’n gweithredu parc solar ar y safle, mae ganddyn nhw fflyd o gerbydau trydan, ac maen nhw’n defnyddio BioLPG wedi'i wneud o wastraff bwyd i goginio popeth.

Dywedodd Marten Lewis, Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Bluestone: 

“Rydym wedi creu cynllun twristiaeth adfywiol yma yn Bluestone, ac rydym yn gweithio'n galed i leihau gwastraff ym mhob maes o'r busnes gan gynnwys bwyd – o greu ein bwydlenni i hyfforddi ein timau a pharatoi adroddiadau. Mae unrhyw wastraff bwyd yn cael ei reoli'n gyfrifol gan gyfleuster treulio anaerobig lleol sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy a gwrtaith organig ar gyfer ffermwyr lleol. Trwy ddysgu disgyblion i wneud dewisiadau carbon isel ac i leihau gwastraff, byddan nhw’n cael sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddyfnach o gylch bywyd eu prydau bwyd. Dyma’r union fath o newid dan arweiniad y gymuned a fydd yn helpu Cymru i adeiladu dyfodol cynaliadwy.”

Mae'r gweithdai hyn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau sy'n nodi Wythnos Hinsawdd Cymru 2025 (Tachwedd 3–7). Bydd rhaglen eleni hefyd yn cynnwys cynhadledd rithwir tri diwrnod, a rhaglen o ddigwyddiadau cymunedol Sgyrsiau am yr Hinsawdd a fydd yn para tan ddiwedd mis Chwefror. Bydd y syniadau a glywn yn ystod yr Wythnos yn bwydo'n uniongyrchol i Gyllideb Carbon 3 (2026–2030) sydd i fod i gael ei chyhoeddi ddiwedd 2026.

Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynnal eu digwyddiad Sgyrsiau am yr Hinsawdd eu hunain i wneud cais am y Gronfa Sgyrsiau am yr Hinsawdd, sy'n cefnogi cymunedau ledled Cymru i ymuno â sgwrs fwyaf Cymru ar ddyfodol ei hinsawdd. Bydd y gronfa’n derbyn ceisiadau tan Hydref 31. 

I gael rhagor o wybodaeth am Wythnos Hinsawdd Cymru ac i gofrestru ar gyfer y gynhadledd rithwir, ewch i wefan Gweithredu ar Hinsawdd Cymru.