Heddiw mae'r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies wedi amlinellu cynlluniau i drawsnewid y ffordd y mae dŵr yn cael ei reoli, ei reoleiddio a'i ddarparu yng Nghymru.
Wrth fynd i'r afael â chanfyddiadau Adroddiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol yn y Senedd, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog fod hwn yn 'gyfle unwaith mewn cenhedlaeth' i drawsnewid y sector dŵr a chreu gwell system i Gymru.
Dywedodd wrth y Senedd y byddai'r newidiadau yn arwain at greu sector dŵr mwy cynaliadwy, teg a thryloyw a fydd yn rhoi pobl, yr amgylchedd a chenedlaethau'r dyfodol yn gyntaf.
"Dyma gyfle i wneud pethau'n wahanol - ac i'w gwneud yn well," meddai.
"Nid yw ein system ddŵr bresennol yn gweithio cystal ag y dylai er lles pobl a'r amgylchedd. Mae pobl yn poeni am eu biliau dŵr a chyflwr ein dyfrffyrdd.
"Mae'n rhaid i hynny newid. Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i drawsnewid y sector dŵr. Cyfle euraidd i lanhau ein hafonydd a'n moroedd, darparu gwell gwerth i dalwyr biliau Cymru, ac adeiladu system ddŵr sy'n atebol, yn dryloyw ac wedi'i chynllunio yng Nghymru, i Gymru.
"Byddwn yn mynd ati'n raddol i sicrhau'r newidiadau cywir, gan weithio gyda phartneriaid a phobl Cymru bob cam o'r ffordd.
Un o brif argymhellion y Comisiwn yw creu rheoleiddiwr economaidd pwrpasol ar gyfer dŵr yng Nghymru, a fyddai'n ymgorffori swyddogaethau cynllunio system ddŵr. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn bwrw ymlaen â hyn.
Byddai'r rheoleiddiwr newydd hwn yn darparu dull mwy integredig ac ymatebol o reoli dŵr – gan ennyn hyder y cyhoedd a sbarduno buddsoddiad hirdymor mewn seilwaith a diogelu'r amgylchedd.
Bydd ymgynghoriad ar y model arfaethedig yn cael ei lansio yn ddiweddarach eleni i sicrhau bod y fframwaith rheoleiddio newydd yn gadarn, yn dryloyw ac yn cyd-fynd â blaenoriaethau Cymru.
Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio pwerau newydd ar gyfer y Senedd.
Pe baent yn cael eu cytuno, byddai'r pwerau hyn, am y tro cyntaf, yn galluogi Cymru i ddeddfu'n annibynnol ar gyfer y diwydiant dŵr – gan alinio swyddogaethau rheoleiddio a chynllunio'n llawn o fewn ffiniau Cymru.
Bydd y diwygiadau yn sefydlu cyfeiriad cenedlaethol ac atebolrwydd clir ar gyfer rheoli dŵr, gan sicrhau bod cynllunio hirdymor – o'r cyflenwad i wydnwch yn yr hinsawdd – yn gyson â nodau ehangach Cymru ar gyfer yr amgylchedd, iechyd a ffyniant.
Bydd y dull Cymreig yn symud i ffwrdd o'r model a arweinir gan gystadleuaeth a etifeddwyd cyn datganoli, tuag at fframwaith moesegol, cydweithredol sy'n canolbwyntio ar gynaliadwyedd, fforddiadwyedd a thegwch.
Er mwyn cynnal sefydlogrwydd a hyder y cyhoedd, bydd cynllun pontio a rennir yn cael ei gynllunio gyda Llywodraeth y DU, gan nodi'r broses o sefydlu system ddŵr newydd yng Nghymru. Bydd trefniadau interim, gan gynnwys Datganiad Polisi Strategol i Ofwat a rheoleiddwyr eraill, yn darparu eglurder yn ystod y cyfnod pontio hwn.
Ychwanegodd y Dirprwy Brif Weinidog:
"Mae diwygio'r sector dŵr yn dasg gymhleth, hirdymor – ond mae hefyd yn gyfle i greu system ddŵr well a dangos beth all datganoli ei gyflawni.
"Trwy weithio gyda'n gilydd – gyda Llywodraeth y DU, gyda rheoleiddwyr a chwmnïau dŵr, a chyda chymunedau ledled Cymru – gallwn greu system sy'n cyflawni er budd ein hamgylchedd, ein heconomi a'n pobl am ddegawdau i ddod.
Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei gweledigaeth ar gyfer diwygio dŵr yng Nghymru yn ddiweddarach eleni, gan nodi'r camau nesaf a bydd yn gwahodd sylwadau gan gwsmeriaid, busnesau, rheoleiddwyr a'r cyhoedd ehangach.
