Fframwaith Cenedlaethol Drafft ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub: asesiad effaith integredig
Asesiad ar effaith y drafft newydd o Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1: beth mae Llywodraeth Cymru yn ystyried ei wneud a pham?
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Fframwaith Cenedlaethol newydd ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru.
Yn ôl adran 21 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi Fframwaith sy'n cynnwys blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub. Lluniwyd y fersiwn gyfredol yn 2016, ac er bod llawer o'i chynnwys yn parhau i fod yn ddilys, mae sawl newid pwysig yn y cyd-destun strategol ers hynny nad yw'r fersiwn hon yn eu cwmpasu.
Yn benodol, gwelwyd sawl datblygiad a allai gynyddu'r tebygolrwydd o dân a digwyddiadau eraill mewn ffyrdd newydd, nad oes modd eu rhagweld, ac a allai gynyddu eu difrifoldeb. Mae'r rhain yn cynnwys newid yn yr hinsawdd, heneiddio demograffig, datblygiadau technolegol, newidiadau yn yr amgylchedd adeiledig (dysgwyd gwersi yn sgil tân Tŵr Grenfell), a'r sefyllfa ddiogelwch fyd-eang. Mae'r Fframwaith yn nodi'r materion hyn a'r angen i'r Gwasanaeth addasu ac ymateb iddynt. Mae hefyd yn mynd i'r afael â phryderon am ddiwylliant gweithleoedd a llywodraethiant o fewn y Gwasanaeth, ac yn disgrifio camau y mae angen eu cymryd i fynd i'r afael â nhw.
Mae Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub wedi bod yn rhan o waith datblygu'r Fframwaith drafft. Mae'n cynnwys y tri Phrif Swyddog Tân, Cadeiryddion yr Awdurdodau Tân ac Achub, Comisiynwyr Gwasanaeth Tân ac Achub y De, pob undeb llafur cydnabyddedig sy'n cynrychioli diffoddwyr tân a staff eraill yr Awdurdodau Tân ac Achub, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cynhaliwyd trafodaethau ffurfiol yng nghyfarfodydd y Fforwm ac mewn cyfarfodydd rhwng swyddogion a rhai aelodau o'r Fforwm.
Dylid darllen yr asesiad effaith hwn ochr yn ochr â'r Fframwaith drafft.
Adran 8: casgliad
1. Sut y mae pobl y mae'r cynnig fwyaf tebygol o effeithio arnynt wedi'u cynnwys yn y gwaith o’i ddatblygu?
Ar y Gwasanaethau Tân ac Achub a'u staff y bydd y Fframwaith drafft yn effeithio'n fwyaf uniongyrchol. Mae Fforwm Partneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Tân ac Achub wedi bod yn rhan o waith datblygu'r drafft. Mae'n cynnwys y tri Phrif Swyddog Tân, Cadeiryddion yr Awdurdodau Tân ac Achub, Comisiynwyr Gwasanaeth Tân ac Achub y De, pob undeb llafur cydnabyddedig sy'n cynrychioli diffoddwyr tân a staff eraill yr Awdurdodau Tân ac Achub, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Cynhaliwyd trafodaethau ffurfiol yng nghyfarfodydd y Fforwm ac mewn cyfarfodydd rhwng swyddogion a rhai aelodau o'r Fforwm.
2. Beth yw’r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?
Nid yw'r Asesiad Effaith Integredig wedi codi unrhyw faterion sy'n gysylltiedig â lles cymdeithasol pobl a chymunedau yng Nghymru nac â lles diwylliannol Cymru neu'r Gymraeg. Nid yw chwaith wedi nodi unrhyw faterion ynghylch lles economaidd busnesau a'r cyhoedd, yr Amgylchedd, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn na'r agenda Trechu Tlodi.
Nid yw'r Fframwaith drafft yn cael unrhyw effaith ar nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol na'i ffyrdd o weithio ar hyn o bryd. Yn wir, mae wedi'i ddatblygu yn unol â phum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
3. Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig:
- yn cyfrannu cymaint â phosibl at ein hamcanion llesiant a’r saith nod llesiant; a/neu,
- yn osgoi, yn lleihau, neu’n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?
Ni nodwyd unrhyw effeithiau.
4. Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a’i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo ac ar ôl iddo gael ei gwblhau?
Byddwn yn adolygu effaith y Fframwaith yn gyson fel rhan o'r broses barhaus o werthuso ac arolygu i ba raddau y mae'r Gwasanaethau Tân ac Achub yn cydymffurfio ag ef ac â'u safonau ehangach o ran perfformiad a llywodraethiant corfforaethol.
