Crynodeb o ganlyniadau'r arolwg gwyddonol o'r stoc ar gyfer pysgodfa cocos y Tair Afon.
Cynnwys
Cyflwyniad
Rydym wedi defnyddio contractwyr allanol i gynnal asesiad stoc bob dwy flynedd o bysgodfa gocos y Tair Afon 2025 (Gwanwyn a Hydref). Dyma'r crynodeb o'r canfyddiadau a ddarparwyd gan y contractwr yn dilyn yr arolwg a gynhaliwyd ym mis Awst.
Yr arolwg
Mae'r arolwg yn:
- darparu amcangyfrif o bwysau cocos a dwysedd cocos yn y Tair Afon
- darparu ffigurau ar gyfer cyfanswm biomas cocos y bysgodfa gocos gyfan, a’u rhannu'n 5 gwely
- darparu dosbarthiad gofodol pob categori oedran
- darparu dosbarthiad maint y cocos yn ôl eu hamledd
Sut y byddwn yn defnyddio’r data
Byddwn yn defnyddio'r data i:
- gyfrifo'r gwarged y gellir ei gynaeafu
- hysbysu Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) fel rhan o'r cynllun rheoli
Nodir hyn yn y Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024.
Dull
Mae’r arolwg yn defnyddio grid sefydlog o 192 o safleoedd samplu, wedi’u gosod bob 200m. Cymerir un sampl o bob safle gan ddefnyddio cwadrad 0.1m2. Caiff y samplau hyn eu rhidyllu gan ddefnyddio rhwyll 4mm ac chymerir unrhyw gocos byw a ddelir fel sampl.
Ar gyfer pob safle, cofnodwyd:
- nifer y cocos a’u pwysau mewn pedwar dosbarth oedran (blwyddyn 0, blwyddyn 1, blwyddyn 2 a blwyddyn 3+)
- pwysau cocos â chregyn 15mm a mwy, a 21mm a mwy o hyd
- mesuriadau hyd cocos i ddangos eu dosbarthiad yn ôl maint o fewn y pum gwely
Canlyniadau 2026
Awst 2026
Cynhaliwyd arolwg asesu ‘ar hap’ o’r stoc cocos er mwyn rhoi diweddariad ynghylch y stoc yn Aber y Tair Afon (data yn nhabl 1).
Cyfrifir y gwarged y gellir ei gynaeafu ar sail amcangyfrifon o fewn y cyfwng hyder isaf o bwysau’r cocos, sef y maint glanio lleiaf, hynny ar ôl tynnu’r biomas o gocos a ddiffinnir sy’n fwyd i adar. Gwneir hynny fel ymagwedd ragofalus at amrywioldeb data’r samplau.
| Gwely | Pwysau cymedrig | Gwarged cynaeafadwy (tunelli) | Cyfwng hyder isaf (tunelli) | Cyfwng hyder uchaf (tunelli) |
|---|---|---|---|---|
| Llan y Bri | 3,329 | 570 | 2,610 | 4,153 |
| Llansteffan | 1,505 | 257 | 1,163 | 1,847 |
| Glan-y-fferi | 1,258 | 216 | 830 | 1,824 |
| Llanismel | 1,540 | 264 | 890 | 2,397 |
| C’swm yr Aber | 7,632 | 1,307 | 5,493 | 10,221 |
Mai 2026
Cyfrifwyd bod cyfanswm o 1.65 biliwn (1.65 x109) o gocos yn yr aber yn gwanwyn 2026, cyfanswm o ran pwysau o 4,865 tunnell (tabl 2).
Cyfrifir y gwarged y gellir ei gynaeafu ar sail amcangyfrifon o fewn y cyfwng hyder isaf o bwysau’r cocos, sef y maint glanio lleiaf, hynny ar ôl tynnu’r biomas o gocos a ddiffinnir sy’n fwyd i adar. Gwneir hynny fel ymagwedd ragofalus at amrywioldeb data’r samplau.
| Gwely | Pwysau cymedrig | Gwarged cynaeafadwy (tunelli) | Cyfwng hyder isaf (tunelli) | Cyfwng hyder uchaf (tunelli) |
|---|---|---|---|---|
| Llan y Bri | 2,054 | 312 | 1,295 | 3,125 |
| Llansteffan | 590 | 89 | 425 | 807 |
| Glan-y-fferi | 864 | 131 | 498 | 1,416 |
| Llanismel | 891 | 135 | 554 | 1,367 |
| Gwendraeth | 468 | N/A | 272 | 798 |
| C’swm yr Aber | 4,865 | 667 | 3,824 | 6,182 |
Canlyniadau 2025
Awst 2025
Cyfrifwyd bod cyfanswm o 4.20 biliwn (4.20 x109) o gocos yn yr aber yn haf 2025, cyfanswm o ran pwysau o 9,216 tunnell (tabl 3).
Cyfrifir y gwarged y gellir ei gynaeafu ar sail amcangyfrifon o fewn y cyfwng hyder isaf o bwysau’r cocos, sef y maint glanio lleiaf, hynny ar ôl tynnu’r biomas o gocos a ddiffinnir sy’n fwyd i adar. Gwneir hynny fel ymagwedd ragofalus at amrywioldeb data’r samplau.
| Gwely | Pwysau cymedrig | Gwarged cynaeafadwy (tunelli) | Cyfwng hyder isaf (tunelli) | Cyfwng hyder uchaf (tunelli) |
|---|---|---|---|---|
| Llan y Bri | 4,272 | 878 | 3,072 | 5,856 |
| Llansteffan | 2,203 | 664 | 1,555 | 3,326 |
| Glan-y-fferi | 1,034 | 56 | 606 | 1,702 |
| Llanismel | 1,020 | 143 | 579 | 1,625 |
| Gwendraeth | 703 | 40 | 468 | 1,036 |
| C’swm yr Aber | 9,216 | 1781 | 7,616 | 11,328 |
Ebrill 2025
Cyfrifwyd bod cyfanswm o 2.81 biliwn (2.81 x109) o gocos yn yr aber yn gwanwyn 2025, cyfanswm o ran pwysau o 6,847 tunnell (tabl 4).
Cyfrifir y gwarged y gellir ei gynaeafu ar sail amcangyfrifon o fewn y cyfwng hyder isaf o bwysau’r cocos, sef y maint glanio lleiaf, hynny ar ôl tynnu’r biomas o gocos a ddiffinnir sy’n fwyd i adar. Gwneir hynny fel ymagwedd ragofalus at amrywioldeb data’r samplau.
| Gwely | Pwysau cymedrig | Gwarged cynaeafadwy (tunelli) | Cyfwng hyder isaf (tunelli) | Cyfwng hyder uchaf (unelli) |
|---|---|---|---|---|
| Llan y Bri | 3,123 | 778 | 2,218 | 4,221 |
| Llansteffan | 1,393 | 245 | 1,053 | 1,836 |
| Glan-y-fferi | 686 | 100 | 350 | 1,201 |
| Llanismel | 1,260 | 275 | 706 | 1,865 |
| Gwendraeth | 385 | 180 | 246 | 590 |
| C’swm yr Aber | 6,847 | 1,578 | 4,573 | 9,713 |
