Mae nifer yr achosion o oedi cyn trosglwyddo cleifion o ambiwlansys wedi gostwng i’w lefel isaf mewn mwy na 4 blynedd.
Ar y cyfan, mae pobl yn aros am lai o amser mewn ambiwlansys y tu allan i ysbytai, gydag achosion o oedi cyn trosglwyddo bellach ar eu hisaf ers mis Gorffennaf 2021.
Mae ffigurau perfformiad diweddaraf y GIG, sy’n cael eu cyhoeddi heddiw, yn dangos bod yr amser a gollodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru oherwydd achosion o oedi cyn trosglwyddo cleifion i adrannau achosion brys wedi gostwng 40% ym mis Medi o gymharu â mis Medi 2024.
O ganlyniad, mae amseroedd ymateb hefyd yn gwella. Roedd yr amser ymateb cyfartalog i gyrraedd pobl yn y categori galwadau 999 “ambr” 25 munud yn gyflymach ym mis Medi.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:
Rydyn ni wedi targedu lleihau amseroedd trosglwyddo cleifion o ambiwlansys ac rwy’n falch o weld canlyniadau’r gwaith hwn. Ym mis Medi, gwelodd y gwasanaeth ambiwlans y swm isaf o oriau yn cael eu colli ers mis Gorffennaf 2021. Mae angen cynnal hyn wrth inni symud at fisoedd heriol y gaeaf.
Wrth i’r gaeaf agosáu, mae’r Ysgrifennydd Iechyd heddiw yn annog pawb i chwarae eu rhan i helpu eu gwasanaeth iechyd lleol drwy ddewis y gofal cywir ar gyfer eu cyflyrau.
Daw ei apêl wrth i ffigurau heddiw ddangos mai nifer y derbyniadau i adrannau achosion brys fis Medi oedd y rhai uchaf ar gyfer unrhyw fis Medi ar gofnod.
Er mwyn helpu i leihau’r pwysau ar adrannau achosion brys ysbytai, mae fferyllfeydd lleol yn cynnig triniaethau yn gyflym ac yn rhad ac am ddim ar gyfer ystod eang o gyflyrau cyffredin. Gall gwasanaeth GIG 111 Cymru hefyd roi cymorth a chyngor ynglŷn â pha wasanaeth y GIG i’w ddefnyddio. Mae brechiadau am ddim hefyd ar gael i amddiffyn pobl rhag salwch tymhorol y gaeaf, gan gynnwys Covid-19, y ffliw a’r feirws syncytiol anadlol (RSV).
Mae ffigurau perfformiad y GIG heddiw yn dangos bod y rhestr aros gyffredinol yn parhau i ostwng, ac er y gwelwyd cynnydd bach yn nifer y bobl sy’n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth ym mis Awst, roedd hyn yn cyd-fynd â’r rhagolygon ar gyfer misoedd yr haf.
Mae’r data dros dro ar gyfer mis Medi yn dangos gostyngiad o tua 15,000 yn y rhestr aros gyffredinol a gostyngiad sylweddol o ran arosiadau hir.
Nid oes gan Fwrdd Iechyd Powys, Bwrdd Iechyd Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg na Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan naill ai arosiadau dwy flynedd o hyd neu lai nag 1% o’r llwybrau sy’n aros am ddwy flynedd.
Nid oes gan Fwrdd Iechyd Bae Abertawe na Bwrdd Iechyd Powys arosiadau blwyddyn o hyd am apwyntiadau cleifion allanol cyntaf ac mae gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda lai nag 1%.
Ychwanegodd yr Ysgrifennydd Iechyd:
Rydyn ni’n benderfynol o sicrhau bod pobl yn gallu cael triniaethau yn gyflymach ac mae gennym gynlluniau i leihau amseroedd aros hir a chyflawni mwy o apwyntiadau, profion a thriniaethau, a hynny drwy ddarparu gwasanaethau yn fwy effeithiol drwy gymorth cyllid gwerth £120 miliwn.
Rydyn ni’n gweld effaith y buddsoddiad hwn ochr yn ochr â gwaith caled parhaus ein staff ymroddedig yn y gwasanaeth iechyd. Rydyn ni ar y trywydd iawn gyda’r gwaith hwn i leihau’r rhestrau aros a’r arosiadau hiraf.
Mae’r adrannau achosion brys ledled Cymru yn parhau i drin nifer uchel o bobl bob mis - ond mae’n bwysig cofio nad oes angen inni i gyd fynd i’r ysbyty i gael cymorth gan y gwasanaeth iechyd. Mae yna lawer o wasanaethau iechyd lleol sy’n gallu helpu.
Mae cael eich brechu rhag y ffliw, Covid-19 neu RSV yn un o’r camau pwysicaf y gallwn ni eu cymryd i helpu ein hunain a’n gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn.
Bydd ymgyrch Llywodraeth Cymru, Helpwch Ni i’ch Helpu Chi, yn cael ei lansio fis nesaf i helpu pobl i gadw’n iach ac i ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion.
