Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gyfer partneriaethau AGA i gefnogi Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol o fis Medi 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn darparu grant o £5,000 i fyfyrwyr sy'n ymgymryd â thystysgrif addysg achrededig i raddedigion (TAR). Rhaid i'r rhaglen arwain at statws athro cymwysedig (SAC). Rhaid i fyfyrwyr fodloni’r meini prawf cymhwysedd.

Mae’r cynllun hwn ar gael ar gyfer rhaglenni amser llawn a rhan-amser.

Nid yw myfyrwyr sy'n ymgymryd ag unrhyw gynllun hyfforddi athrawon sy'n seiliedig ar gyflogaeth yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys y 'cynllun TAR Cyflogedig'.

Nid yw myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (TAR AHO) wedi'u cynnwys o dan y cynllun hwn.

Dogfennau'r cynllun

Mae dogfennau cynllun cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn cael eu diweddaru'n flynyddol. 

Mae'r dogfennau canlynol sy’n ymwneud â’r cynllun ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru

  • telerau ac amodau’r cynllun hwn
  • hysbysiad preifatrwydd
  • canllawiau i weinyddwyr a myfyrwyr

Rhoddir y dogfennau canlynol i Bartneriaethau AGA i helpu i weithredu’r cynllun: 

  • llythyr dyfarnu grant
  • contract ar gyfer gweinyddu'r grant

Mae'r dogfennau hyn yn nodi gofynion y cynllun a byddant yn help wrth wirio cymhwysedd myfyrwyr. Gwnewch yn siŵr bod y flwyddyn astudio gywir wedi'i nodi ar y dogfennau yr ydych yn eu darllen. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud â'r cynllun hwn neu gynlluniau o flynyddoedd blaenorol, cysylltwch â CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Sut i weinyddu ceisiadau ar gyfer y cynllun hwn

Partneriaethau AGA sy’n gyfrifol am weinyddu’r cynllun cymhelliant hwn, ac am asesu cymhwysedd myfyrwyr ar ei gyfer.

Cyn dechrau’r flwyddyn academaidd, bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu’r canlynol â Phartneriaethau AGA:

  • gwe-ddolen i’r ffurflen gais ar-lein
  • cod ymgeisio’r Bartneriaeth AGA

Rhaid ichi rannu’r rhain â’r myfyrwyr hynny yr ydych yn eu hystyried yn gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn.

Proses ymgeisio myfyrwyr

Dim ond ar sail y canlynol y caiff myfyrwyr wneud cais am grant cymhelliant:

  • eu bod yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd
  • eu bod yn astudio ar raglen gymwys
  • eu bod wedi gwneud cais i Lywodraeth Cymru drwy’r porthol ar-lein

Gall myfyrwyr wneud cais rhwng 1 Medi a 15 Tachwedd.

Os bydd angen i fyfyriwr wneud cais y tu allan i’r cyfnod hwn, dylent gysylltu â Llywodraeth Cymru yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru

Bydd angen y we-ddolen i’r ffurflen gais a chod ymgeisio’r Bartneriaeth AGA ar fyfyrwyr.

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau, dylent gysylltu â’u Partneriaeth AGA. 

Sut i sicrhau bod ceisiadau wedi cyrraedd

Bydd myfyrwyr yn cael e-bost cadarnhau unwaith y byddant wedi cyflwyno eu cais. Dim ond ar ôl iddynt gael yr e-bost hwn y dylent ystyried bod eu cais wedi’i gyflwyno.

Os bydd myfyriwr yn gwneud camgymeriad, ni ddylai gyflwyno cais newydd. Caiff camgymeriadau eu cywiro yn ystod y broses ddilysu.

Adrodiad dilysu

Caiff cod ymgeisio’r Bartneriaeth AGA ei rhannu bob blwyddyn â’r Partneriaethau. Rhaid i fyfyrwyr ddefnyddio’r cod hwn wrth wneud cais am y cymhelliant. Mae’n gwarantu’r cais ac yn cysylltu myfyrwyr â Phartneriaethau AGA.

Bydd Llywodraeth Cymru yn rhannu adroddiad dilysu â Phartneriaethau AGA cyn 30 Tachwedd. Mae’n ofynnol i Bartneriaethau AGA wirio’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn a darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen. Rhaid dychwelyd yr adroddiad dilysu i Lywodraeth Cymru erbyn 15 Rhagfyr. Mae’r amserlen hon yn gydnaws â’r broses hawlio.

Mae’r llythyr dyfarnu grant yn rhoi manylion y broses hon. Bydd yr adroddiad dilysu hefyd yn rhoi canllawiau o ran ei chwblhau.

Taliadau grant

Mae grant cymhelliant o £5,000 ar gael i bob myfyriwr sy’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y flwyddyn astudio academaidd.

Bydd union ddyddiadau'r taliadau i Bartneriaethau AGA yn cael eu nodi yn y llythyr dyfarnu grant. 

Bydd y cymhelliant gwerth £5,000 yn cael ei wneud mewn dau randaliad. Cânt eu talu ar yr adegau canlynol:

  • £2,500 ym mis Gorffennaf neu Awst ar ôl cwblhau TAR yn llwyddiannus a dyfarnu SAC. Os caiff myfyriwr ei asesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno, gwneir taliadau cyn 31 Rhagfyr. Partneriaethau AGA sy'n gyfrifol am wneud y rhandaliad hwn.
  • £2,500 ar ôl cwblhau’r broses sefydlu yn llwyddiannus yng Nghymru. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am wneud y rhandaliad hwn.

Myfyrwyr a aseswyd gan fwrdd arholi ailgyflwyno

Dylai Partneriaethau AGA gyflwyno ffurflen hawlio ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cael eu hasesu gan fwrdd arholi ailgyflwyno ac sydd wedi derbyn SAC. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl gwneud taliadau cyn 31 Rhagfyr.

Rhandaliad SAC

Dim ond i’r myfyrwyr cymwys hynny sydd wedi cwblhau rhaglen AGA ôl-raddedig gymwys yng Nghymru sy'n arwain at SAC y dylid gwneud y rhandaliad SAC (ar ôl dyfarnu SAC). Os bydd myfyriwr yn methu ag ennill SAC, ni ddylid gwneud y taliad.

Os bydd myfyriwr wedi tynnu'n ôl o raglen neu wedi ei gohirio cyn i SAC gael ei ddyfarnu, ni ddylid gwneud y taliad.

Rhandaliad sefydlu

Llywodraeth Cymru sy'n gwneud y rhandaliad sefydlu. Rhaid i athrawon sydd newydd gymhwyso ddefnyddio'r broses gais ar-lein i ymgeisio am un neu sawl rhandaliad sefydlu o dan un neu fwy o'r cynlluniau cymhelliant. Mae angen i'r ysgol gadarnhau manylion yr unigolyn. 

Gweler yr adran yn y canllawiau hyn ar y broses taliadau sefydlu am fanylion rôl Partneriaeth AGA.

Swyddogaethau a chyfrifoldebau

Mae'r cymhelliant hwn yn cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru ac ar ran Llywodraeth Cymru gan Bartneriaethau AGA. 

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am delerau ac amodau'r cynllun, a hi sy'n rheoli data'r cynllun.

Mae Partneriaethau AGA yn gyfrifol am asesu myfyrwyr ac am y taliadau a wneir pan ddyfernir Statws Athro Cymwysedig.

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y rhandaliad sefydlu. Caiff hwn ei dalu ar ôl cwblhau'r broses sefydlu yn llwyddiannus a dyfarnu tystysgrif sefydlu

Cyfrifoldebau Partneriaeth AGA o ran gweinyddu’r grant

  • Defnyddio'r cynllun cymhelliant i helpu’r broses o recriwtio i raglenni AGA cymwys lle bo hynny'n briodol.
  • Cefnogi'r rhai sy'n uniaethu â chymunedau ethnig lleiafrifol i gofrestru ar y cynllun. Rhaid i fyfyrwyr uniaethu ag un o'r grwpiau ethnig cymwys. Disgwylir i hyn gyd-fynd â'r cofnodion sydd gan y Bartneriaeth AGA.
  • Sicrhau mynediad i fyfyrwyr cymwys at y broses gais ar-lein ar ddechrau'r rhaglen AGA. Mae’r broses gais ar-lein yn cwmpasu pob un o'r tri chynllun cymhelliant AGA.
  • Sicrhau bod myfyrwyr yn deall telerau'r cynllun.
  • Dilysu ceisiadau myfyrwyr.
  • Rhannu'r wybodaeth am fyfyrwyr, sy'n angenrheidiol ar gyfer y cynllun, â Llywodraeth Cymru mewn modd diogel (er enghraifft, adroddiad dilysu, ffurflenni hawlio). Rhaid i hyn gydymffurfio â gofynion diogelu data a thelerau'r llythyr dyfarnu grant.
  • Llenwi ffurflenni hawlio yn unol â dyddiadau dyfarnu SAC, a nodir yn y llythyr cynnig grant.
  • Gweinyddu rhandaliadau SAC i fyfyrwyr.
  • Cefnogi myfyrwyr i lenwi ffurflen ddychwelyd, yn ôl yr angen.
  • Delio â chwestiynau gan fyfyrwyr ynghylch y cynllun cymhelliant.
  • Rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru am unrhyw gŵyn a dderbyniwyd sy'n gysylltiedig â'r cymhelliant hwn. Rhaid gwneud hyn, p'un a oes angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau ai peidio.
  • Cynghori myfyrwyr ar y broses hawliadau sefydlu. Bydd hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth a gwe-ddolen i'r ffurflen gais ar-lein â nhw. Esbonnir hyn yn y llythyr dyfarnu a'r adran yn y canllawiau hyn ar y broses taliadau sefydlu.
  • Rhoi anfoneb i Lywodraeth Cymru am gost gweinyddu'r cynllun, fel y nodir yn y contract. 

Caiff holl gyfrifoldebau'r Partneriaethau AGA a'r dyddiadau pwysig eu cyhoeddi bob blwyddyn mewn llythyrau cynnig grant a llythyrau contract unigol. Dylai Partneriaethau AGA gysylltu â CymelldaliadauAGA@llyw.cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau.

Sut caiff y taliad ei wneud i Bartneriaethau AGA

Rhaid i Bartneriaethau AGA lenwi a chyflwyno ffurflen hawlio i Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn sicrhau bod arian priodol yn cael ei ryddhau ar gyfer rhandaliad SAC. 

Cyfnod cyflwyno hawliadau ar gyfer rhandaliad SAC yw: 

  • 1 Gorffennaf i 17 Awst 

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y llythyr dyfarnu grant. 

Dylai Partneriaethau AGA roi anfoneb i Lywodraeth Cymru unwaith y cytunir ar bob hawliad. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng nghontract gweinyddu'r cynllun. 

Dylai Partneriaethau AGA gyfeirio unrhyw gwestiynau sydd ganddynt ynghylch y broses dalu at CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Y broses taliadau sefydlu

Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y rhandaliad sefydlu. Caiff hwn ei dalu ar ôl cwblhau'r broses sefydlu yn llwyddiannus a dyfarnu tystysgrif sefydlu gan Gyngor y Gweithlu Addysg.

Rhaid i unigolion ddefnyddio'r broses gais ar-lein i ymgeisio am un neu sawl taliad sefydlu o dan un neu fwy o'r cynlluniau cymhelliant. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu gwe-ddolen i'r ffurflen gais i Bartneriaethau AGA. Rhaid i Bartneriaethau AGA rannu hon â'r myfyrwyr cymwys hynny ar ôl dyfarnu SAC iddynt. 

Rhaid i fyfyrwyr fod wedi derbyn eu rhandaliad SAC, cwblhau eu proses sefydlu a derbyn eu tystysgrif sefydlu gan Gyngor y Gweithlu Addysg cyn y gallant wneud cais am eu rhandaliad sefydlu.

Os oes gan fyfyrwyr unrhyw gwestiynau am y broses sefydlu, dylent gysylltu â Llywodraeth Cymru drwy e-bostio CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Y broses hawliadau sefydlu 

Mae 3 rhan i broses hawliadau sefydlu AGA: 

  1. ffurflen gais am randaliad sefydlu (rhaid i'r ymgeisydd gwblhau hon ar-lein)
  2. cadarnhad gan yr ysgol sefydlu (rhaid i'r ysgol sefydlu wneud hyn ar-lein)
  3. tystysgrif sefydlu (rhaid i'r ysgol sefydlu gyflwyno copi ohoni i Lywodraeth Cymru drwy e-bost)

Dim ond ar ôl i Lywodraeth Cymru dderbyn 3 rhan y broses y bydd cais sefydlu yn cael ei ystyried yn gyflawn. 

Gall athrawon sydd newydd gymhwyso neu ysgolion gysylltu â Llywodraeth Cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru

Hawliad sefydlu Rhan 1 

Rhaid i unigolion cymwys wneud cais i Lywodraeth Cymru i hawlio eu rhandaliad sefydlu drwy lenwi cais cymhelliant ar-lein. 

Gall unigolion gysylltu â Llywodraeth Cymru os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru

Hawliad sefydlu Rhannau 2 a 3 

Rhaid i'r ysgol lle cwblhawyd cyfnod sefydlu athro sydd newydd gymhwyso gadarnhau cais sefydlu o dan gynllun cymhelliant AGA. Rhaid iddynt lenwi ffurflen gadarnhau ar-lein a chyflwyno copi o dystysgrif sefydlu'r ymgeisydd i Lywodraeth Cymru. 

Dylai Pennaeth, Dirprwy Bennaeth, Pennaeth Cynorthwyol neu Bennaeth Adran ysgol lenwi rhannau 2 a 3 o'r ffurflen hawlio hon. Bydd methu â darparu cadarnhad neu gyflwyno'r dystysgrif sefydlu yn golygu bod cais yr ymgeisydd am randaliad sefydlu AGA yn cael ei wrthod. 

Bydd yr holl gyfarwyddiadau i gwblhau rhannau 2 a 3 yn cael eu rhoi'n uniongyrchol i'r Pennaeth, y Dirprwy Bennaeth, y Pennaeth Cynorthwyol neu'r Pennaeth Adran. Os oes ganddynt unrhyw gwestiynau am y broses hon, gallant gysylltu â Llywodraeth Cymru yn CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Amserlen hawlio taliad sefydlu

Ni fydd gan fyfyrwyr sy’n ennill SAC, ond nad ydynt yn cwblhau eu cyfnod sefydlu o fewn y cyfnod penodedig mewn ysgol uwchradd a gynhelir yng Nghymru, hawl i gael y rhandaliad sefydlu.

I barhau i fod yn gymwys i dderbyn y rhandaliad sefydlu: 

  • rhaid cwblhau'r cyfnod sefydlu o fewn 3 blynedd i ennill SAC mewn lleoliad a gynhelir yng Nghymru
  • rhaid gwneud cais ar-lein i Lywodraeth Cymru o fewn blwyddyn ar ôl i'r athro newydd gymhwyso gwblhau ei gyfnod sefydlu

Gohirio ac ailgydio

IOs bydd myfyriwr yn gohirio ei astudiaethau cyn ennill SAC, ni fydd yn gymwys i dderbyn y rhandaliad SAC. Fodd bynnag, os bydd myfyriwr yn ailgydio yn ei astudiaethau ac yn ennill SAC, bydd ganddo hawl i dderbyn y rhandaliad SAC ar ôl dyfarnu SAC iddo. Mae’n rhaid i ffurflen ddychwelyd fod wedi’i chwblhau a’i derbyn gan Lywodraeth Cymru. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd taliad yn cael ei wneud ar ôl cwblhau rhaglen (ar ôl dyfarnu SAC). Gall partneriaethau AGA ofyn am ddolen i’r ffurflen ddychwelyd o CymelldaliadauAGA@llyw.cymru.

Ni fydd gan fyfyrwyr nad ydynt yn ennill SAC ar ddiwedd eu rhaglen AGA hawl i gael y rhandaliad SAC.

Adennill grantiau cymhelliant

Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau i adennill grantiau cymhelliant a dalwyd, yn gyfan gwbl neu'n rhannol. Mae ganddi ddisgresiwn i arfer y pwerau hyn neu i beidio, a bydd yn ystyried pob achos yn ôl ei deilyngdod.

Caniateir i'r pwerau hyn gael eu harfer gan Lywodraeth Cymru:

  • os yw’r derbynnydd, ar ôl cael unrhyw randaliad o grant cymhelliant, yn methu â bodloni unrhyw feini prawf cymhwysedd a nodir yn nhelerau ac amodau’r cynllun mewn perthynas â rhandaliad dilynol
  • os yw'r derbynnydd wedi darparu gwybodaeth sy'n ffug neu'n sylweddol gamarweiniol yn ei gais am grant cymhelliant, neu mewn cysylltiad â'r cais
  • neu os oes tystiolaeth ddigamsyniol nad oedd y derbynnydd erioed wedi bwriadu cwblhau'r rhaglen, neu nad oedd yn fwriad ganddo fynd i addysgu ar ôl ei chwblhau

Diogelu data a rhyddid gwybodaeth

Mae’r wybodaeth y mae myfyrwyr yn ei chyflwyno, fel rhan o'u hawliad o dan Gynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol, yn ddarostyngedig i ofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (“y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth"), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 (yr "EIR"), y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (“y Ddeddf Diogelu Data").

Mae myfyrwyr hefyd yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu yn ôl ein disgresiwn llwyr:

  • a ddylid datgelu unrhyw wybodaeth yr ydym wedi'i chael o dan y Cyllid, neu mewn cysylltiad ag ef, i’r graddau y mae’n ofynnol inni ddatgelu’r cyfryw wybodaeth i berson sy’n gwneud cais am ddatgeliad o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR a (neu)
  • a yw unrhyw wybodaeth wedi'i heithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu'r EIR
  • a ddylid cynnal gwiriadau at ddibenion atal twyll a gwyngalchu arian, ac i wirio pwy ydych. Mae angen y gwiriadau hyn i brosesu data personol amdanoch i asiantaethau atal twyll trydydd parti

Llywodraeth Cymru yw'r rheolydd data ar gyfer yr wybodaeth bersonol y mae'n ei chael. Bydd unrhyw ddata personol a gasglwn yn cael ei reoli yn unol â Chynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol: hysbysiadau preifatrwydd a hysbysiad preifatrwydd: grantiau Llywodraeth Cymru.

Cefndir y cynllun

Mae’r grantiau cymhelliant AGA sydd ar gael yn adlewyrchu’r blaenoriaethau recriwtio o fewn y gweithlu addysgu yng Nghymru. Maent ar gael i fyfyrwyr cymwys ar raglenni AGA ôl-raddedig cymwys yng Nghymru.

Cyflwynwyd Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol ym mis Medi 2022. Mae'r cynllun yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth-hiliol. Nod y cynllun yw cynyddu nifer yr athrawon o leiafrifoedd ethnig. Nid yw myfyrwyr a ymgymerodd â rhaglen AGA cyn mis Medi 2022 yn gymwys ar gyfer y cymhelliant hwn.

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau o dan adrannau 14 i 17 o Ddeddf Addysg 2002 i ddarparu cymorth ariannol i hyrwyddo'r ymgais i recriwtio neu gadw athrawon neu staff nad ydynt yn addysgu. Mae'r grant hwn ar waith i annog unigolion i hyfforddi ar gyfer y proffesiwn addysgu, mynd i mewn i'r proffesiwn addysgu, ac aros yno. Ni ddylai fod yn rhan o becyn cyllid myfyrwyr.

Mae'r cynllun yn cael ei adolygu'n flynyddol. Mae pob cynllun yn gwneud darpariaeth i fyfyrwyr AGA ôl-raddedig Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, sy'n astudio eu rhaglen AGA achrededig, gael mynediad i'r cymhellion hyn.