Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Yn dilyn asesiad yn erbyn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru ym mis Tachwedd 2024, lefel uwchgyfeirio bresennol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yw lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.

Lefel 4 (ymyrraeth wedi'i thargedu) yw'r lefel uwchgyfeirio uchaf ond un yn fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio'r GIG. Caiff ei chymhwyso pan fydd sefydliadau yn wynebu problemau difrifol a phan fydd pryderon na allant wneud y gwelliannau angenrheidiol heb gymorth allanol.

Ar y lefel uwchgyfeirio hon, bydd Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â chamau ac ymyriadau uniongyrchol ac yn eu cydlynu er mwyn cefnogi'r bwrdd iechyd i atgyfnerthu ei allu i ysgogi gwelliannau. Maent yn cynnwys cyfres o ymyriadau a gynlluniwyd i ddatrys y problemau o fewn amserlen resymol. Fel arfer, Perfformiad a Gwella GIG Cymru dan gyfarwyddyd Llywodraeth Cymru fydd yn rhoi'r ymyriadau ar waith. Lle y bo'n briodol, cytunir ar gymorth allanol â'r sefydliad.

Hanes uwchgyfeirio

Ym mis Medi 2023, uwchgyfeiriwyd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys i lefel fonitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio am na allai'r bwrdd iechyd lunio cynllun tair blynedd cytbwys yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru a Fframwaith Cynllunio'r GIG, y gellid ei ystyried i'w gymeradwyo o dan adran 175(2A) o Ddeddf y GIG (Cymru) 2006 (“Deddf 2006”). Ar 22 Ionawr 2024, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn parhau i fod yn destun monitro uwch ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio.

Ym mis Tachwedd 2024, uwchgyfeiriwyd y bwrdd iechyd i lefel 4 ar gyfer cyllid, strategaeth a chynllunio yn dilyn diffyg ariannol cynyddol.

Fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru

Mae fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio GIG Cymru yn nodi proses Llywodraeth Cymru ar gyfer goruchwylio cyrff y GIG a chael sicrwydd drwy'r system gyfan. Mae'n disgrifio'r broses uwchgyfeirio, isgyfeirio ac ymyrryd, y pum lefel uwchgyfeirio a'r parthau y caiff pob bwrdd iechyd ei asesu yn eu herbyn.

Yn ystod yr uwchgyfeirio, bydd yr ymyriadau:

  • yn gydweithredol: byddwn yn ceisio lleihau achosion o ddyblygu drwy gydweithio â phwyllgorau, grwpiau a rhaglenni cenedlaethol eraill
  • ar y cyd: byddwn yn gwneud y defnydd gorau o wybodaeth a rennir drwy rannu dulliau gweithredu, adnoddau a chanllawiau cyffredin
  • yn canolbwyntio ar effaith: byddwn yn archwilio ac yn ceisio sicrwydd a thystiolaeth o ran y ffordd y mae sefydliadau'n cael sicrwydd ynglŷn â'r broses o roi camau gweithredu ar waith a'u heffaith
  • yn cael eu cynnal mewn modd agored ac yn dryloyw, gydag ymddiriedaeth a pharch ar y cyd rhwng y bwrdd iechyd, Llywodraeth Cymru a Perfformiad a Gwella GIG Cymru

Tra bydd y bwrdd iechyd yn destun uwchgyfeirio:

  • bydd trefniadau rheoli perfformiad arferol yn parhau drwy gyfarfodydd Ansawdd, Cynllunio a Chyflawni Integredig a chyfarfodydd y Tîm Gweithredol ar y Cyd
  • caiff cyfarfodydd uwchgyfeirio chwarterol eu cadeirio gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar a Prif Weithredwr GIG Cymru Hanes uwchgyfeirio
  • cytunir ar gyfarfodydd cyswllt cyllid, strategaeth a chynllunio lefel 4 gyda'r tîm Cyllid, Cynllunio a Chyflawni o fewn Perfformiad a Gwella GIG Cymru. Bydd y rhain yn archwilio'r cynnydd a wnaed yn erbyn y log gweithredu, yn adolygu tystiolaeth ac yn cytuno ar allbynnau i'w cynnwys yn y cyfarfodydd uwchgyfeirio dan arweiniad Llywodraeth Cymru

Isgyfeirio

Mae'r fframwaith hwn yn nodi'r disgwyliadau mewn perthynas ag isgyfeirio ar gyfer pob maes a pharth uwchgyfeirio. Lle y bo'n bosibl, mae'r meini prawf isgyfeirio hyn yn gyson â sefydliadau iechyd eraill sy'n destun uwchgyfeirio.

Bydd y broses isgyfeirio yn digwydd un lefel ar y tro, a bydd lefel yr oruchwyliaeth a’r ymyrraeth yn lleihau yn ystod pob cam isgyfeirio. Fel arfer, bydd sefydliad y cael ei isgyfeirio o lefel 3 (monitro uwch) i lefel 1 (trefniadau arferol).

Er mwyn cael ei ystyried ar gyfer isgyfeirio, rhaid i sefydliad ddangos ei fod yn gwneud cynnydd tuag at fodloni'r meini prawf isgyfeirio.

Mae dau ddull isgyfeirio:

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn cydlynu gweithgarwch i fonitro, herio ac adolygu'r cynnydd a wnaed gan sefydliad y GIG. Os gall sefydliad y GIG ddarparu tystiolaeth o welliant digonol ac amserol, yna bydd Llywodraeth Cymru a chyrff adolygu allanol yn rhannu gwybodaeth i'w galluogi i ystyried a yw'n briodol isgyfeirio'r trefniadau ymyrryd a roddwyd ar waith ar gyfer sefydliad y GIG. Er mwyn i'r isgyfeirio ddigwydd, efallai na fydd corff y GIG wedi bodloni'r holl feini prawf isgyfeirio, ond bydd angen iddo ddangos gwelliannau parhaus, a chynllun gwella credadwy i gynnal gwelliannau.
  • Caiff y meysydd hynny â chanlyniadau a thargedau meintiol fel perfformiad a chanlyniadau eu hisgyfeirio pan fydd y meini prawf isgyfeirio wedi'u bodloni a'u cynnal am y cyfnod o amser y cytunwyd arno. Os bydd sefydliad y GIG yn bodloni'r meini prawf isgyfeirio ar gyfer parth neu is-barth penodol, yna bydd yn cael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf ar y raddfa uwchgyfeirio. Bydd yr isgyfeirio hwn yn digwydd yn awtomatig y tu allan i'r cylch uwchgyfeirio arferol, a bydd y sefydliad yn cael cadarnhad ysgrifenedig. 

Swyddogaethau a chyfrifoldebau

Rolau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru yw:

  • cefnogi strwythur ffurfiol ar gyfer adolygu ac adrodd ar gynnydd
  • cyfeirio at ganllawiau arferion gorau a fframweithiau perthnasol
  • gweithredu fel cyfaill beirniadol a bwrdd seinio ar arferion presennol a datblygiadau newydd.
  • adolygu a rhoi adborth ar gynhyrchion a ddatblygwyd
  • cynnal a rhannu gwaith dadansoddi perthnasol ac archwiliadau dwfn o ddata cenedlaethol
  • galluogi dulliau a rennir o ymdrin â materion cenedlaethol allweddol ar draws sefydliadau GIG Cymru a hyrwyddo prosesau dysgu a rennir
  • cyfarwyddo Perfformiad a Gwella GIG Cymru neu wneud trefniadau amgen i ddarparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer pryderon penodol er mwyn helpu'r bwrdd iechyd i wneud mwy o gynnydd yn erbyn amcanion rhaglenni
  • gweithio gyda'r bwrdd iechyd ar ffactorau galluogi allweddol mewn perthynas â chynllunio rhanbarthol, ailddylunio gwasanaethau clinigol, a seilwaith (digidol ac adeiladau)

Rolau a chyfrifoldebau'r bwrdd iechyd yw:

  • penodi Uwch-swyddog Cyfrifol (pwynt cyswllt dynodedig) i arwain ymateb y bwrdd iechyd i'r lefel uwchgyfeirio
  • sicrhau perchnogaeth a goruchwyliaeth y Bwrdd drwy bennu strwythur llywodraethiant clir, sicrhau y rhoddir gwybod i'r Bwrdd am y cynllun uwchgyfeirio a rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd i'r Bwrdd yn erbyn y meini prawf isgyfeirio
  • llunio cynllun gweithredu lefel 4 mewn ymateb i'r pryderon ac ymrwymo digon o adnoddau i sicrhau bod modd cyflawni'r cynllun
  • cyflwyno adroddiadau cynnydd chwarterol a thystiolaeth yn erbyn y cynllun uwchygyfeirio i Lywodraeth Cymru
  • atgyfnerthu'r dulliau adolygu ffurfiol i gefnogi'r gallu i weithredu ar frys gan sicrhau hyder a gwelliant o ran y sefyllfa ariannol

Cyllid, strategaeth a chynllunio

Cyllid

Mae'r ffocws a'r ymyrraeth ariannol ar lefel 4yn cwmpasu'r meysydd a ganlyn

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau i gryfhau ei amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol a dangos: 

  • bod y fframwaith llywodraethiant ariannol yn gadarn o ran cynllun a gweithrediad, gan gynnwys hunanasesiad yn erbyn fframweithiau arferion gorau
  • bod strwythur y pwyllgor ariannol wedi'i gyfleu'n glir a’i fod yn mynd i'r afael â risgiau allweddol
  • bod rheolaethau ariannol yn gadarn o ran eu dyluniad ac o ran gweithredu
  • bod gan y swyddogaeth gyllid yr adnoddau a'r galluogrwydd angenrheidiol i gefnogi anghenion y sefydliad ehangach
  • bod yr adroddiadau ariannol yn cynnwys y dadansoddiad a'r esboniad naratif sy'n ofynnol er mwyn galluogi'r rheolwyr a'r Bwrdd i gyflawni eu dyletswyddau
  • bod adroddiadau integredig yn rhoi dealltwriaeth glir i'r Bwrdd o'r cysylltiad rhwng perfformiad ariannol a pherfformiad gweithredol, gan gynnwys cynhyrchiant ac effeithlonrwydd y sefydliad
  • caiff cyllidebau eu pennu'n unol â'r cynllun a'u rheoli'n effeithiol, gan ddwyn deiliaid cyllidebau i gyfrif am gyflawni eu cynlluniau ariannol
  • o ganlyniad i'r uchod, mae wedi datblygu cynllun gweithredu i wella'r amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol, ac mae'n ei gyflawni

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddangos dealltwriaeth o'r diffyg presennol a'r ffactorau allweddol, a sicrhau bod:

  • dealltwriaeth glir o'r ffactorau sy'n rheoli costau a'r penderfyniadau buddsoddi sy'n gyfrifol am y cynnydd mewn diffyg ym mhob rhan o'r sefydliad, gan gynnwys dadansoddiad penodol yn ôl maes gwasanaeth allweddol a ffactor sy'n rheoli costau
  • proses glir a chadarn ar waith ar gyfer herio diffygion sylfaenol a gofnodwyd ar lefelau is-adrannol lleol
  • dealltwriaeth a rheolaeth glir o'r rhesymau dros y diffygion sylfaenol a'r pwysau cost cynyddol a gofnodwyd mewn gwasanaethau a gomisiynwyd, a'r ffactorau a wnaeth eu hysgogi
  • dealltwriaeth a rheolaeth glir o'r ffactorau ysgogi sy'n gyfrifol am y twf costau a'r sylfaen cost uchel o fewn y maes gofal iechyd parhaus (CHC) a gofal nyrsio a ariennir gan y GIG (FNC)
  • dealltwriaeth a rheolaeth glir o'r ffactorau ysgogi sy'n gyfrifol am y twf costau a sylfaen cost uchel o fewn presgripsiynu
  • mae dealltwriaeth glir a rheolaeth o'r ffactorau sy'n ysgogi costau a'r penderfyniadau buddsoddi sy'n gyfrifol am y cynnydd yng nghostau'r gweithlu, ochr yn ochr â'r cyfyngiadau ar gapasiti'r gweithlu a chamau datblygu clir i gefnogi gweithlu cynaliadwy
  • o ganlyniad i'r uchod, mae dulliau trionglog o nodi a chyflawni camau gweithredu i wella effeithlonrwydd a gwneud y defnydd gorau o adnoddau

Rhaid i'r bwrdd iechyd ganolbwyntio ar ddatblygu a gwireddu cyfleoedd a sicrhau:

  • caiff cyfleoedd cenedlaethol a nodir drwy'r Bwrdd Gwerth a Chynaliadwyedd eu troi'n gynlluniau arbedion lleol
  • mae egwyddorion gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth wedi'u hymgorffori ym mhob rhan o'r sefydliad a chaiff cynlluniau gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth eu cyflawni
  • mae holl fuddsoddiadau'r flwyddyn flaenorol wedi'u hadolygu er mwyn asesu a yw'r buddiannau a gynlluniwyd wedi cael eu cyflawni
  • mae proses glir ar gyfer datblygu a chyflwyno cyfleoedd strategol i gefnogi cynaliadwyedd y bwrdd iechyd

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd ddatblygu a gweithredu strategaeth a chynllun ariannol clir a dangos:

  • bod cynllun integredig ar waith a fydd yn cyflawni'r cyfanswm rheoli targed o ddiffyg o £12 miliwn yn 2025 i 2026 o leiaf, a gwnaed mwy o gynnydd tuag at ddarparu gwasanaethau effeithlon gyda'r adnoddau sydd ar gael a llwybr i gyflawni'r ddyletswydd i adennill costau
  • cynllun ymgysylltu clir i gyfleu'r angen am welliannau ariannol ym mhob rhan o'r sefydliad

Yn unol â chyflawni ei gynllun ariannol, rhaid i'r bwrdd iechyd ddangos:  

  • cyflawni perfformiad ariannol ar gyfer 2025 i 2026 yn unol â'r cynllun ariannol a chynnydd tuag at gyflawni'r ddyletswydd i adennill costau drwy leihau gwerth y diffygion sylfaenol
  • cyflawni'r arbedion targed yn ystod y flwyddyn a blwyddyn lawn a bwrw ymlaen â'r cynlluniau trawsnewid sydd eu hangen i gefnogi cynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol
  • bod dewisiadau yn ystod y flwyddyn yn cael eu nodi a'u rhoi ar waith yn gynnar er mwyn lliniaru unrhyw bwysau sy'n dod i'r amlwg
  • bod prosesau rheoli perfformiad clir ar waith i reoli amrywiadau sy'n dod i'r amlwg mewn contractau comisiynu ac i wneud dewisiadau priodol sy'n seiliedig ar risg i fynd i'r afael â phwysau cyllidebol

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod: 

  • dangos bod amgylchedd llywodraethiant a rheolaeth ariannol cadarn ar waith, a bod risgiau'n cael eu lleihau i'r eithaf
  • rhaid gwneud cynnydd sylweddol o ran cyflawni'r cynllun gweithredu ar gyfer lefel 4 i wella dealltwriaeth y sefydliad o'r diffyg presennol a'r ffactorau ysgogi allweddol a datblygu a gwireddu cyfleoedd
  • datblygu cynllun blynyddol gyda chymeradwyaeth y Bwrdd i ddangos llwybr gwelliant ariannol sylweddol a chyflawni'r cyfanswm rheoli targed o leiaf

Ymyrraeth ym maes strategaeth a chynllunio 

Mae'r ffocws a'r ymyrraeth mewn perthynas â strategaeth a chynllunio ar lefel uwchgyfeirio 4 yn cwmpasu'r meysydd canlynol.

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gyflwyno a gweithredu cynllun cymeradwy a dangos:

  • gwaith cynllunio integredig gwell ym mhob rhan o'r sefydliad i ddatblygu cynllun tymor canolig integredig y gellir ei gymeradwyo, gan roi trywydd ar gyfer cyflawni ei uchelgais tymor hwy
  • os na all y bwrdd iechyd gyflwyno cynllun tymor canolig integredig cytbwys ar gyfer 2025 i 2028 yn unol â'r gofyniad statudol, bydd disgwyl iddo nodi cynllun credadwy clir a fydd yn cyflawni'r cyfanswm rheoli targed o ddiffyg o £12 miliwn yn 2025 i 2026 o leiaf
  • gwneud cynnydd da tuag at gyflawni'r blaenoriaethau gweinidogol, y disgwyliadau o ran cyflawni, y camau galluogi (a nodir yn Fframwaith Cynllunio GIG Cymru ar gyfer 2025 i 2028), y meini prawf atebolrwydd a'r gofynion ar gyfer lefel 4

Bydd yn ofynnol i'r bwrdd iechyd gymryd camau i gryfhau ei gynllunio a'i drawsnewid strategol a dangos:

  • sut mae'r strategaeth a'r cynllun clinigol yn llywio'r penderfyniadau a wneir ym mhob rhan o'r sefydliad
  • amserlen a dull gweithredu strategol a gymeradwywyd gan y Bwrdd ar gyfer trywydd ar gyfer cynaliadwyedd
  • cysondeb ar lefel y bwrdd rhwng cyfeiriad strategol ar gyfer trawsnewid model gwasanaeth a rhwymedigaethau ariannol

Meini prawf isgyfeirio

Er mwyn i'r bwrdd iechyd gael ei isgyfeirio i'r lefel nesaf o ymyrraeth, rhaid iddo fodloni'r meini prawf isod:

  • cyflwyno cynllun tymor canolig cytbwys a chredadwy neu gynllun blynyddol derbyniol yn unol â'r fframwaith cynllunio presennol
  • tystiolaeth o eglurder y bwrdd ynghylch y weledigaeth strategol ar gyfer y sefydliad
  • tystiolaeth o drywydd clir a rhoi cynllun gwasanaethau clinigol y bwrdd iechyd ar waith
  • lefel hyder uwch yn Llywodraeth Cymru ynghylch cyflawni yn seiliedig ar hunanasesiad yn erbyn y matrics cynllunio aeddfedrwydd
  • cyflawni ymrwymiadau a nodwyd yng nghynllun y bwrdd iechyd, yn enwedig mewn perthynas â'r blaenoriaethau gweinidogol, y disgwyliadau o ran cyflawni a'r camau galluogi

Cymorth sydd ei angen

Mae'r lefel uwchgyfeirio a'r ymyriadau cysylltiedig a nodwyd yn y cynllun gweithredu ariannol y cytunwyd arno wedi'u llunio i gefnogi'r bwrdd iechyd i ddangos camau gweithredu a thystiolaeth yn unol â'r amcanion allweddol.

Bydd tîm Cyflawni a Chynllunio Ariannol Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn gweithio gyda'r bwrdd iechyd i'w helpu i gyflawni'r camau gweithredu a'r cynhyrchion a nodwyd yn y cynllun gweithredu er mwyn cael darlun clir o'r trefniadau llywodraethiant ariannol sydd ar waith, yr heriau ariannol allweddol (diagnosis), a'r cyfleoedd ar gyfer gwella, ac er mwyn meithrin dealltwriaeth o gynlluniau a chamau ar gyfer gwella.

Mae sefyllfa gronnol a chyfredol y bwrdd iechyd yn cael ei hysgogi gan heriau mewn meysydd adnoddau allweddol; comisiynu; gofal iechyd parhaus (CHC), gan gynnwys effaith gysylltiedig cyflunio a chapasiti'r darparwr; rhagnodi; a'r gweithlu.

Mae'r fframwaith uwchgyfeirio a'r cynllun gweithredu yn nodi 10 maes blaenoriaeth ac argymhellion ar gyfer cymorth ychwanegol posibl. Wrth fynd ar drywydd y camau gweithredu hyn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried a oes gan y bwrdd iechyd y capasiti a'r gallu i gyflawni'r camau gweithredu sy'n ofynnol i ateb yr her hon.

Felly, mae'r ymyrraeth yn ymwneud â sicrhau capasiti digonol gan bartner allanol i ddarparu cymorth ychwanegol i'r sefydliad, ochr yn ochr â sicrhau arbenigedd penodol mewn meysydd allweddol fel comisiynu. 

Bydd y model cyflawni tebygol yn gofyn am gaffael capasiti ychwanegol gan drydydd parti, yn ogystal â sicrhau arbenigedd penodol priodol ym maes comisiynu a gofal iechyd parhaus yn benodol.

Felly, bydd disgwyl i'r bwrdd iechyd gaffael a chomisiynu'r cymorth hwn yn uniongyrchol, gan sicrhau bod y cymorth ychwanegol hwn yn dilyn cyfarwyddyd Perfformiad a Gwella GIG Cymru mewn capasiti goruchwylio yn agos ac yn ymateb iddo, a'i fod yn bodloni gofynion y cynllun gweithredu lefel 4 y cytunwyd arno.

Mae'r meysydd blaenoriaeth ar gyfer ymyrraeth wedi'u nodi drwy'r cynllun gweithredu lefel 4 ac maent wedi'u categoreiddio fel:

  • Gwyrdd: mae angen cymorth a chamau gweithredu i gomisiynu hyn yn gyflym
  • Oren: mae angen cymorth ond ar gam diweddarach pan fydd diagnosis clir
  • Coch: mae angen cymorth ond gofyniad tymor hwy yn dilyn y blaenoriaethau uniongyrchol i sicrhau gwelliant

Mae cymorth blaenoriaeth gwyrdd yn cynnwys:

  • arbenigedd ym maes comisiynu a chontractio er mwyn darparu capasiti i'r bwrdd iechyd adolygu ei ddull contractio a gwella'r prosesau a'r rheolaethau ar gyfer ymrwymo i gontractau comisiynu a'u monitro o fewn yr adnoddau sydd ar gael
  • arbenigedd clinigol a gweithredol ym maes gofal iechyd parhaus er mwyn gwella capasiti ac adolygu'r broses a'r llwybrau sy'n sail i ofal iechyd parhaus a gofal nyrsio a ariennir a chefnogi'r broses o ddatblygu datrysiadau cynaliadwy
  • arbenigedd a chapasiti cynllunio a thrawsnewid allanol i gefnogi'r bwrdd iechyd i ddatblygu a chyflawni cynllun integredig ar gyfer 2025 i 2026, gan gynnwys ymgysylltu'n effeithiol â rhanddeiliaid, nodi camau gweithredu cyflym i gefnogi'r broses o gyflawni'r cyfanswm rheoli targed, a chefnogi'r sefyllfa tymor hwy drwy ddatblygu map trywydd ar gyfer cydbwyso, gan gynnwys ffocws ar gyfleoedd i atgyfnerthu'r gallu i gynllunio
  • diwrnodau archwilio mewnol ychwanegol i adolygu'r rheolaethau a'r prosesau mewn meysydd risg allweddol nad ydynt wedi'u hadolygu'n ddiweddar ac mewn meysydd allweddol fel y gweithlu (er enghraifft, gweithwyr banc a'r asiantaethau)

Mae cymorth blaenoriaeth oren yn cynnwys:

  • arbenigedd ym maes fferylliaeth i helpu'r bwrdd iechyd i asesu ffactorau ysgogi twf, lliniaru twf drwy gyfleoedd ac adolygu ymddygiadau rhagnodi
  • arbenigedd ym maes cynllunio'r gweithlu a chapasiti i bennu datrysiadau o ran y gweithlu a strategaeth i leihau'r galw am weithwyr asiantaeth mewn ardal wledig a chefnogi cynaliadwyedd tymor hwy
  • arbenigedd gweithredol ym maes adnoddau dynol i atgyfnerthu capasiti a helpu i sefydlu trefniadau ymgysylltu a rheolaethau penodi cadarn, a'u rhoi ar waith

Mae cymorth blaenoriaeth coch yn cynnwys:

  • cymorth allanol i arwain hunanasesiad y Bwrdd, asesiad o'r pwyllgorau, effeithiolrwydd llywodraethiant a rheolaeth, a phrosesau newid
  • arbenigedd partneru ym maes busnes a swyddogaeth gyllid i ddarparu adolygiad allanol o'r strategaeth, capasiti, rolau a'r gwaith o gyflawni'r swyddogaeth gyllid, gan gynnwys cymorth ar gyfer nodi proses newid a'i rhoi ar waith
  • arbenigedd Gwerth mewn Iechyd Cymru i ddarparu cymorth ymgysylltu a mewnbwn i'r tîm lleol
  • arbenigedd ym maes cyfathrebu a chymorth i sefydlu arferion gorau mewn perthynas ag ymgysylltu a chyfathrebu o fewn y bwrdd iechyd a'r tu allan iddo