Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Dr Charles Musselwhite, Prifysgol Aberystwyth
Barry Stephens, Cymru Egnïol
Vicki Lloyd, Age Cymru, cadeirydd
Chris Jones, Gofal a Thrwsio
Steve Milsom, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA)
Andrew Hinchliffe, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA)
Sarah Rossington-Harris, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Y Cynghorydd Norma Mackie, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Caerdydd
Mirain Llwyd Roberts, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Gwynedd
Y Cynghorydd Louise Minett-Vokes, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
Y Cynghorydd Hayley Gwilliam, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Abertawe
Dereck Roberts, Confensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr
David McKinne, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
Lyn Cadwallader, Un Llais Cymru (Cynghorau Cymuned a Thref)
Tania Harrington, Stonewall Cymru
Peter Walters, Fforwm Pobl Hŷn Cymru
Sarah Capstick, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Dawn Jeffery, Cymorth i Ferched Cymru
Lisa Thomas, Llywodraeth Cymru
Rachel Lewis, Llywodraeth Cymru
Emma Harney, Llywodraeth Cymru
Richard Thomas, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Jill Salter, Busnes yn y Gymuned
Yr Athro John Williams, Academia, Prifysgol Aberystwyth
Rhiannon Ivens, Llywodraeth Cymru
Gethin Edwards, Llywodraeth Cymru

Croeso, cyflwyniadau, ymddiheuriadau, a chamau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod gan nodi ymddiheuriadau gan Jill Salter, Busnes yn y Gymuned, yr Athro John Williams, Academia a Chadeirydd Age Cymru, a Rhiannon Ivens, Llywodraeth Cymru.

Cyfeiriodd y Cadeirydd bawb at y Cod Ymddygiad a gafodd ei ail-gylchredeg gyda'r agenda, a gofynnodd i bawb nodi na fyddai pob aelod o MAFA yn cytuno ar bopeth. Dylai'r Aelodau allu anghytuno yn gwrtais.

Trafodaeth: Cynnig gan Gynghrair Pobl Hŷn Cymru ynghylch cynnal trafodaeth genedlaethol ar ragfarn ar sail oedran (papur 1)

Anerchodd y dirprwy weinidog gwasanaethau cymdeithasol y grŵp a nodwyd y pwyntiau canlynol:

  • mae Llywodraeth Cymru bob amser yn ymrwymedig i fynd i'r afael â rhagfarn ar sail oedran, a dyna fu ei hymrwymiad parhaus yn y gorffennol. Cydnabu'r dirprwy weinidog y cyfraniad enfawr y mae pobl hŷn yn ei wneud i gymdeithas, a chytunodd ei bod yn bwysig codi ymwybyddiaeth o'r math hwn o ragfarn a chynnal trafodaeth genedlaethol
  • mae'n bwysig i lywodraethau ymgysylltu â phobl ar lefel lawr gwlad a gweld y problemau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu
  • trafodwyd y defnydd cynyddol o dechnoleg ddigidol mewn meysydd parcio. Wrth godi hyn fel problem i rai pobl hŷn, yr ymateb y mae rhai unigolion yn ei gael yw "wel mae angen i bobl hŷn ddal i fyny." Mae hwn yn hen diwn gron negyddol nad yw'n dderbyniol
  • mae CPD Caerdydd yn ceisio helpu pob person hŷn i fyw bywyd mwy iach, egnïol ac integredig. Dylid darparu gwasanaethau mewn ffordd sy'n addas i'r unigolyn
  • hefyd trafodwyd gwahaniaethu mewn perthynas â gwaith. Weithiau mae cyflogwyr yn canolbwyntio'n ormodol ar sicrhau nad yw'r gweithle yn gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn, ond mewn llawer o achosion ni allwch berswadio ymgeiswyr hŷn i ymgeisio; dylai cyflogwyr edrych ar y broblem hon drwy lygaid y person hŷn yn ogystal â'r gweithle
  • mae cyfathrebu'n elfen allweddol yn y frwydr yn erbyn rhagfarn ar sail oedran. Mae'r arweinwyr oed-gyfeillgar yng Nghyngor Sir Abertawe yn cynnal rhai digwyddiadau i chwalu mythau, ac maent yn gweithio i feithrin cysylltiadau rhwng trigolion hŷn a phobl iau. Mae bod yn weladwy yn hollbwysig
  • mae rhagfarn ar sail oedran yn niweidiol i iechyd a llesiant yr unigolyn. Dyma'r un mater penodol sydd wedi bod yn gwbl amlwg o gyfnod Heléna Herklots fel comisiynydd
  • mae angen cynnal ymgyrch genedlaethol sy'n edrych ar bob lefel o ragfarn ar sail oedran; boed hynny ar lefelau personol neu yn y gymuned, neu lefelau strwythurol neu strategol. Nid yw'n hawdd herio'r rhagfarn hon gan ei bod yn rhagfarn ddiwylliannol nad yw bob amser yn ddiriaethol
  • mae gwahaniaethu ar sail oedran yn gallu cael canlyniadau pellgyrhaeddol, gan gynnwys ar fylchau mewn disgwyliad oes, iechyd, incwm, gwaith ac ati, a chytunwyd bod angen cael gweithgor i gynllunio ar gyfer cynnal ymgyrch, neu rywbeth tebyg, yn 2025. Cydnabuwyd y gallai cyfyngiadau ariannol o fewn Llywodraeth Cymru a sefydliadau fod yn rhwystr posibl a allai atal y gwaith hwn rhag mynd rhagddo

Cam gweithredu

  • swyddogion Llywodraeth Cymru i dynnu gweithgor ynghyd i edrych ar ragfarn ar sail oedran yn fanylach.

Cymunedau oed-gyfeillgar a trafodaeth: rôl cynghorau cymuned a thref yn y gwaith o greu Cymru oed-gyfeillgar: Lyn Cadwallader Un Llais Cymru

Anerchodd Lyn Cadwalader y grŵp MAFA a nodwyd y pwyntiau canlynol:

  • gall cynghorau cymuned a thref ategu'r gwaith oed-gyfeillgar ac maent yn allweddol i gynnwys cymunedau mewn modd mwy ymarferol ac egnïol. Gall cynghorau chwarae rôl lywio gymunedol, ac mae llawer ohonynt yn darparu mentrau cymorth cymunedol lefel isel
  • mae cynghorau cymuned a thref yn chwarae rhan fawr yn yr agenda oed-gyfeillgar, er enghraifft, mewn perthynas â mannau awyr agored, adeiladau, cymorth cymunedol a chyflogaeth. Rhoddwyd enghreifftiau o ganolfannau clyd a gwasanaethau sy'n rhoi cyngor ar les
  • mae awydd i sicrhau bod gwaith yn cyd-fynd yn well â'r agenda oed-gyfeillgar. Cynigiodd Lyn Cadwallader y dylid targedu cynghorau mwy o faint ar y dechrau, er mwyn gwneud ymarfer "braenaru" y gellir ei gyflwyno wedyn i greu rhwydwaith ehangach
  • mae 300 o gynghorau'n cyfarfod yn fisol drwy weminar, a byddai'n bosibl defnyddio dull tebyg ar gyfer y gwaith oed-gyfeillgar
  • mae adnoddau'n allweddol os yw Un Llais Cymru am gymryd mwy o ran yn yr agenda hon, a bydd angen ail berson yn Un Llais Cymru i symud y gwaith hwn yn ei flaen
  • cytunodd aelodau'r MAFA fod cydweithio ac ymgysylltu â chynghorau cymuned a thref yn bwysig
  • mae cynghorau cymuned a thref yn adnabod eu pobl leol yn llawer gwell weithiau na'r awdurdod lleol, ac yn deall eu demograffeg yn well. Mae hyn yn ymwneud â chreu cysylltiadau i sicrhau bod pob cymuned ledled Cymru yn gymuned gynhwysol
  • mae cynghorau cymuned a thref yn deall y darlun cymunedol cyffredinol, ac mae angen iddynt felly fod yn rhan o'r gwaith o gynllunio atebion lleol

Cytunwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn cymryd yr holl wybodaeth hon ac yn creu papur i'w gyflwyno i'r gweinidog.

Cam gweithredu

  • Llywodraeth Cymru i gyfarfod â Lyn Cadwaladr a Vicki Lloyd i ddrafftio papur gyda chynnig i gynnwys cynghorau cymuned a thref mewn modd mwy effeithiol.
  • sicrhau bod y mater hwn yn cael ei godi gyda'r gweithgor ar gyfer rhagfarn ar sail oedran fel y gall cynghorau cymuned a thref helpu i hyrwyddo'r negeseuon.
  • swyddogion i weithio gyda Vicki Lloyd a Lyn Cadwallader i ddrafftio cynnig i'w rannu gyda'r dirprwy weinidog.

Trafodaeth: cynhwysiant digidol a phobl hŷn (papur 2)

Arweiniodd swyddogion Llywodraeth Cymru, Emma Harney a Lisa Thomas , yr eitem hon ar yr agenda. Cyflwynodd Emma Harney y papur drwy ddweud bod y materion sy'n ymwneud ag allgau digidol ymysg pobl hŷn eisoes wedi eu cofnodi'n dda, ac felly y byddai'r drafodaeth hon yn gyfle i aelodau MAFA ystyried ffyrdd o fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn yn hytrach na'u hail-restru. Wrth feddwl am allgáu digidol, gallem ddechrau drwy ystyried dau grŵp gwahanol; pobl hŷn nad oes ganddynt y sgiliau digidol sylfaenol na'r mynediad at y rhyngrwyd, a phobl hŷn sy'n gallu gwneud dewis cytbwys ynghylch a ydynt am gymryd rhan yn y byd digidol ai peidio.

Cwestiwn: sut gallwn ni adnabod a chyrraedd y bobl hŷn hynny y maent yn awyddus/nad ydynt yn awyddus i ymgysylltu'n ddigidol, gan sicrhau bod y ddau grŵp yn gallu byw eu bywydau fel y maent yn dymuno?

Ychwanegodd Lisa Thomas mai ein nod yw cefnogi pobl i wneud dewis cytbwys, gan sicrhau bod gan y rhai sy'n penderfynu ymgysylltu'n ddigidol y sgiliau sydd eu hangen.

Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

  • mae rhagdybiaeth bod apiau a gwefannau ar-lein yn well, ond mae llawer sydd wedi eu cynllunio'n wael, ac mae hynny ynddo'i hun yn creu rhwystr i bobl hŷn wrth iddynt geisio defnyddio technolegau digidol
  • cadarnhawyd bod cylch gwaith gan y ganolfan gwasanaethau cyhoeddus digidol i fynd i'r afael â'r materion hyn, a bod ffurfiau dylunio a hygyrchedd sy'n gyfeillgar i ddefnyddwyr yn un o anghenion sylfaenol pawb. Fodd bynnag, nodwyd bod systemau'n aml yn cael eu cynllunio heb gadw'r defnyddiwr mewn cof. Mae cyflymder y newidiadau sy'n digwydd hefyd yn rhwystr. Mae'n bwysig adnabod unigolion nad oes ganddynt lais wrth fynd ati i ddylunio gwasanaethau digidol. Cytunwyd ei bod yn hanfodol defnyddio dull gweithredu'n seiliedig ar bartneriaeth ar draws pob asiantaeth a sector
  • yn ystod yr argyfwng costau byw presennol, ni all llawer o bobl hŷn fforddio mynd ar-lein, ac maent yn dod â'u contractau band eang a ffôn symudol drud i ben
  • mae diwydiannau megis bancio; cau siopau'r stryd fawr; a symud i blatfform ar-lein yn ei gwneud hi'n anoddach i bobl hŷn nad oes ganddynt fynediad at ddulliau digidol i fanteisio ar hawl sylfaenol fel cael gafael ar eu harian
  • mae awdurdodau lleol yn defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) mwy a mwy; mae trafnidiaeth gyhoeddus fel trenau yn amhosibl i'w defnyddio gan rai unigolion gan mai dim ond opsiwn electronig sydd ar waith i brynu tocynnau; ac mae ymddiriedolaeth dai leol wedi tynnu'r rhifau ffôn oddi ar ei faniau, sy'n gallu gwaethygu'r sefyllfa ynysu cymdeithasol. Mae siopau Tesco lleol yn gosod peiriannau coffi "dim arian parod" yn eu siopau. Beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar wybodaeth a phrynu pethau drwy ddulliau nad ydynt yn ddigidol?
  • mae angen gwneud rhywfaint o waith i godi ymwybyddiaeth, efallai drwy ymgyrch genedlaethol, i dynnu sylw at y manteision o fynd ar-lein. Mae angen i ni ofyn "beth yw'r sbardun sy'n perswadio pobl i fynd ar-lein"
  • mae angen i aelodau'r teulu fod yn barod i ddangos i'w perthnasau hŷn sut i gael gafael ar bethau ar-lein. Yna gellir adeiladu ar hyn trwy grwpiau i wneud gweithgarwch ar-lein; byddai hyn yn ddull lleol gwych sy'n defnyddio wyneb rhywun cyfarwydd i helpu pobl i ddysgu beth sydd angen iddynt ei wneud

Cyfeiriodd Emma Harney at y dasg i'w chymryd i ffwrdd o'r cyfarfod sy'n cael ei nodi ar ddiwedd y papur i gyd-fynd â'r drafodaeth hon, gan ychwanegu y byddai cyfarfod pwrpasol yn cael ei drefnu ymhen tua 6 wythnos ar gyfer unrhyw aelodau sy'n dymuno dal i fyny.

Rhoddodd Lisa Thomas gyflwyniad i'r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol (MDLS), gan ychwanegu bod LlC bellach yn edrych ar sut i addasu'r safon bresennol ar gyfer aelwydydd â phlant i aelwydydd eraill, megis pobl hŷn.

Cam gweithredu

  • aelodau MAFA i ystyried y cwestiynau o dan adran MDLS papur y cyfarfod
  • swyddogion Llywodraeth Cymru i drefnu cyfarfod i'w gynnal ymhen 6 wythnos i drafod yr eitem hon ymhellach

Adborth gan weithgor a chynlluniau'r dyfodol ar gyfer grŵp i lywio adroddiad blynyddol

Tynnodd Rachel Lewis sylw at rai o'r pwyntiau a drafodwyd yn y cyfarfod ar 27 Chwefror 2024 a oedd yn trafod adroddiad cynnydd 6 mis y Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio:

  • cytunwyd mai strwythur blaenorol prif adroddiad, naratif a dadansoddiad ystadegol, oedd y ffordd fwyaf priodol ymlaen
  • dylai MAFA ymwneud mwy â datblygu'r adroddiad
  • mae Gethin Edwards yn gweithio gyda'n tîm data yma yn LlC i gynhyrchu cyfres o ddangosyddion ar gyfer yr adroddiad ystadegol a fydd yn cael eu trafod gyda gweithgor
     

Cam gweithredu

  • swyddogion i ailddosbarthu nodyn o'r cyfarfod hwn, ochr yn ochr â'r nodyn o'r cyfarfod heddiw.

Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf

O dan unrhyw fater arall, aeth RL drwy'r rhestr o gamau gweithredu, a chytunwyd bod pob un ohonynt naill ai'n barhaus neu wedi ei gwblhau.

Cadarnhawyd mai dyddiad y cyfarfod nesaf fyddai 19 Mehefin 2024. Cyfarfod hybrid fydd hwn, a gynhelir yng Nghaerdydd.