Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Yr Athro John Williams, Academia, Prifysgol Aberystwyth
Barry Stephens, Cymru Egnïol
Vicki Lloyd, Age Cymru, Cadeirydd 
Steve Milsom. Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, (COPA)
Sarah Rossington-Harris, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Mirain Llwyd Roberts, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Gwynedd
Y Cyng. Hayley Gwilliam, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Abertawe
Dereck Roberts, Confensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr
Brian Godsell, Confensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr
Rachel Bowen, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
Tania Harrington, Stonewall Cymru
Sarah Capstick, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Dawn Jeffery, Cymorth i Ferched Cymru
Amal Beyrouty, Women Connect First
Rhiannon Ivens, Llywodraeth Cymru
Rachel Lewis, Llywodraeth Cymru
Emma Harney, Llywodraeth Cymru
Gethin Edwards, Llywodraeth Cymru
Nik Cilia, Llywodraeth Cymru
Sally Hewitt, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau ffurfiol

Jim McManus, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Croeso, cyflwyniadau, ymddiheuriadau, a chamau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynodd yr holl aelodau eu hunain fel y gallai'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol weld ehangder y profiad yn y fforwm.

Nodwyd yr ymddiheuriadau.

Dawn Bowden AS

Anerchodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol (y Gweinidog) y grŵp am y tro cyntaf a chyflwynodd yr eitem gyntaf i'w thrafod, yn canolbwyntio ar waith MAFA i fynd i'r afael â rhagfarn ar sail oedran a hyrwyddo hawliau pobl hŷn. Nodwyd y pwyntiau a ganlyn:

  • cafwyd trafodaeth ynglŷn â chynnig i greu trafodaeth genedlaethol ar ragfarn ar sail oedran a gafodd ei anfon at y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd ym mis Ionawr. Teimlir bod gennym gymdeithas sy'n "gwrthod" pobl hŷn. Mae meysydd fel cynhwysiant digidol yn broblemau sylweddol iawn. Mae gwahaniaethu yn digwydd yn erbyn rhai pobl hŷn gyda'r symudiad cynyddol tuag at gymdeithas nad yw'n defnyddio arian parod. Nid pawb sydd eisiau bod yn ddigidol na'n gallu fforddio bod yn ddigidol hyd yn oed
  • roedd awgrym y dylai Llywodraeth Cymru (LlC) a'r Comisiynydd Pobl Hŷn weithredu fel Lloegr drwy gael ymgyrch "Heneiddio Heb Gyfyngiadau". Mae Cynghrair Pobl Hŷn Cymru (COPA) eisoes wedi cyflwyno rhai syniadau i swyddogion yn LlC eu hystyried
  • mae'r gweinidog yn croesawu trafodaeth bellach i weld sut y gallwn fynd i'r afael â rhagfarn ar sail oedran, gan nodi ei bod yn broblem enfawr
  • nododd aelodau o Gonfensiwn Cenedlaethol Pensiynwyr Cymru enghreifftiau o ragfarn ar sail oedran a brofwyd gan aelodau
  • mae awdurdod lleol Abertawe yn ystyried cynnal eu hymgyrch eu hunain ar ragfarn ar sail oedran. Maen nhw'n hoffi'r syniad o ymgyrch sy'n dangos pobl hŷn yn gwisgo hwdi mewn mannau penodol a dechrau sgwrs gyda phobl iau gan ofyn, "Beth ydych chi'n ei feddwl pan welwch y ddelwedd hon?"
  • cytunodd yr Aelodau y gall ymgyrch fod yn effeithiol iawn. Cyfeiriwyd at ymgyrch "Amser i Newid Cymru" a'r gwelliannau mewn iechyd meddwl yn dilyn ei gyhoeddi
  • nid yw cynlluniau LlC fel Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn cyfeirio rhyw lawer at bobl hŷn, os o gwbl. Mae problemau pobl hŷn yn aml yn cael eu gwthio i'r cyrion. Sut mae rhagfarn ar sail oedran yn rhyngweithio â mathau eraill o wahaniaethu ar sail nodweddion fel hil/ anabledd/ LHDTC+?
  • roedd cydnabyddiaeth o'r heriau a'r rhagfarn ychwanegol sy'n wynebu pobl hŷn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, er enghraifft cael mynediad at feddygon teulu a gwasanaethau iechyd meddwl
  • cytunwyd bod y cyfryngau'n peri niwed a'i bod yn ymddangos eu bod yn gosod un genhedlaeth yn erbyn un arall yn rheolaidd. Fodd bynnag, mae cynifer o broblemau sy'n effeithio ar bob unigolyn, fel tlodi. Gellir ei weld fel jôc pan fydd pobl yn heneiddio, er enghraifft cardiau cyfarch mewn siopau. Mae angen addysgu'r cyhoedd. Mae'r portread yn y cyfryngau yn erydu dealltwriaeth o'r hyn y mae heneiddio yn ei olygu
  • ymatebodd y Gweinidog i'r drafodaeth, gan gadarnhau ei bod yn ceisio mynd i'r afael â phroblemau yn y Llywodraeth ynglŷn â rhagfarn ar sail oedran mewn sawl ffordd. Mae'r Gweinidog hefyd yn clywed am y materion hyn yn ei hetholaeth a chyfeiriodd hefyd at faniffesto Plaid Lafur y DU a chyflwyno canolfannau bancio, gan gytuno y dylai unigolion gael dewis. Cytunodd y Gweinidog hefyd nad yw rhai o gynlluniau Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfeiriadau at bobl hŷn. Ni ddylem eithrio pobl ar sail eu hoedran, yn yr un modd nad ydym yn gwneud hynny ar sail hil ac ati
  • mae Cynghorau Cymuned a Thref yn gefnogol iawn i'r gwaith hwn ac maent yn awyddus iawn i ddatblygu'r agenda hon

Cylch gorchwyl a cwmpas gweithgor Hawliau Pobl Hŷn newydd

Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

  • cyfeiriwyd at gyllid: mae angen i aelodau fod yn ymwybodol efallai na fydd gan Lywodraeth Cymru gyllid ar gyfer ymgyrch bwrpasol ar hyn o bryd
  • cytunwyd y dylai'r gweithgor gael mwy o bobl hŷn yn aelodau a hefyd rhai o wahanol gefndiroedd and sefydliadau. Mae angen dylanwadau allanol ar y grŵp ac felly awgrymwyd cynnal rhywfaint o waith ymgysylltu gyda grŵp llai yn gwneud y gwaith go iawn. Awgrymwyd y dylid defnyddio gwaith ymchwil ac arolygon yn y broses
  • dywedodd aelodau MAFA y byddai ganddynt ddiddordeb mewn clywed am y profiadau yn Lloegr parthed eu hymgyrch ar ragfarn ar sail oedran
  • cytunwyd bod angen amserlen a cherrig milltir penodol ar gyfer y gweithgor ac awgrymwyd y dylai'r grŵp edrych ar ble mae'r gwahaniaethu yn digwydd mewn gwirionedd
  • cytunwyd y bydd y grŵp yn dechrau ym mis Medi gyda'r nod cychwynnol o gyfarfod bob mis. Dylid treialu hyn tan y Nadolig i adeiladu rhywfaint o fomentwm

Cam gweithredu

  • swyddogion Llywodraeth Cymru i drefnu cyfarfodydd misol o'r gweithgor Hawliau Pobl Hŷn newydd o fis Medi hyd at y Nadolig
  • selodau MAFA i enwebu eu hunain i ymuno â'r gweithgor

Diweddariad ar ddatblygiad y Strategaeth Iechyd Meddwl

Ymunodd Sally Hewitt â'r cyfarfod a chadarnhaodd y pwyntiau allweddol canlynol:

  • daeth yr ymgynghoriad ar y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol drafft i ben ar 11 Mehefin. Cafwyd dros 300 o ymatebion i hwn ac i'r Strategaeth Atal Hunanladdiad a Hunan-Niweidio.
  • mae natur pob oed y strategaeth yn sicrhau bod system ar gael sy'n cefnogi pawb a bod gwell cysylltiad rhwng gwahanol wasanaethau
  • o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, mae'n amlwg bod angen i'r grŵp oedran hŷn fod yn fwy gweladwy, a chadarnhaodd SH ei bod yn hapus i dderbyn sylwadau gan y grŵp
  • mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid mewn perthynas â rhai o'r canfyddiadau a ddeilliodd o'r ymatebion. Dylai'r adroddiad ymgynghori gael ei gyhoeddi ym mis Hydref a bydd yn cadarnhau amserlen ar gyfer y cynllun terfynol
  • fel y trafodwyd mewn eitem agenda flaenorol, tynnwyd sylw at y ffaith nad oedd llawer o ffocws ar bobl hŷn yn y cynllun hwn. Mae tua 80,000 o bobl hŷn yn profi problemau iechyd meddwl felly mae angen i wasanaethau ddelio'n well â'r diffyg sylw hwn
  • cytunwyd gan aelodau MAFA fod y "lle iawn" yn gwbl hanfodol o ran gwasanaethau iechyd meddwl. Cyfeiriwyd at natur wledig Cymru, lle gall "lle" fod yn rhy bell oddi wrth wasanaethau
  • cadarnhaodd SH fod y Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia 2018 blaenorol yn cael ei werthuso'n allanol. Bydd yr adroddiad interim yn cael ei rannu gyda'r Ysgrifenyddiaeth i'w anfon at y grŵp. Mae swyddogion yn ystyried ehangu gwaith ymgysylltu mewn perthynas â'r cynllun newydd. Wrth i'r gwaith ddatblygu, efallai y bydd rhai aelodau MAFA yn dymuno cymryd rhan weithredol yn y grŵp. Os felly, gall aelodau gadarnhau hynny gyda'r Ysgrifenyddiaeth

Cam gweithredu

  • Sally Hewitt i rannu'r adroddiad gwerthuso interim ar gyfer Cynllun Gweithredu Dementia 2018, a'r Ysgrifenyddiaeth i'w ddosbarthu i aelodau MAFA
  • aelodau'r MAFA i gadarnhau a hoffent gymryd mwy o ran yn y gwaith ymgysylltu ar y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol newydd

Cynllun Cyflawni'r Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio: diweddariad gan y gweithgor

Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

  • cyfeiriwyd at gyfarfod is-grŵp MAFA a gynhaliwyd ar 6 Mehefin a oedd yn canolbwyntio ar ddiweddariad y cynllun cyflawni. Rhoddwyd cadarnhad y bydd nodyn y cyfarfod hwnnw'n cael ei ddosbarthu ar yr un pryd â nodyn y cyfarfod hwn
  • cadarnhaodd Rachel Lewis y bydd yr adroddiad naratif a fydd yn cyd-fynd â diweddariad y cynllun yn canolbwyntio ar y materion canlynol: Oed-gyfeillgar, Cynhwysiant Digidol, Gofalwyr Di-dâl, Costau Byw a Mynediad at Feddygon Teulu
  • tynnodd y cyfarfod ar 6 Mehefin 2024 sylw at fannau lle nad yw gweithio trawslywodraethol yn gweithio cystal a bydd swyddogion yn ymchwilio i hyn ymhellach
  • gofynnodd y Cadeirydd am gael nodi cam gweithredu penodol, sef y byddai llythyr ffurfiol yn cael ei anfon gan grŵp MAFA i'r Gweinidog i dynnu sylw at y meysydd sy'n peri pryder, gan awgrymu hefyd y dylid tynnu sylw at y gwaith sy'n digwydd mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned. Ategodd Rachel Lewis y dull hwn o weithredu a dywedodd mai nawr yw'r amser cywir i dynnu sylw'r Gweinidog at y materion allweddol
  • cydnabuwyd bod angen dod â rhai o Weinidogion eraill LlC i mewn i'r sgwrs gan fod rhai o'r materion yn perthyn i rannau eraill o bortffolio LlC
  • y gobaith yw y bydd swyddogion mewn sefyllfa i gyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf erbyn diwedd Tymor y Senedd ym mis Gorffennaf

Cam gweithredu

  • nodyn o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 6 Mehefin 2024 i'w ddosbarthu ynghyd â nodyn y cyfarfod hwn
  • y cadeirydd i ysgrifennu llythyr ar ran MAFA at y Gweinidog i dynnu sylw at feysydd sy'n peri pryder

Cofnodion a chamau gweithredu'r cyfarfod blaenorol

Cytunwyd fod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gywir. Nododd y Cadeirydd y cofnod camau gweithredu o'r cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2024 a chadarnhaodd fod pob cam heblaw un wedi'i gwblhau. Roedd y camau yn ymwneud â Chynghorau Tref a Chymuned yn parhau ar hyn o bryd.

Unrhyw fater arall

Nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

  • cododd Rachel Lewis bryderon bod y rhaniad rhywedd yn anghytbwys o fewn y grŵp MAFA. Nid yw swyddogion yn ceisio newid aelodau'r grŵp, ond hoffent wahodd mwy o fenywod a fydd yn rhoi cynrychiolaeth lawnach, mwy o amrywiaeth a phersbectif gwahanol i MAFA
  • cytunodd y cadeirydd i agor y cynnig hwn i grwpiau ymgynghorol Age Cymru a grwpiau a fforymau eraill
  • cadarnhawyd bod grŵp rhagweithiol iawn yn Abertawe ac yn sicr byddai menywod a fyddai eisiau bod yn rhan o MAFA. Gofynnodd Rachel Lewis i aelodau MAFA gyflwyno manylion menywod a fyddai'n fodlon ymuno, ynghyd â bywgraffiad byr
  • ar hyn o bryd mae COPA yn recriwtio ymddiriedolwyr newydd ond efallai y byddant yn gallu cyflwyno rhai enwau ym mis Tachwedd
  • roedd awgrym i gynnwys Merched y Wawr

Cam gweithredu

  • cadeirydd i siarad â grwpiau ymgynghorol Age Cymru ynglŷn â chynyddu nifer yr aelodau benywaidd ar MAFA.