Cofnodion cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio: 18 Medi 2024
Cofnodion cyfarfod Fforwm Cynghori’r Gweinidog ar Heneiddio 18 Medi 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Yr Athro John Williams, Academia, Prifysgol Aberystwyth
Vicki Lloyd, Age Cymru, Cadeirydd
Steve Milsom, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, (COPA)
Andrew Hinchliffe, Cynghrair Pobl Hŷn Cymru, (COPA)
Sarah Rossington-Harris, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Y Cyng. Leo Thomson, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Caerdydd
Y Cyng. Hayley Gwilliam, Rhwydwaith Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol, Cyngor Abertawe
Brian Godsell, Confensiwn Cenedlaethol y Pensiynwyr
Rachel Bowen, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
Lyn Cadwallader, Un Llais Cymru (Cynghorau Cymuned a Thref)
Peter Walters, Fforwm Pobl Hŷn Cymru
Stewart Blythe, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
Dawn Jeffery, Cymorth i Ferched Cymru
Rachel Lewis, Llywodraeth Cymru
Gethin Edwards, Llywodraeth Cymru
Emma Harney, Llywodraeth Cymru
Nik Cilia, Llywodraeth Cymru
Jemma Morgan, Llywodraeth Cymru
Dr Catherine Malcolmson, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau ffurfiol
Jim McManus, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dawn Bowden AS: Trafodaeth ar Beth sy'n bwysig i chi? Age Cymru Arolwg Blynyddol
Oherwydd problemau technegol ar y dechrau, roedd amser y Gweinidog yn gyfyngedig.
Cyfeiriodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol at gasgliadau'r arolwg, gan gydnabod bod angen gwneud rhagor o waith er bod yna feysydd sydd wedi gwella.
Cafwyd trafodaeth, gan nodi pwyntiau allweddol:
- y themâu allweddol sy'n deillio o'r arolwg yw trafnidiaeth, mynediad at wasanaethau, allgau digidol, iechyd, tai, costau byw a mynediad at feddygon teulu
- rhaid inni fod yn ymwybodol o'r hawl i ddewis peidio ag ymgysylltu'n ddigidol, gellir ystyried bod rhagfarn yn erbyn pobl hŷn yn digwydd pan fyddant yn cael eu hallgáu'n digidol
- pwysleisiwyd pwysigrwydd yr arolwg; drwy wneud y gwaith hwn yn ystod y 5 mlynedd diwethaf gyda swm cymharol fach o arian, gellir nawr ddefnyddio gwaith Age Cymru i ddadansoddi tueddiadau
- mynegodd aelodau siom bod Llywodraeth y DU wedi newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Taliad Tanwydd Gaeaf, a bellach dim ond pobl sy'n derbyn Credyd Pensiwn fydd yn gallu cael y taliad hwnnw
- Cyfeiriodd y Gweinidog at Fil Bysiau Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd i ail-reoleiddio gwasanaethau bws i sicrhau eu bod yn gweithredu fel gwasanaeth cyhoeddus yn hytrach nag er elw
- y chwanegodd y Gweinidog fod gan bob awdurdod lleol ran i'w chwarae wrth fynd i'r afael ag allgau digidol, a bod rhai yn well na'i gilydd o ran hynny. Nid yw'r ateb i bopeth yn ateb digidol ac mae angen dewisiadau eraill
- o ran mynediad at feddygon teulu, cyfeiriodd y Gweinidog at y buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau teleffoni, gan ddweud nad yw rhai meddygon teulu wedi manteisio ar y cyllid
- mae Arolwg Age Cymru yn nodi bylchau mewn gwasanaethau, a dyma'r math o ymchwil sy'n helpu i lywio polisïau a chamau gweithredu
Mynediad at Feddygon Teulu
Anerchodd Dr Catherine Malcolmson y grŵp, a nodwyd y pwyntiau allweddol canlynol:
- Cyflwynwyd Safonau Mynediad newydd yn 2019 a oedd â'r nod o sicrhau cysondeb mewn meddygfeydd ar draws Cymru
- yn 2022 cafodd ail gam ei gyflwyno, yr Ymrwymiad Mynediad, oedd â'r nod o fynd i'r afael â materion fel y tagfeydd cysylltu 8am
- cafodd buddsoddiad o £12 miliwn ei wneud dros dair blynedd, o fis Ebrill 2022, i helpu meddygfeydd i adeiladu eu capasiti drwy gael staff ychwanegol i gefnogi gwelliannau i fynediad
- yn 2023 cyflwynwyd contract newydd a oedd â'r nod o wneud llawer o'r disgwyliadau mynediad yn ofyniad cytundebol, er enghraifft, y gofyniad i weithredu system deleffoni addas a system trin galwadau effeithlon
- mae 97% o feddygfeydd wedi dweud wrth swyddogion eu bod yn cyflawni'r ymrwymiad mynediad, ond nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu mewn adborth ar brofiadau cleifion. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystyried darn o waith i edrych ar hyn er mwyn deall anghenion mynediad yn well
- wrth symud ymlaen, bydd adolygiad o'r safonau mynediad sy'n cynnwys deall anghenion mynediad gwahanol grwpiau megis pobl hŷn (roedd adroddiad blaenorol y Comisiynydd Pobl Hŷn ar fynediad at feddygon teulu yn fan cychwyn da). Mae data ar alw a chapasiti (pwy sy'n cael eu gweld gan feddygon teulu, a pham), yn ein helpu i wella sut mae gwasanaethau’n cael eu cynllunio
- cadarnhaodd Dr Catherine Malcolmson fod disgwyl i feddygon teulu gyfleu'r wybodaeth hon i gleifion. Os yw pobl yn cael problemau, dylid siarad yn gyntaf â Rheolwr Practis y Meddyg Teulu. Os bydd hynny'n methu, dylid cysylltu â'r bwrdd iechyd gan mai nhw sy'n gyfrifol am reoli'r contractau unigol
- cydnabuwyd bod y "system" y mae meddygon teulu yn ei defnyddio i drefnu apwyntiadau ac ati tua 70 mlwydd oed, ac nid dyna sut y byddem yn dylunio systemau heddiw. Mae swyddogion yn ymwybodol iawn bod meddygon teulu yn ceisio gweithio gyda'r hyn sydd ganddyn nhw.
- roedd awgrym y dylai pobl ymweld â'r meddyg teulu ar sail y cyntaf i'r felin. Byddai hynny'n golygu y byddai pobl yn mynd pe baent ag angen gwirioneddol i wneud hynny.
- dywedodd Dr Catherine Malcolmson y byddai'n ddefnyddiol gwybod enwau meddygfeydd nad oeddent yn bodloni'r gofynion. Gofynnodd VL i CM a fyddai Age Cymru yn gallu bwydo eu gwybodaeth o'r arolwg yn uniongyrchol i'r tîm. Dywedodd Dr Catherine Malcolmson y byddai'n croesawu hynny. Os yw aelodau am rannu unrhyw wybodaeth am arferion penodol, gallant ei hanfon yn uniongyrchol i Catherine.Malcolmson@gov.wales
- bydd copi o'r sleidiau yn cael eu dosbarthu gyda'r nodyn o'r cyfarfod
Cam gweithredu
- ysgrifenyddiaeth i rannu copi o sleidiau'r cyflwyniad wrth anfon y nodyn o'r cyfarfod
- Vicki Lloyd i anfon manylion gwybodaeth o arolwg Age Cymru yn uniongyrchol at Dr Catherine Malcolmson
Adolygiad o wasanaethau 'drws ffrynt' awdurdodau lleol
Siaradodd Jemma Morgan â'r grŵp am y gwaith o adolygu gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA). Nodwyd y pwyntiau a ganlyn:
- mae'r adolygiad yn edrych ar wasanaethau IAA a pha mor hygyrch ydynt; sut y gall pobl gael mynediad atynt; a sut y gellir eu cryfhau. Rhoddir sylw arbennig i brofiadau pobl hŷn, gofalwyr di-dâl, ac unigolion niwrowahanol
- bydd gwaith hwn yn digwydd yn ystod y misoedd nesaf, ac mae'n flaenoriaeth bolisi allweddol i Lywodraeth Cymru (LlC)
- mae'r adolygiad yn adolygiad cyffyrddiad ysgafn ar hyn o bryd, cyn i gyngor gael ei roi i'r Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, ond bydd hwn yn ddarn o waith a fydd yn tyfu os daw themâu neu faterion penodol i'r amlwg
- cadarnhawyd y bydd darparwyr hefyd yn rhan o'r adolygiad, yn ogystal â'r unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaethau. Mae cyfarfodydd gyda'r 22 o awdurdodau lleol hefyd yn cael eu trefnu
- cydnabyddir y dylai IAA fod yn un o gonglfeini'r gweithgarwch atal er mwyn cefnogi pobl cyn i'w hanghenion waethygu
- mynegwyd pryder am gywirdeb y cyngor a ddarparwyd ar faterion penodol, megis talu am ofal. Mae llinell gynghori Age Cymru yn clywed yn rheolaidd gan bobl sydd wedi eu drysu gan yr wybodaeth y maen nhw wedi ei chael oddi wrth awdurdodau lleol. Awgrymodd Age Cymru y dylai fod cysylltiad rhwng Jemma Morgan a'r tîm cynghori a Rachel Bowen o linell gyngor y Comisiynydd Pobl Hŷn
Cam gweithredu
- cysylltiad rhwng Jemma Morgan a'r timau cynghori yn Age Cymru a swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
- mae Jemma Morgan hefyd yn cynnal adolygiad sy'n cyd-ddigwydd, o'r strategaeth Unigrwydd ac Ynysigrwydd i weld i ba raddau y mae'r ymrwymiadau a wnaed wedi eu hymgorffori mewn gwasanaethau
- mae'r ddau adolygiad i'w cwblhau erbyn mis Rhagfyr (Unigrwydd ac Ynysigrwydd) a gwanwyn y flwyddyn nesaf
Cofnodion a chamau gweithredu'r cyfarfod blaenorol
Mae’r camau gweithredu o'r cyfarfod diwethaf 19 Mehefin 2024) wedi eu cwblhau gan mwyaf. Mae'r cam gweithredu canlynol heb ei gwblhau:
- aelodau'r MAFA i gadarnhau a hoffent gymryd mwy o ran yn y gwaith ymgysylltu ar y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant newydd
Dywedodd y Cynghorydd Hayley Gwilliam y byddai'n hoffi cymryd rhan. Rhoddwyd dyddiad cau ar gyfer diwedd y mis hwn (Medi) i aelodau eraill gadarnhau eu dymuniad.
Trafod ymateb y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i lythyr MAFA
Cafwyd trafodaeth ynghylch ymateb y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol i'r llythyr oddi wrth MAFA, a nodwyd y pwyntiau canlynol:
- mae COPA wedi anfon llythyr ynghylch Cymunedau Oed-gyfeillgar at y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, gan gydnabod bod rhywfaint o waith rhagorol yn digwydd mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol ond nid eraill. Awgrymwyd y gallai fod mwy o gydweithio rhwng MAFA a Rhwydwaith Arweinwyr Awdurdodau Lleol. Cytunodd RL y byddai'n ystyried hyn ymhellach
- gofynnwyd a oes ffordd arall o fynd i'r afael â materion yn ymwneud â thoiledau cyhoeddus. Awgrymodd EH y posibilrwydd o gysylltu'r Arweinwyr Oed-gyfeillgar, Arweinwyr Toiledau Lleol, a CLlLC â'i gilydd. Efallai bod angen gwthio hyn yn ôl i lefel awdurdodau lleol, gan mai ar y lefel honno y datblygir y strategaethau toiledau lleol, yn seiliedig ar eu hasesiadau anghenion poblogaeth. Gwnaed awgrym y dylai Iechyd Cyhoeddus Cymru a CLlLC wneud cyflwyniad mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunwyd y byddai EH a VL yn cyfarfod i drafod ymhellach
- codwyd y cynnig i weithio'n agosach gyda chynghorau tref a chymuned. Dywedodd LC fod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cysylltu â nhw fel llwybr posib i gysylltu'r agenda sy'n gyfeillgar i ddementia â'r agenda sy'n ystyriol o oedran. Cytunodd LC i lunio papur ynghylch sut y gallai hyn weithio'n ymarferol
Cam gweithredu
- Rachel Lewis i ystyried mwy o gydweithio rhwng MAFA ac Arweinwyr Oed-gyfeillgar yr Awdurdod Lleol.
- Emma Harney a Vicki Lloyd i gyfarfod i drafod ffordd bosibl ymlaen ar gyfer materion yn ymwneud â thoiledau cyhoeddus
- Lyn Cadwallader i lunio papur i awgrymu sut y gallai Un Llais Cymru gysylltu'r agendâu sy'n ystyriol o oedran a dementia â’i gilydd o fewn y sefydliad
Unrhyw fater arall
O ran cael mwy o gynrychiolaeth gan fenywod hŷn ar MAFA, cadarnhawyd bod swyddogion wedi derbyn enwebiadau gan 3 unigolyn. Anfonwyd y manylion o amgylch y grŵp a chytunwyd bod pawb yn hapus i RL gadarnhau aelodaeth.
