Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) wedi cwblhau ei ymchwiliad i ddiffyg cydymffurfiaeth hanesyddol Cyfoeth Naturiol Cymru â rheolau gweithio oddi ar y gyflogres (a elwir yn gyffredin yn IR35), gan arwain at setliad terfynol o £14.6m. Cyhoeddais Ddatganiadau Ysgrifenedig i'r Aelodau er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y mater hwn ym mis Hydref 2024 a mis Chwefror 2025

Fel rhan o'r setliad, gosododd CThEF gosb o £2.9m. Mae'r gosb hon wedi'i hatal am 12 mis, yn amodol ar Gyfoeth Naturiol Cymru yn bodloni amodau cydymffurfio penodol yn ystod  y cyfnod hwnnw. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi adolygu ei brosesau i sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio. 

Er mwyn cefnogi Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod yr ymchwiliad, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid interim i alluogi Taliad ar Gyfrif i CThEF yn 2024. Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar drefniadau lleihau'r gyllideb gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i adennill y cyllid hwn.

Mae'r trefniadau hyn wedi'u datblygu'n ofalus i sicrhau eu bod yn fforddiadwy ac yn lleihau unrhyw effaith ar allu Cyfoeth Naturiol Cymru i gyflawni ei swyddogaethau craidd a'i gyfrifoldebau statudol.