Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan MS, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Roeddwn yn falch o gyhoeddi yr wythnos diwethaf yn Neuadd y Dref Maesteg bod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi hyd at £1 miliwn mewn rhaglen gyffrous o weithgareddau ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2026.

Agorodd y Gronfa Gymorth Peilot Dydd Gŵyl Dewi ar gyfer ceisiadau ar 14 Hydref. Mae’r gronfa hon wedi’i chynllunio i gefnogi gweithgareddau sy’n dod â chymunedau ynghyd ledled Cymru i ddathlu ein treftadaeth, diwylliant a gwerthoedd.

Rydym yn gwahodd ceisiadau sy’n ceisio hyrwyddo diwylliant a threftadaeth Gymreig draddodiadol a chyfoes, ymgysylltu â phob cymuned ledled Cymru, cefnogi creadigrwydd a busnesau Cymreig, ac ehangu gwelededd a chynulleidfa dathliadau Dydd Gŵyl Dewi ar raddfa genedlaethol.

Bydd sefydliadau’n gallu gwneud cais am dri lefel o gyllid, o grwpiau cymunedol bach i sefydliadau cenedlaethol mawr. Gall grwpiau lleol wneud cais am grantiau o £1,000 i £5,000 i gyflwyno digwyddiadau lleol neu gymdogaeth. Bydd hyd at £20,000 ar gael i sefydliadau sy’n gallu cyflwyno prosiectau neu ddigwyddiadau gyda dylanwad rhanbarthol neu aml-gymunedol, a hyd at £40,000 i sefydliadau ledled Cymru i gyflwyno gweithgareddau cenedlaethol.

Rydym yn annog amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n hyrwyddo diwylliant Cymreig traddodiadol a chyfoes megis cerddoriaeth, celf, llenyddiaeth, chwaraeon, bwyd a’r Gymraeg – gall hyn gynnwys gorymdeithiau, perfformiadau cerddorol, gweithdai cymunedol, dawnsio gwerin Cymreig traddodiadol (twmpathau) neu ddigwyddiadau bwyd.

Bydd y gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau tan 12pm ddydd Gwener 14 Tachwedd 2025. Gall sefydliadau gael mynediad at y nodiadau canllaw a’r ffurflen gais yma: Dydd Gŵyl Dewi 2026: Cronfa gymorth beilot