Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar y Rheolau drafft Etholiadau Lleol (Cymru) (Diwygio) 2026, a'r Gorchymyn drafft Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026.

Mae'r cyntaf o'r offerynnau statudol drafft (a ddaw i rym ar gyfer yr etholiadau lleol yn 2027) yn cynnig gwelliannau i'r rheolau sy'n llywodraethu cynnal etholiadau lleol yng Nghymru. Nid ydym yn cynnig gwneud newidiadau sylweddol i'r rheolau hynny ar wahân i rai newidiadau, sy'n dechnegol yn bennaf, neu'r rhai sy'n ofynnol i ystyried newidiadau i bolisi a deddfwriaeth arall.

Mae’r prif newidiadau a gynigir yn ymwneud â diweddaru’r rheolau i sicrhau eu bod yn ddwyieithog, a’u bod hefyd yn adlewyrchu’r newidiadau diweddar a wnaed i reolau etholiadau i’r Senedd sydd wedi’u cynnwys yng Ngorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025.  Rydym yn ymgynghori ar offeryn statudol drafft.

O ran etholiadau i’r Senedd, gwnaethom newidiadau i sicrhau y gellir mynd i dreuliau rhesymol i ddarparu ar gyfer diogelwch personol ymgeiswyr a diogelwch eu heiddo, heb i’r treuliau hynny gael eu trin fel gwariant ymgyrchu. Mae angen darn o ddeddfwriaeth ar wahân i ddod â gwariant ymgyrchu mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn gydnaws â’r newidiadau diweddar hyn. Mae Gorchymyn drafft Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (Eithrio Treuliau Diogelwch) (Diwygio) (Cymru) 2026 yn gwneud y newid hwnnw, ac mae hefyd yn rhan o’r ymgynghoriad hwn. 

Bydd y diwygiad yn sicrhau na fydd ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol, yn rhan o’u treuliau etholiadol, yn gorfod cyfrif am dreuliau rhesymol yr eir iddynt wrth ddarparu ar gyfer eu diogelwch personol a diogelwch eu heiddo.

Gyda’i gilydd, bydd y newidiadau hyn yn sicrhau bod etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru mor gyfredol â phosibl ac yn adlewyrchu’r newidiadau diweddaraf a wnaed ar gyfer etholiadau i’r Senedd. Rwy’n annog adborth ar ein cynigion drwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad: Newidiadau i reolau etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru | LLYW.CYMRU