Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Yn ddiweddar, cyflwynodd y pedwar Cydbwyllgor Corfforedig sy'n cynrychioli Gogledd Cymru, Canolbarth Cymru, De-ddwyrain Cymru a De-orllewin Cymru eu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol i Lywodraeth Cymru.
Mae Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi polisïau ar gyfer gweithredu Llwybr Newydd (y Strategaeth Drafnidiaeth ar gyfer Cymru) ym mhob rhanbarth o Gymru gan awdurdodau trafnidiaeth lleol, a pholisïau ar gyfer hyrwyddo ac annog trafnidiaeth ddiogel, integredig, effeithlon ac economaidd i'r ardal, o'r ardal ac o fewn yr ardal. Rwyf wedi asesu'r cynlluniau ac yn cytuno eu bod yn bodloni'r gofyniad i fod yn gyson â Llwybr Newydd, a bod y polisïau ynddyn nhw yn ddigonol i'w gweithredu yn ardaloedd y Cydbwyllgorau. Mae pob cynllun yn cynnwys amrediad o bolisïau sy'n addas i ddarparu system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon ym mhob rhanbarth, yn unol â'r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy. Mae'r cynlluniau wedi cael eu datblygu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac mae Asesiad Llesiant Integredig ar gyfer pob un.
Mae pob un o'r pedwar cynllun bellach wedi cael ei gymeradwyo a byddan nhw'n dod i rym o'r diwrnod cymeradwyo.
Bydd Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cyflwyno dull mwy strategol o wella trafnidiaeth ym mhob rhanbarth o Gymru, sy'n cyd-fynd yn well â chynlluniau ar gyfer defnyddio tir. Byddan nhw hefyd yn rhoi llais cryfach i arweinwyr lleol mewn perthynas â phenderfyniadau am gyllid trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Mae hwn yn gam mawr ymlaen tuag at ragor o gydweithredu ar draws ein rhanbarthau. Er mwyn cefnogi gweithredu'r cynlluniau, rydyn ni'n moderneiddio ein grantiau trafnidiaeth i Awdurdodau Lleol ac, o fis Ebrill 2026, byddwn yn cyfuno sawl ffrwd ariannu yn un Gronfa Drafnidiaeth Ranbarthol i helpu i gyflawni'r cynlluniau.
Bydd Awdurdodau Lleol nawr yn gallu dod at ei gilydd i wneud argymhellion symlach ynghylch sut mae'r cyllid hwn yn cael ei wario yn y dyfodol, yn seiliedig ar y cynllun cyflawni y cytunwyd arno ar gyfer pob rhanbarth. Bydd hyn yn sicrhau bod y buddsoddiadau a wnawn mewn trafnidiaeth yn cael eu haddasu i anghenion pob rhanbarth ac yn cael eu llywio gan y rhai sy'n adnabod y rhanbarth orau. Bydd hefyd yn ein galluogi i leihau'r beichiau gweinyddol y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu wrth gael mynediad at gyllid.
Rwy'n gwybod bod yr Awdurdodau Lleol eisoes yn gweithio gyda'i gilydd i fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni'r cynlluniau hyn, mewn ymgynghoriad â'r Cydbwyllgorau, ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio mewn partneriaeth â'r holl bartïon
