Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae’r ystadegau hyn yn ymwneud â’r gwasanaeth tân ac achub rhwng mis Ebrill 2024 a diwedd mis Mawrth 2025.

Adroddiad blynyddol yn cyflwyno gwybodaeth am danau a fynychwyd, anafiadau o ganlyniad i danau, galwadau ffug, digwyddiadau gwasanaethau arbennig a thanau mewn anheddau o fewn rheolaeth.

Yn 2007, cyflwynwyd Fframwaith Rheoli Perfformiad Llywodraeth Cymru ar gyfer mesur perfformiad Awdurdodau Tân ac Achub. Mae'r data, gan gynnwys ar lefel y Gwasanaethau Tân ac Achub, yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru yn nhabl dangosyddion perfformiad y gwasanaethau tân (StatsCymru).

Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn cyhoeddi eu data perfformiad ar eu gwefannau eu hunain, sydd ar gael yn y dolenni isod:

Mae rhagor o wybodaeth am gasglu data ac ansawdd ar gael yn ein hadroddiad ansawdd ar ystadegau tân.

Mae'r dangosyddion perfformiad wedi'u grwpio o dan ddwy thema: 'lleihau risg a diogelwch cymunedol' ac 'ymateb effeithiol'.

Lleihau risg a diogelwch cymunedol

Dangosydd cyntaf FRS/RRC/S/001

  • Y tanau yr aethpwyd iddynt fesul 10,000 o'r boblogaeth.
  • Y galwadau ffug yr aethpwyd iddynt fesul 10,000 o'r boblogaeth.
  • Y gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yr aethpwyd iddynt fesul 10,000 o'r boblogaeth.
  • Y digwyddiadau eraill yr aethpwyd iddynt fesul 10,000 o'r boblogaeth.

Ail ddangosydd FRS/RRC/S/002

Cyfanswm nifer:

  • y marwolaethau a'r anafiadau a ddeilliodd o danau fesul 100,000 o'r boblogaeth
  • y marwolaethau a'r anafiadau a ddeilliodd o danau damweiniol fesul 100,000 o'r boblogaeth

Ymateb effeithiol

Trydydd dangosydd FRS/EFR/S/003

Canran y tanau mewn anheddau a gyfyngwyd i'r ystafell lle cychwynnodd y tanau.

Y prif ganlyniadau ar gyfer 2024-25

  • Bod Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru wedi mynychu 10,163 o danau, sy’n cyfateb i 32 o danau fesul 10,000 o’r boblogaeth. Mae hyn yn gynnydd o 5% o gymharu â 2023-24. Ers i gyfrifoldeb am wasanaethau tân ac achub gael ei ddatganoli i Gymru yn 2004-05, mae’r nifer a’r gyfradd wedi mwy na haneru.
  • Roedd yna 17,777 o alwadau ffug a fynychwyd yn 2024-25, sy'n cyfateb i 56 fesul 10,000 o'r boblogaeth ac yn ostyngiad o 3% o gymharu â 2023-24.
  • Aeth yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru i 1,971 o wrthdrawiadau traffig ffyrdd yn 2024-25, sef 6 fesul 10,000 o'r boblogaeth a chynnydd o 3% o'i gymharu â 2023-24.
  • Aeth yr Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru i 8,151 o Ddigwyddiadau Gwasanaeth Arbennig nad oeddent yn wrthdrawiadau traffig ffyrdd yn 2023-24, sef 26 fesul 10,000 o'r boblogaeth; ni welodd y nifer unrhyw newid canrannol o'i gymharu â 2023-24.
  • Roedd 150 o farwolaethau ac anafiadau o ganlyniad i danau yng Nghymru (5 fesul 100,000 o'r boblogaeth). Mae hyn yn gynnydd o 26% yn nifer y rhai a anafwyd o gymharu â 2023-24.
  • Roedd 137 o farwolaethau ac anafiadau oherwydd tanau damweiniol yng Nghymru (4 fesul 100,000 o'r boblogaeth). Mae hyn yn gynnydd o 37% yn nifer y bobl a anafwyd o'i gymharu â 2023-24. Y bobl hyn a anafir yw'r rhai sy'n cael eu hanfon i'r ysbyty ac nid ydynt yn cynnwys y rhai sy'n cael cymorth cyntaf neu sy'n cael eu hanfon am wiriadau rhagofalus.
  • Roedd 86% o danau mewn anheddau yng Nghymru wedi'u dal yn yr ystafell lle dechreuodd y tân.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Claire Davey
E-bost: ystadegau.cynhwysiant@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image