Dangosyddion allbynnau tymor-byr: Ebrill i Fehefin 2025 (canlyniadau pennawd)
Data sy'n dangos y symudiadau tymor byr yn allbwn diwydiannau yn y sectorau cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau marchnad ar gyfer Ebrill i Fehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r amcangyfrifon hyn yn cwmpasu Ebrill i Fehefin 2025 ac amcangyfrifon blynyddol ar gyfer Gorffennaf 2024 i Fehefin 2025.
Gall amcangyfrifon ar gyfer chwarteri unigol amrywio, ac mae amcangyfrifon ar gyfer Cymru yn tueddu i fod yn fwy cyfnewidiol nag ar gyfer y DU, felly argymhellir ystyriaeth o dueddiadau a chymariaethau tymor hwy.
Prif bwyntiau
Gostyngodd Cynhyrchiant yn flynyddol a chwarterol. Gostyngodd Adeiladu yn flynyddol a chynyddodd yn chwarterol. Cynyddodd Gwasanaethau’r Farchnad yn flynyddol a gostyngodd yn chwarterol.
Ffigur 1: dangosyddion allbynnau tymor-byr, Ebrill 1999 i Fehefin 2025
Disgrifiad o ffigur 1: dengys y siart y gyfres amser ar gyfer mynegai cynhyrchu, adeiladu a gwasanaethau’r farchnad ers 1999. Y tueddiad ar y cyfan yw bod y mynegai gwasanaethau’r farchnad a chynhyrchu wedi cynyddu ers 1999, tra bo’r mynegai adeiladu wedi amrywio dros yr un cyfnod amser. Gwelwyd gostyngiad sylweddol ym mhob mynegai yn Chwarter 2 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws, ond maent wedi adfer rhywfaint neu’n llwyr ers hynny.
Ffynhonnell: Dangosyddion allbynnau tymor-byr, Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG)
Mynegai Gwasanaethau Marchnata
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos cynnydd o 0.8% yng Nghymru a chynnydd o 1.7% yn y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
Yng Nghymru, gwelwyd cynnydd mewn pump allan o’r naw mynegai diwydiant Gwasanaethau’r Farchnad dros y flwyddyn.
Gostyngodd Mynegai Gwasanaethau’r Farchnad Cymru gan 0.3% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 0.3% dros yr un cyfnod.
Mynegai Cynhyrchu
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 0.6% ar gyfer Cymru a gostyngiad o 0.8% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
Mae Mynegai Cynhyrchu Cymru yn dangos gostyngiad o 1.4% o'i gymharu â'r chwarter blaenorol. Gostyngodd allbwn y DU gan 0.8% dros yr un cyfnod.
Mynegai Adeiladu
Mae'r duedd tymor-hir yn dangos gostyngiad o 26.4% ar gyfer Cymru a cynnydd o 1.2% ar gyfer y DU yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2025, o'i gymharu â'r deuddeg mis blaenorol.
Mae Mynegai Adeiladu Cymru yn dangos cynyddiad o 8.7% wrth gymharu'r chwarter diweddaraf â'r chwarter blaenorol. Cynyddodd allbwn y DU gan 1.0% dros yr un cyfnod.
Dyfodol y Cyhoeddiad hwn
Ym mis Mai 2023 gwnaethom rannu ein cynlluniau i roi'r gorau i gyhoeddi'r datganiad hwn gan fod y SYG yn cyhoeddi data cynnyrch mewnwladol crynswth chwarterol (GDP) ar gyfer Cymru a rhanbarthau Lloegr. Fodd bynnag, ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd y SYG eu bod wedi oedi eu cyhoeddiad GDP rhanbarthol chwarterol. Cyhoeddwyd adolygiad dulliau o'r data GDP rhanbarthol chwarterol gan y Ganolfan Ragoriaeth Ystadegau Economaidd ym mis Mawrth 2025, gyda’r SYG yn cadarnhau eu bod yn gweithio tuag at adfer y cyhoeddiad yn eu post blog cysylltiedig. O ganlyniad, ac ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i gyhoeddi‘r dangosyddion allbynnau tymor-byr. Byddwn yn parhau i roi gwybod i ddefnyddwyr am ein cynlluniau.
