Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Cyflwynodd Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 broses newydd ar gyfer cydsynio i brosiectau seilwaith mawr yng Nghymru.
Yn sgil Deddf 2024, mae angen gwneud nifer bach o ddiwygiadau technegol i ddeddfwriaeth y DU nad yw o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Pan fo materion sy’n codi o ddeddfwriaeth gan y Senedd yn golygu bod angen diwygiadau i ddeddfwriaeth sydd y tu hwnt i gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, gall Ysgrifennydd Gwladol Cymru wneud Gorchymyn o dan adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 i ddiwygio’r ddeddfwriaeth berthnasol.
O ganlyniad, mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi gosod fersiwn ddrafft o Orchymyn Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025 gerbron Senedd y DU i’w chymeradwyo.
