Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: nodyn gan Andy Richardson (Hydref 2025)
Diweddariad gan aelod newydd o'r bwrdd Andy Richardson.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Bydd llawer ohonoch yn ymwybodol fy mod wedi cadeirio'r Bwrdd Bwyd a Diod am wyth mlynedd tan fis Ionawr 2024. Rwy'n parhau i fod ar y Bwrdd oherwydd fy mod wedi ymrwymo i gefnogi ei lwyddiant fel sianel hanfodol rhwng diwydiant bwyd a diod Cymru a'r llywodraeth.
Fel Cadeirydd, goruchwyliais y Bwrdd yn ystod y canlynol:
- Brexit
- Covid, a
- chyfnod cynnar argyfwng Wcráin sy'n anffodus yn parhau hyd heddiw.
Dysgodd i mi fod busnesau mwy gwydn yn dod allan o'r argyfyngau hyn yn gryfach!
Gwelais hefyd wir bŵer cydweithredu o fewn y diwydiant a gyda'r llywodraeth. Mae hyn yn rhywbeth y mae llawer o fusnesau wedi'i fanteisio arno ac maen nhw wedi creu:
- cadwyni cyflenwi cryfach
- llai o fusnesau anwadal, a
- cysylltiadau busnes sydd yn wirioneddol fanteisiol.
Ers gadael Volac fel Cyfarwyddwr Materion Corfforaethol yn 2023, rwyf bellach yn ymgymryd ag ychydig o rolau yn y diwydiant. Rolau y mae gen i angerdd amdanynt oherwydd fy mod yn gweithio:
- gyda phobl sy'n fy ysbrydoli, ac
- ar brosiectau a all wneud gwahaniaeth.
Ar hyn o bryd rwy'n Gadeirydd cwmni prydau parod o'r enw Frive, sydd wedi'i leoli yn Llundain. Mae'n fusnes anhygoel sy'n cynhyrchu prydau parod iach sydd "yn barod i'w ailgynhesu". Does dim ychwanegion na chynhwysion wedi'u prosesu'n eithafol yn y prydau hyn, sy'n rhywbeth rwy'n angerddol amdano.
Rwyf hefyd yn bartner mewn ymgynghoriaeth cadwyn gyflenwi o'r enw European Food and Farming Partnership. Rydym yn arbenigo mewn mentora arweinwyr busnes o gwmnïau a phrofiad o bob maint ac mewn datrys heriau'r gadwyn gyflenwi i greu busnesau gwydn, cynaliadwy a phroffidiol.
Un o fy rolau yw gweithio gydag elusen. Mae'n darparu cyllid i droi syniadau academaidd a chreadigol yn gynhyrchion a gwasanaethau arloesol. Mae hyn yn golygu gweithio gydag unigolion sydd â syniadau anhygoel. Rydym yn eu harwain trwy'r broses arloesi gynnar hyd at ymgorffori.
Yn gynharach yn fy ngyrfa, gweithiais i'r busnes maeth llaeth Volac. Bydd llawer ohonoch yn gwybod amdano, gan fod prif ffatrïoedd y cwmni wedi'u lleoli yng Nghymru. Roedd yn fusnes arloesol iawn, a sefydlwyd gan Dick Lawes yn y 1970au. Daeth o hyd i ffordd o ychwanegu gwerth at faidd sy'n sgil-gynnyrch o'r broses gwneud caws ac sydd bellach yn werthfawr iawn.
Cyn gweithio i Volac, roeddwn i'n gweithio i gwmni bwyd anifeiliaid. Roeddwn yn cynghori ffermwyr ar faeth anifeiliaid cnoi cil. Yn wir, yn gynnar yn fy ngyrfa roeddwn hyd yn oed yn godro gwartheg am flwyddyn! Felly, mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau i mi am fy mhrofiad ymarferol o ffermio llaeth!!
Rwyf wrth fy modd yn gweithio yn y diwydiant hwn ac rwy'n cael fy ysbrydoli gan y bobl rwy'n eu hadnabod o'r gorffennol a chan y bobl newydd rwy'n cwrdd â nhw bob dydd.
Bwyd a Diod yw'r diwydiant pwysicaf yn y byd. Rwy'n parhau i wneud yr hyn y gallaf i helpu i sicrhau ei le cywir fel diwydiant blaenllaw yn ein heconomi!
