Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae amcangyfrifon cyflogaeth Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth (BRES) fel arfer yn cael eu cyhoeddi ar lefel y Deyrnas Unedig (DU). Mae amcangyfrifon cyflogaeth dros dro BRES 2024 yn cwmpasu Prydain Fawr yn unig gan nad yw amcangyfrifon ar gyfer 2024 ar gael ar gyfer Gogledd Iwerddon eto. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn bwriadu diweddaru y ddatganiad ystadegol 2024 gydag amcangyfrifon y DU pan fydd amcangyfrifon Gogledd Iwerddon ar gael. Ar gyfer 2023, mae'r amcangyfrifon diwygiedig cyhoeddedig yn cynrychioli'r DU ac nid ydynt yn cael eu heffeithio o hyd.

Prif bwyntiau

Yn 2024, roedd 1.291 miliwn o swyddi gweithwyr yng Nghymru, 0.7% yn is na’r ffigur o 1.300 miliwn yn 2023.

O ran Prydain Fawr gyfan, gwelwyd cynnydd o 0.5% yn nifer y swyddi gweithwyr rhwng 2023 a 2024.

Bu cynnydd mewn 7 o’r 11 gwlad Prydain Fawr neu ranbarthau Lloegr rhwng 2023 a 2024, ble mae’r gostyngiad mwyaf yng Nghymru (0.7%).

Roedd y newid yng Nghymru rhwng 2023 a 2024 wedi’i wasgaru ar draws nifer o sectorau diwydiannol, gyda’r cynnydd mwyaf yn y sector Iechyd (i fyny 5,500) ac yna’r sector Addysg (i fyny 4,400). Roedd y cwymp mwyaf yn y sector Gweinyddu Busnes a Gwasanaethau Cymorth (i lawr 13,200).

Yn 2024, y sector Iechyd oedd y diwydiant mwyaf yng Nghymru, gan gyfrif am 17.6% o’r holl swyddi gweithwyr, ac yna 10.3% yn y sector Gweithgynhyrchu, 9.2% yn y sector Addysg a 9.0% yn y sector Manwerthu.

Yn 2024, roedd 334,500 o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus a 956,700 o swyddi gweithwyr yn y sector preifat yng Nghymru. Roedd cyfran y swyddi hyn yn 25.9% yn y sector cyhoeddus a 74.1% yn y sector preifat (y ffigurau ar gyfer Prydain Fawr oedd 18.8% yn y sector cyhoeddus a 81.2% yn y sector preifat).

Dylid nodi bod yr amcangyfrifon hyn o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn wahanol i'r amcangyfrifon swyddogol ar gyfer cyflogaeth yn y sector cyhoeddus (SYG). Dylai’r amcangyfrifon swyddogol gael eu hystyried fel yr amcangyfrifon sector cyhoeddus terfynol ar gyfer gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Joe Davies
E-bost: ystadegau.marchnadlafur@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099