Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adolygiad hwn yn archwilio’r defnydd o goetiroedd, y cyfleoedd, a’r manteision i bobl gael mynediad atynt, a’r rhwystrau rhag gwneud hyn, a manteisio ar gynhyrchion di-bren coedwigoedd i fusnesau.

Cynhyrchion di-bren a gwasanaethau coedwigoedd: defnydd, cyfleoedd a rhwystrau

Mae ymchwil yn awgrymu y gallai argaeledd cynhyrchion di-bren coedwigoedd fod yn fwy cyfyngedig yng Nghymru o'i gymharu â gwledydd eraill. Er gwaethaf hyn, nododd yr adolygiad nifer fach o enghreifftiau o fentrau yng Nghymru sydd â'r nod o ehangu'r farchnad ar gyfer cynhyrchion di-bren coedwigoedd. Canfuwyd bod y rhain yn gwella dealltwriaeth o botensial economaidd y cynhyrchion hyn. Ar ben hynny, mae ymchwil yn awgrymu diddordeb y cyhoedd mewn gweithgareddau megis fforio.

Canfuwyd bod gwasanaethau sy’n seiliedig ar goedwigoedd, sy'n darparu cyfleoedd i dwristiaid trwy hamdden a lletygarwch sy'n seiliedig ar natur, yn arbennig o werthfawr i fusnesau.

Mae'r adolygiad hefyd yn tynnu sylw at y rhwystrau sy'n bodoli i fusnesau sy'n ceisio marchnata cynhyrchion di-bren coedwigoedd neu elwa o wasanaethau hamdden a thwristiaeth a gynigir mewn coedwigoedd.

Manteision iechyd a chymdeithasol coetiroedd

Gall amgylcheddau coedwigoedd gynnig manteision iechyd seicolegol a ffisiolegol trwy ostwng dangosyddion sy'n gysylltiedig â straen megis cyfradd curiad y galon a lefelau cortisol, gwella llesiant emosiynol, ac annog gweithgarwch corfforol.

Fodd bynnag, mae’n bosibl na fydd y manteision hyn bob amser yn cael eu profi'n gyfartal ar draws grwpiau cymdeithasol. Ymhlith y ffactorau sy'n effeithio ar hyn y mae anghydraddoldebau demograffig a chymdeithasol, amlder ymweliadau, agosrwydd at fannau gwyrdd a'r mathau o weithgareddau y mae pobl yn cymryd rhan ynddynt.

Mae rhwystrau strwythurol a demograffig yn cynnwys argaeledd cyfyngedig o fannau gwyrdd gerllaw, costau teithio a phobl yn teimlo eu bod wedi'u hallgáu neu wedi'u tangynrychioli mewn mannau gwyrdd.

Adroddiadau

Manteision iechyd a chymdeithasol coetiroedd a chyfleoedd cynhyrchion di-bren coedwigoedd: adolygiad llenyddiaeth , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Aimee Krishan

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.