Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae heddiw'n gam sylweddol a chadarnhaol ymlaen yn ein taith i wella a diogelu dyfroedd ymdrochi eithriadol Cymru. Mae gosod yr Offeryn Statudol i gryfhau Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi 2013 yn y Senedd ac yn Senedd y DU yn anfon arwydd cryf o'n hymrwymiad cyffredin ar draws llywodraethau i ddiogelu iechyd ein dyfroedd a llesiant y rhai sy'n eu mwynhau. Mae'r garreg filltir hon yn adlewyrchu misoedd o gydweithredu ac ymroddiad, ac yn gosod y sylfaen ar gyfer dull mwy modern, ymatebol a lleol o reoli dyfroedd ymdrochi.

Rydym bellach yn symud ymlaen gyda rhaglen o ddiwygiadau ystyrlon a fydd yn cryfhau mesurau diogelu ac yn cyflwyno mwy o hyblygrwydd i ddiwallu anghenion lleol:

  • Bydd dileu dad-ddynodi awtomatig yn sicrhau nad yw ymdrechion hanfodol i wella ansawdd dŵr yn cael eu hatal yn rhy fuan.
  • Bydd cyflwyno asesiadau dichonoldeb ar gyfer gwelliannau ansawdd dŵr yn ein galluogi i gymryd dull mwy rhagweithiol ac wedi’i dargedu at greu safleoedd ymdrochi diogel, amgylcheddol gynaliadwy a phriodol y gall y cyhoedd ymddiried ynddynt.
  • Bydd rhoi mwy o hyblygrwydd o ran y tymor ymdrochi yn ei gwneud hi’n bosibl ei addasu i’r amgylchedd lleol, gan sicrhau bod ein polisïau yn cyd-fynd ag amodau amgylcheddol a phatrymau hamdden sy'n newid.

Yn ategu'r diwygiadau craidd hyn mae nifer o ddiwygiadau technegol sydd wedi'u cynllunio i foderneiddio arferion, symleiddio prosesau rheoleiddio, a gwella effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd cyffredinol gwaith rheoli ansawdd dŵr. Bydd y diweddariadau hyn yn sicrhau bod y Rheoliadau Dyfroedd Ymdrochi yn parhau i fod yn addas i'r diben, gan leihau'r beichiau diangen ar Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gyda chanllawiau ac adnoddau newydd yn cael eu datblygu cyn tymor ymdrochi 2026, rydym yn grymuso ymgeiswyr gyda'r eglurder a'r hyder sydd eu hangen arnynt i ddefnyddio'r system newydd. Mae hyn yn ymwneud â mwy na rheoleiddio, mae'n ymwneud â galluogi cynnydd, cefnogi ymdrochi yn yr awyr agored, ac ymateb i'r brwdfrydedd cynyddol dros nofio gwyllt a llesiant sy'n gysylltiedig â dŵr.

Mae Cymru yn gartref i rai o'r traethau mwyaf syfrdanol yn Ewrop, ac rydym yn falch o fod yn cymryd camau a fydd yn helpu i'w cadw felly. Mae'r diwygiadau hyn yn dyst i'r hyn y gallwn ei gyflawni pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd—ar draws llywodraethau, rheoleiddwyr, a chymunedau—gyda gweledigaeth a rennir ar gyfer dyfroedd glanach, mwy diogel a mwy gwydn. Er bod hwn yn gam pwysig ymlaen, mae hefyd yn rhan o ymdrech ehangach i wella ein dull llywodraethu dŵr, cryfhau mesurau diogelu amgylcheddol, a sicrhau'r safonau uchaf o ran ansawdd dŵr ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Mae ein hymrwymiad i ddiogelu a gwella adnoddau naturiol Cymru yn parhau i fod yn gadarn. Drwy barhau i weithio ar y cyd, gallwn sicrhau newid parhaol ac adeiladu dyfodol lle gall pawb fwynhau harddwch, iechyd a chynaliadwyedd dyfroedd ymdrochi Cymru.