Ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir: Gorffennaf i Medi 2025
Ein hystadegau chwarterol Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir. Mae data’n cynnwys nifer y trafodiadau, y dreth sy'n ddyledus a dadansoddiad ar gyfer ardaloedd yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Hefyd, gweler yr erthygl ar fwriad prynwyr wrth wneud trafodiadau lle telir cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir wedi cyd-fynd â'r datganiad ystadegol blaenorol. Gyda'r ail flwyddyn o ddata ar gyfer bwriad cyfradd uwch bellach ar gael, rydym wedi cyflwyno tueddiadau am y tro cyntaf. Os oes gennych unrhyw adborth ar y dadansoddiadl, cysylltwch â ni yn data@acc.llyw.cymru.
Mae Treth Trafodiadau Tir yn daladwy ar eiddo preswyl ac amhreswyl a buddiannau tir sy’n cael ei brynu yng Nghymru. Mae cyfraddau treth a bandiau treth Treth Trafodiadau Tir yn amrywio yn ôl y math o drafodiad.
Mae’r datganiad ystadegol hwn yn dadansoddi’r prif dueddiadau mewn trafodiadau a threth sy’n ddyledus ar gyfer Treth Trafodiadau Tir. Mae'r daenlen atodol a'n setiau data StatsCymru yn cynnwys data manylach, yr ydym wedi dechrau eu cyhoeddi ar wefan newydd StatsCymru. Gweler y blog Digidol a Data am lansiad gwasanaeth newydd StatsCymru.
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn rhoi gwybodaeth gymharol amserol am weithgarwch yn y farchnad eiddo yng Nghymru. Defnyddir yr ystadegau hefyd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol i ragweld refeniw Treth Trafodiadau Tir.
Mae ystadegau Treth Trafodiadau Tir yn ystadegau swyddogol achrededig. Ym mis Chwefror 2022, fe wnaeth y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau adolygu ac achredu’r ystadegau hyn yn annibynnol fel rhai sy’n cydymffurfio â safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Côd Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Gelwir ystadegau swyddogol achrededig yn Ystadegau Gwladol yn Neddf Ystadegau a’r Gwasanaeth Cofrestru 2007.
Ein polisi cyhoeddiad ystadegol yn esbonio’r Polisïau a gweithdrefnau sydd gennym ar waith ar gyfer cyhoeddi ystadegau swyddogol, gan gynnwys ein dull o ddiwygio. Rydym yn cyhoeddi rhestr o’r swyddi sydd â mynediad i’r hystadegau cyn iddyn nhw gael eu rhyddhau, gan gynnwys ar gyfer Treth Trafodiadau Tir.
Wrth gymharu ystadegau Treth Trafodiadau Tir dros amser, dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol o newidiadau blaenorol i gyfraddau Treth Trafodiadau Tir sy’n effeithio ar swm y dreth sy’n ddyledus:
- neewidiadau i drothwy cyfradd sero o 27 Gorffennaf 2020 i 31 Mawrth 2021
- ymestyn cyfnod y gostyngiad dros dro yn y dreth o 31 Mawrth 2021 i 30 Mehefin 2021
- newidiadau i gyfraddau a bandiau Treth Trafodiadau Tir o 27 Rhagfyr 2022
- newidiadau i brif gyfraddau a bandiau preswyl y Dreth Trafodiadau Tir o 10 Hydref 2022
- newidiadau i gyfraddau preswyl uwch Treth Trafodiadau Tir o 11 Rhagfyr 2024
Prif bwyntiau
Trafodiadau preswyl
- Yn Ngorffennaf i Fedi 2025, roedd trafodiadau preswyl i fyny 8% o'r un chwarter flwyddyn ynghynt. Roedd y dreth ddyledus i fyny 19%, yn rhannol oherwydd y cynnydd o 1% yng nghyfraddau treth pob band ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 11 Rhagfyr 2024.
- O Ebrill i Fedi 2025, mae nifer misol y trafodiadau a swm y dreth sy'n ddyledus wedi bod yn uwch na'r un mis flwyddyn ynghynt.
- Yn gyffredinol, mae canran y trafodiadau yn y bandiau eiddo uwch wedi bod yn cynyddu yn y 7 blynedd diwethaf, er ei fod wedi bod yn fwy sefydlog yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Mae’r duedd wedi bod yn debyg ar gyfer cyfraniad y trafodiadau hyn i gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.
Trafodiadau amrheswyl
- Yn Ngorffennaf i Fedi 2025, roedd trafodiadau amhreswyl i lawr 5% o’r un chwarter flwyddyn ynghynt ac y dreth ddyledus i lawr 15%.
- Yn Ebrill a Mai 2025, roedd y dreth fisol a oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl yn uwch na’r cyfartaledd misol (£6.9 miliwn), ond roedd yn is na’r cyfarfaledd misol ar gyfer Mehefin i Fedi.
- Yn Ngorffennaf i Fedi 2025, cyfrannwyd 58% o'r dreth amhreswyl a oedd yn ddyledus gan drafodiadau lle'r oedd pryniant o dros £1 miliwn, er fod hyn yn cynrychioli dim ond 6% o’r trafodiadau amhreswyl yn y cyfnod hwn.
Dadansoddiad o fewn Cymru (data ar gyfer y flwyddyn yn diweddu Medi 2025)
Yn ôl awdurdod lleol, roedd trafodiadau cyfraddau uwch fel canran o'r holl drafodiadau preswyl yn amrywio o 14% yn Sir Fynwy i 30% yn Merthyr Tudful.
O gymharu â’r flwyddyn flaenorol (y flwyddyn yn diweddu Mehefin 2024), yr awdurdodau lleol oedd â’r newidiadau canrannol mwyaf oedd:
- Ynys Môn (lleihad o 7 pwynt canran)
- Gwynedd (lleihad o 6 pwynt canran)
- Sir Ddinbych (lleihad o 4 pwynt canran)
- Blaenau Gwent (cynnydd o 3 pwynt canran)
- Abertawe (lleihad o 3 pwynt canran)
Roedd gan bob awdurdod lleol arall newidiadau o 2 bwynt canran neu lai.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn gyffredinol roedd gostyngiadau yn y canrannau hyn yn ardaloedd gogledd a gorllewin Cymru.
Roedd y canrannau ar gyfer Gwynedd yn weddol sefydlog ar gyfer 2018-19 i 2021-22 (tua 37% i 39%). Cafwyd cwymp amlwg y flwyddyn ganlynol ac yna cyfnod o sefydlogrwydd, cyn gostyngiad sylweddol arall i 25% yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2025.
Gostyngodd y canrannau ar gyfer Ynys Môn o 36% yn 2019-20 i 29% yn 2022-23. Er bod cynnydd sylweddol i 34% yn y flwyddyn yn diweddu Mehefin 2024, dilynwyd hynny gan ostyngiad mwy i 24% yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2025.
Mae'n bwysig nodi bod gall amryw ffactorau olygu bod cyfraddau uwch yn berthnasol i drafodiad preswyl. Yn ein hail erthygl flynyddol ar fwriad prynwyr lle telir cyfradd uwch, a gyhoeddwyd cyd-fynd ag ein datganiad blaenorol, rydym wedi cyflwyno dadansoddiad o'r rhesymau dros y trafodiadau hyn. Mae’n defnyddio cwestiwn am y bwriad y tu ôl i'r trafodiad cyfraddau uwch a gyflwynwyd i'r ffurflen dreth yn haf 2023. Mae'r categorïau y gyhoeddwyf data ar eu cyfer yn cynnwys:
- landlord prynu-i-osod
- ail gartref, cartref gwyliau neu lety gwyliau
- pontio (prynu eiddo newydd tra’n ceisio gwerthu eiddo sy'n bodoli eisoes)
- arall
Fel y nodwyd yn yr erthygl ar wahân honno ar fwriad prynwyr lle telir cyfraddau uwch, gwelwyd gostyngiad o 5 pwynt canran mewn pryniannau ‘ail gartref, cartref gwyliau neu lety gwyliau’ fel canran o’r holl drafodiadau preswyl yn Ynys Môn ac yng Ngwynedd. Y newidiadau hyn sydd i gyfrif am fwyafrif y gostyngiadau a welwyd ar gyfer yr holl drafodiadau cyfradd uwch yn yr ardaloedd hyn. Rydym wedi nodi yn yr erthygl fod y tueddiadau hyn ar gyfer pryniannau ‘ail gartref, cartref gwyliau neu lety gwyliau’ yn gyson â pholisïau ynghylch ail gartrefi yng Nghymru yn cael rhywfaint o effaith ar ymddygiad prynu. Gweler yr erthygl ar wahân am ddadansoddiad pellach a chyd-destun i’r data ar fwriad prynwyr wrth wneud trafodiadau lle telir cyfradd uwch ac mae hyn yn parhau i fod yn wir.
Mae'r ystadegau’r Dreth Trafodiadau Tir yn cynnwys eiddo a werthwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig. Nid ydynt yn cynrychioli'r stoc lawn o eiddo mewn unrhyw awdurdod lleol.
Sylw'r ystadegydd
Gwnaeth Adam Al-Nuaimi, Pennaeth Dadansoddi Data yn Awdurdod Cyllid Cymru, sylw ar yr ystadegau hyn:
Wrth gymharu data ar gyfer y flwyddyn hyd at Medi â’r flwyddyn flaenorol, gwelodd llawer o ardaloedd yng Nghymru ostyngiadau yn eu canran o drafodiadau preswyl cyfradd uwch. Yn enwedig Ynys Môn a Gwynedd.
Yr haf hwn, fe wnaethom adrodd bod llawer o'r tueddiadau a welsom mewn trafodiadau cyfraddau uwch oherwydd newidiadau mewn pryniannau ail gartrefi. Mae hyn yn parhau i fod yn wir, ac mae'r tueddiadau hyn yn gyson â pholisïau ynghylch ail gartrefi yng Nghymru sy'n parhau i gael rhywfaint o effaith ar ymddygiad prynu.
Yn genedlaethol yn Ngorffennaf i Fedi, roedd refeniw preswyl chwarterol yn uwch na'r un adeg y llynedd, ond ddim mor uchel â thair blynedd ynghynt. Mae sawl rheswm dros y cynnydd diweddaraf. Roedd cynnydd mewn nifer y trafodiadau preswyl a gwerthoedd eiddo cyfartalog dros y cyfnod hwnnw, a bu cynnydd mewn cyfraddau treth ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch o Ragfyr 2024.
Dadansoddiad ar y lefel Cymru
Nodwch bod drwy gydol y datganiad hwn, mae unrhyw ddefnydd o'r term 'amhreswyl' yn cynnwys trafodiadau nad ydynt yn gyfan gwbl breswyl. Hynny yw, y trafodiadau hynny sydd ag elfennau preswyl a masnachol.
Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol pe bai eiddo neu ddarn o dir yn cael ei werthu sawl gwaith o fewn chwarter neu flwyddyn, byddai’n ymddangos sawl gwaith yn yr ystadegau ar gyfer y cyfnod hwnnw. Yn Ebrill 2024 i Fawrth 2025, rydym yn amcangyfrif bod rhwng 2.5% a 3% o'r trafodiadau yn ymwneud â darn o dir neu eiddo sydd wedi'i werthu fwy nag unwaith yn y blwyddyn.
Mae'r data a gyflwynir yn y datganiad hwn wedi'i echdynnu ar 20 Hydref 2025 oni nodir yn wahanol.
| Math o drafodiad | Trafodiadau [nifer] Gorffennaf i Fedi 2025 [dros dro] | Newid o ran % (o gymharu ag Gorffennaf i Fedi 2024) [nodyn 2] |
|---|---|---|
| Preswyl | 13,870 | 8% |
| O'r rhain: cyfraddau uwch preswyl | 2,790 | 8% |
| Amhreswyl | 1,420 | -5% |
| Holl trafodiadau | 15,290 | 7% |
| Math o drafodiad | Treth yn ddyledus [£ miliwn] Gorffennaf i Fedi 2025 [dros dro] | Newid o ran % (o gymharu ag Gorffennaf i Fedi 2024) [nodyn 2] |
|---|---|---|
| Preswyl | 82.5 | 19% |
| o'r rhain: Refeniw ychwanegol o’r gyfradd uwch [nodyn 1] | 27.5 | 25% |
| Amhreswyl | 16.3 | -15% |
| Holl trafodiadau | 98.7 | 11% |
Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl math o drafodiad, disgrifiad o’r trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.
[Nodyn 2] Amcangyfrifon ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2024 a wnaed yn Hydref 2024.
Yn bennaf oherwydd patrymau tymhorol yn y farchnad eiddo, gall fod yn ddefnyddiol cymharu’r cyfnod presennol â data o’r un cyfnod flwyddyn ynghynt. Felly, Gan gymharu Gorffennaf i Fedi 2025 gyda Gorffennaf i Fedi 2024 ar sail tebyg am debyg:
- cynnyddodd cyfanswm y trafodiadau o 7% a chynnyddodd y dreth oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny o 11%
- cynnyddodd trafodiadau preswyl gan 8% a chynnyddodd y dreth a oedd yn ddyledus ar y trafodiadau hynny gan 19%
- o’r rhain, cynnyddodd trafodiadau preswyl ar y gyfradd uwch gan 8%
- cynnyddodd refeniw ychwanegol o drafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 25%; bydd hyn yn rhannol oherwydd y cynnydd o 1% yng nghyfraddau treth pob band ar gyfer trafodiadau preswyl cyfraddau uwch o 11 Rhagfyr 2024
- gostyngodd trafodiadau amrheswyl gan 5%
- gostyngodd treth sy'n ddyledus o drafodiadau amhreswyl o 15%
Ffigur 1: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru wedi bod gostyngiad sydyn yn ystod y gwyliau. Yn gyffredinol, roedd nifer wythnosol y trafodiadau a gyflwynwyd ers Ebrill 2025 yn uwch na’r un wythnos yn y flwyddyn flaenorol.
Ffynhonnell: Nifer wythnosol y trafodiadau y'i cyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru (Taenlen Dogfen Agored, 120 Kb) (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Mae hyn yn cynnwys nifer fach o drafodiadau a ddaeth i rym yn Hydref 2025.
Mae Ffigur 1 uchod yn dangos cyfanswm nifer y trafodiadau a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru yn ystod pob cyfnod o 7 diwrnod ar gyfer y ddair flwyddyn ariannol diweddaraf. Mae cyfnodau hyn yn dechrau ar ddydd Sadwrn ac yn dod i ben ar y dydd Gwener canlynol. Er enghraifft, mae pwynt ’29-Maw’ yn 2025-26 yn dangos nifer y trafodiadau preswyl ac amhreswyl a gyflwynwyd i Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 29 Mawrth i 4 April 2025 (yn gynhwysol). Mae'r dyddiadau gwirioneddol ychydig yn wahanol yn y flwyddyn flaenorol. Er enghraifft roedd yr wythnos cyfwerth yn y blwyddyn blaenorol yn rhedeg rhwng 30 Mawrth i 5 April 2024 (yn gynwysedig).
Mae Ffigur 1 yn dangos data yn ôl y dyddiad cyflwyno hyd at ac yn cynnwys 24 Hydref 2025l. Mae hyn yn wahanol i’r dyddiad dod i rym, sef y dyddiad rydym yn defnyddio am ran fwyaf dadansoddiad yn y datganiad hwn ac yr ydym yn echdynnu data dyddiad penodol ar ei gyfer (20 Hydref 2025 yn y datganiad hwn).
Ffigur 2: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl math a mis y daeth y trafodiad i rym
Disgrifiad o Ffigur 2: Mae’r siart llinell yn dangos o Ebrill 2025, bod nifer misol y trafodiadau preswyl yn uwch na’r un mis flwyddyn ynghynt. Roedd trafodiadau amhreswyl ar lefel is ac yn amrywio gyda chynnydd yn Hydref 2024 a Mawrth 2025 ers y misoedd blaenorol.
Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl math o drafodiad, disgrifiad o’r trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[p] Mae'r gwerth ar gyfer Medi 2025 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae'r gweth ar gyfer Awst 2025 ac yn gynharach wedi’i ddiwygio yn y cyhoeddiad hwn. Mae trafodiadau preswyl cyfraddau uwch ar gyfer cyfnodau cynharach wedi'u diwygio i lawr oherwydd bod ad-daliadau cyfradd uwch wedi cael eu hawlio.
Mewn blwyddyn nodweddiadol, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn ôl mis dod i rym yn amrywio rhywfaint ers Ebrill 2019. Mae natur dymhorol gyffredinol gyda mwy o drafodiadau yn ystod misoedd yr haf a'r hydref, er bod rhywfaint o amrywiad oherwydd bod pum dydd Gwener mewn misoedd penodol, yn hytrach na phedwar, ac mai dydd Gwener yw'r diwrnod mwyaf cyffredin o'r wythnos i drafodiadau ddod i rym.
Rhwng Ebrill a Mehefin 2025, roedd nifer y trafodiadau preswyl yn uwch na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol, ond roedd yn is na blwyddyn ynghynt.
Ar gyfer trafodiadau amrheswyl, ym mis Mawrth bob blwyddyn, gwelwn gynnydd ers y mis blaenorol (Chwefror). Yn gyffredinol, gall hyn fod oherwydd lesoedd amhreswyl sydd i'w hadnewyddu ddiwedd y flwyddyn ariannol. Fodd bynnag, yn Mawrth 2025, yn gyffredinol pryniannau oedd i gyfrif am y cynnydd mewn trafodiadau amhreswyl dros y mis blaenorol ac nid yw'r rhesymau am hyn yn glir.
Ffigur 3: Treth yn ddyledus ar y trafodiadau, yn ôl mis dod i rym [£ miliwn] [nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 3: Mae’r siart llinell yn dangos o Ebrill 2025, bod swm misol y dreth a oedd yn ddyledus ar drafodiadau preswyl yn uwch na’r un mis yn y flwyddyn flaenorol, gyda'r gwahaniaeth mwyaf ym mis Mawrth. O Fawrth 2024, mae'r dreth amhreswyl fisol a oedd yn ddyledus wedi bod yn uwch na'r cyfartaledd tymor hir misol (£6.9 miliwn) oddeutu hanner’r amser. Gall y dreth amhreswyl sy’n ddyledus amrywio’n sylweddol o fis i fis, yn aml wedi’i dylanwadu gan nifer fach o drafodiadau gwerth uchel.
Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl math o drafodiad, disgrifiad o’r trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Dim ond refeniw ychwanegol o drafodiadau cyfradd uwch sydd yn yr eitem hon. Nid yw'r eitem hon yn cynnwys elfen prif gyfradd trafodiadau cyfradd uwch.
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Medi 2025 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd preswyl ar gyfer Awst 2025 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu. Mae’r gwerthoedd amrheswyl ar gyfer Tachwedd 2024 wedi’I ddiwygio hefyd.
Trafodiadau preswyl yn ôl gwerth
Mae Ffigurau 4 a 5 yn isod yn dangos tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau preswyl a swm y dreth yn ddyledus ym mhob band treth. Mae chwe band treth preswyl. Rydym wedi cyfuno mae'r tri band mwyaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo wedi’u prynu yn fwy na £750,000.
Mae trafodiadau o dan £400,000 wedi’u rhannu’n ddau gategori yn seiliedig ar y trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfraddau a oedd ar waith ar yr adegau perthnasol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Ar gyfer trafodiadau cyfraddau uwch, mae’r trothwy cyfradd sero wedi bod yn sefydlog ar £180,000 dros y pum mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r trothwy cyfradd sero ar gyfer trafodiadau prif gyfradd wedi amrywio dros amser ac ar hyn o bryd mae'n £225,000. Ar gyfer ein dadansoddiad, rydym wedi grwpio’r trafodiadau hyn fel ‘hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero’ yn seiliedig ar drothwyon a oedd mewn grym ar adeg y trafodiad. I weld y gyfres lawn o drothwyon cyfradd sero, ewch i gyfraddau a bandiau’r Dreth Trafodiadau Tir.
Ffigur 4: Nifer y trafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae’r siart llinell yn dangos bod nifer y trafodiadau preswyl yn y bandiau ‘hyd at a gan gynnwys y trothwy cyfradd sero’ a ‘dros y trothwy cyfradd sero, hyd at a gan gynnwys £400,000’ wedi amrywio’n sylweddol dros amser, gyda niferoedd uwch y chwarter hwn nag yn yr un chwarter flwyddyn ynghynt. Roedd nifer chwarterol y trafodiadau yn y bandiau ‘£400,001 i £750,000’ a ‘dros £750,000’ ar eu huchaf yn Hydref i Ragfyr 2022 a Gorffennaf i Fedi 2022 yn y drefn honno a wedi bod yn llai ers hynny. Ar gyfer y ddau bandiau hynny, roedd y ffigur ar gyfer chwarter diweddaraf yn uwch na'r un chwarter flwyddyn ynghynt.
Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir preswyl, yn ôl math o drafodiad, gwerth y trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2025 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
Ffigur 5: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau preswyl, yn ôl band treth preswyl a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]
Disgrifiad o Ffigur 5: Mae’r siart llinell yn dangos bod symiau chwarterol y dreth oedd yn ddyledus yn y bandiau treth gwerth uwch yn sylweddol uwch na pum mlynedd yn ôl, gydag effeithiau penodol i’w gweld ar drafodiadau yn 2020 oherwydd y pandemig coronafeirws (COVID-19). Y chwarter hwn gwelwyd y symiau uchaf o dreth oedd yn ddyledus ar gyfer y bandiau '£400,001 i £750,000' a 'dros £750,000'.
Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir preswyl, yn ôl math o drafodiad, gwerth y trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2025 yn dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
[r] Mae’r gwerthoedd ar gyfer Ebrill i Fehefin 2025 ac yn cynharach wedi’i ddiwygio i lawr yn y cyhoeddiad hwn. Mae hyn i gyfrif am ad-daliadau'r cyfraddau uwch o dreth breswyl uwch sy'n cael eu talu.
Ffigur 6: Canran y trafodiadau preswyl a treth preswyl sy'n ddyledus ym mhob band treth, Gorffennaf i Fedi 2025 [dros dro]
Disgrifiad o Ffigur 6: Mae’r siart bar yn dangos yn Ngorffennaf i Fedi 2025, bod trafodiadau preswyl a oedd hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero i gyfrif am 55% o’r holl drafodiadau ac oddeutu un rhan o ddeg o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus. Yn y cyfamser, roedd yr 1% o drafodiadau a oedd dros £750,000 i gyfrif am 19% o gyfanswm y dreth oedd yn ddyledus.
Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir preswyl, yn ôl math o drafodiad, gwerth y trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Dengys Ffigur 6 fod 55% o drafodiadau preswyl yn Ngorffennaf i Fedi 2025, hyd at ac yn cynnwys y trothwy cyfradd sero (a ddiffinnir o dan Ffigur 4). Roedd y canrannau ar gyfer y chwarteri blaenorol yn amrywio rhwng 45% a 71%. Yn Ngorffennaf i Fedi 2025, roedd y trafodiadau hyn i gyfrif am 11% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus. Mae hyn yn is na’r 22% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (na ddangosir yn Ffigur 6), gyda thuedd cyffredinol am i lawr i’w weld yn y chwe mlynedd yn y cyfamser, er yn fwy sefydlog yn y 3 flynedd ddiweddaf.
Yn Ngorffennaf i Fedi 2025, cyfrannodd yr 1% o drafodiadau preswyl gyda gwerth dros £750,000 19% o’r dreth breswyl oedd yn ddyledus, y ganran uchaf ar gyfer treth oedd yn ddyledus a welwyd hyd yma. Ar gyfer chwarteri blaenorol, roedd canran y trafodiadau yn y categori hwn yr un mor fach. Ar gyfer y dreth breswyl oedd yn ddyledus, mae’r canrannau wedi codi yn ngyffredinol o’r 4% a welwyd yn Ebrill i Fehefin 2018 (nas dangosir yn Ffigur 6).
Cododd canran y trafodiadau gwerth £400,001 i £750,000 yn gyffredinol yn y rhan fwyaf o’r chwarteri, o 3% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 10% yn Ngorffennaf i Fedi 2025, er hynny mae wedi bod yn fwy sefydlog yn ystod y 3 blynedd diwethaf. Yn yr un modd, cododd canran y dreth breswyl oedd yn ddyledus a gyfrannwyd gan y trafodiadau hyn o 24% yn Ebrill i Fehefin 2018 i 36% yn Ngorffennaf i Fedi 2025, hefyd wedi bod yn fwy sefydlog yn y 3 blynedd ddiwethaf.
Trafodiadau amhreswyl yn ôl gwerth
Ar gyfer pob band treth, mae Ffigurau 7 a 8 yn dangos y tueddiadau chwarterol o ran nifer y trafodiadau amhreswyl a'r dreth oedd yn ddyledus. Mae 5 band treth ar gyfer y gwerth nad yw’n rhent. Rydym wedi cyfuno'r 3 band lleiaf yma i ddangos canlyniadau ar gyfer eiddo sydd â gwerth nad yw’n rhent, llai na £250,000.
Ffigur 7: Nifer y trafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart llinell yn dangos bod ar ôl adferiad mewn trafodiadau amhreswyl yn ail hanner 2020, y gwelwyd amrywiadau llai yn ystod y pedair blynedd diwethaf, er bod rhai brigiadau mwy wedi'u gweld yn ystod y cyfnod Hydref i Ragfyr 2024.
Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir amrheswyl, yn ôl gwerth y trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[Nodyn 1] Mae nifer fach o'r prydlesau newydd a ganiatawyd bremiwm a gwerth rhent. Felly, mae'r trafodiadau hyn wedi'u cynnwys ddwywaith yn Ffigur 1.7, o dan y gwerth nad yw'n werth rhent a'r gwerth rhent.
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2025 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
Ffigur 8: Y dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau amhreswyl, yn ôl gwerth a chwarter y daeth y trafodiad i rym [£ miliwn]
Disgrifiad o Ffigur 8: Mae’r siart llinell yn dangos bod y dreth chwarterol oedd yn ddyledus o werth nad yw’n werth rhent eiddo dros £1 miliwn wedi amrywio'n fawr dros amser gyda'r gwerthoedd uchaf i'w gweld yn y 6 chwarter o Ebrill 2021 i Fedi 2022, ac Ebrill i Fehefin 2024. Y gwerth y chwarter hwn oedd yr isaf a welwyd yn ystod y 5 mlynedd diwethaf. Roedd y dreth oedd yn ddyledus o’r categori hwn yn sylweddol uwch na’r ddau fand nad yw’n werth rhent a gyflwynwyd a’r gwerth rhent. Gall y dreth amhreswyl sy’n ddyledus amrywio’n sylweddol o chwarter i chwarter, yn aml wedi’i dylanwadu gan nifer fach o drafodiadau gwerth uchel.
Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir amrheswyl, yn ôl gwerth y trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
[p] Mae'r gwerthoedd ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2025 yn un dros dro a chaiff ei adolygu mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
Ffigur 9: Canran y treth oedd yn ddyledus ar drafodiadau amhreswyl ym mhob band gwerth, Gorffennaf i Fedi 2025 [dros dro]
Disgrifiad o Ffigur 9: Mae’r siart bar yn dangos bod yn Ngorffennaf i Fedi 2025, hanner o’r trafodiadau amhreswyl werth hyd at ac yn cynnwys £250,000, gyda'r trafodiadau hynny'n cyfrannu 0.5% o'r dreth amhreswyl oedd yn ddyledus. Cyfrannodd y 6% o drafodiadau amhreswyl gyda gwerth nad yw’n werth rhent o fwy nag £1 miliwn 58% o’r dreth oedd yn ddyledus. Roedd chwarter y trafodiadau amhreswyl werth rhent yn gysylltiedig â’r trafodiad, gan gyfrannu tuag 22% o’r dreth amhreswyl.
Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir amrheswyl, yn ôl gwerth y trafodiad, mesur a dyddiad dod i rym ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Dadansoddiad o fewn Cymru
Mae'r datganiad hwn yn cyflwyno dadansoddiadau daearyddol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir preswyl. Rydym yn cyflwyno data ar gyfer Hydref 2024 i Fedi 2025 (a echdynnwyd yn Hydref 2025) ac yn gwneud cymariaethau â data ar gyfer Hydref 2023 i Fedi 2024 (a echdynnwyd yn Hydref 2024). Mae data manylach ar gyfer awdurdodau lleol, Parciau Cenedlaethol, etholaethau’r Senedd ac etholaethau Seneddol San Steffan ar gael ar StatsCymru.
Nid ydym wedi darparu dadansoddiadau fesul mis na chwarter, gan na fyddai digon o drafodiadau yn y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ddarparu ystadegau dibynadwy.
Mae ym mha awdurdod lleol mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn gorfodol ar y ffurflen dreth, ond mae cod post y lle mae'r trafodiad yn digwydd yn gwestiwn dewisol ar y ffurflen dreth. Rydym wedi cyfuno'r ddau ddarn yma o wybodaeth er mwyn cyfrifo ein hystadegau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses hon ac ansawdd y data ar gael yn ein gwybodaeth allweddol am ansawdd ar gyfer ystadegau Treth Trafodiadau Tir.
Pan fyddwn yn ei dderbyn, defnyddir y cod post ar y ffurflen dreth i bennu’r etholaeth y Senedd, etholaeth Seneddol San Steffan, Parc Cenedlaethol, ac ardal adeiledig.
Ffigur 10: Trafodiadau cyfradd uwch, fel canran o'r holl drafodiadau preswyl, yn ôl awdurdod lleol a Pharc Cenedlaethol, Hydref 2024 i Fedi 2025 a Hydref 2023 i Fedi 2024
Disgrifiad o Ffigur 10: Mae’r siart yn dangod bod roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn Merthyr Tudful, Blaenau Gwent, Rhondda Cynon Taf, Gwynedd, Ynys Môn ac Abertawe. Ar gyfer y flwyddyn diweddaraf, nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau wedi gweld gostyngiadau yn eu canran o drafodiadau preswyl a oedd ar y cyfraddau uwch, gyda nifer o eithriadau. Mae rhai o'r ardaloedd a gyflwynir yn fach ac mae ganddynt nifer fach o drafodiadau, felly gellir disgwyl mwy o anwadalrwyd dros amser ar gyfer yr ardaloedd hyn.
Ffynhonnell: Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir, yn ôl awdurdod lleol, math o drafodiad, mesur a blwyddyn dod i rym ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir preswyl, yn ôl ardal Parc Cenedlaethol, math o drafodiad, mesur a cyfnod treigl 4 chwarter dod i rym ar StatsCymru (yn cynnwys data yn ôl Ebrill 2018, heb ei gyflwyno uchod)
Roedd trafodiadau cyfradd uwch yn gymharol uwch mewn awdurdodau yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru a hefyd mewn rhai awdurdodau yng nghymoedd y de. Roedd trafodiadau cyfraddau uwch yn uwch yn gyffredinol yn awdurdodau a leolir yn rhannau gogleddol a gorllewinol Cymru. Gwelwyd y canrannau uchaf yn Merthyr Tudful (30%), Blaenau Gwent a Rhondda Cynon Taf (pob un 27%), Gwynedd (25%), ac Ynys Môn ac Abertawe (pob un 24%). Mae'r ddau brif reswm dros drafodiadau cyfradd uwch, sef prynu-i-osod a phrynu ail gartref neu gartref/llety gwyliau yn effeithio ar ba awdurdodau lleol sydd ar frig y dosbarthiad.
Gwelwyd y canran isaf yn Sir Fynwy (14%).
O ran pwyntiau canran, yr awdurdodau lleol gyda'r newidiadau mwyaf oedd:
- Ynys Môn (lleihad o 7 pwynt canran)
- Gwynedd (lleihad o 6 pwynt canran)
- Sir Ddinbych (lleihad o 4 pwynt canran)
- Blaenau Gwent (cynnydd o 3 pwynt canran)
- Abertawe (lleihad o 3 pwynt canran)
Roedd gan bob awdurdod lleol arall newidiadau o 2 bwynt canran neu lai.
Y newidiadau cyfatebol â’r flwyddyn flaenorol ar gyfer y tri Pharc Cenedlaethol oedd:
- Arfordir Sir Benfro: 45% i 38%, gostyngiad o 7 pwynt canran
- Eryri: 32% (dim newid)
- Bannau Brycheiniog: 18% i 21%, cynnydd o 3 pwynt canran
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn gyffredinol roedd gostyngiadau yn y canrannau hyn yn ardaloedd gogledd a gorllewin Cymru.
Roedd y canrannau ar gyfer Gwynedd yn weddol sefydlog ar gyfer 2018-19 i 2021-22 (tua 37% i 39%). Cafwyd cwymp amlwg y flwyddyn ganlynol ac yna cyfnod o sefydlogrwydd, cyn gostyngiad sylweddol arall i 25% yn flwyddyn yn diweddu Medi 2025.
Gostyngodd y canrannau ar gyfer Ynys Môn o 36% yn 2019-20 i 29% yn 2022-23. Er bod cynnydd sylweddol i 34% y flwyddyn yn diweddu Mehefin 2024, dilynwyd hynny gan ostyngiad mwy i 24% yn y flwyddyn yn diweddu Medi 2025.
Fel y nodwyd yn yr erthygl blaenorol ar fwriad prynwyr lle telir cyfraddau uwch, yn y flwyddyn yn diweddu Mehefin 2025 gwelwyd gostyngiad o 5 pwynt canran mewn pryniannau ‘ail gartref, cartref gwyliau neu lety gwyliau’ fel canran o’r holl drafodiadau preswyl yn Ynys Môn ac yng Ngwynedd. Y newidiadau hyn sydd i gyfrif am fwyafrif y gostyngiadau a welwyd ar gyfer yr holl drafodiadau cyfradd uwch yn yr ardaloedd hyn. Rydym yn nodi yn yr erthygl fod y tueddiadau hyn ar gyfer pryniannau ‘ail gartref, cartref gwyliau neu lety gwyliau’ yn gyson â pholisïau ynghylch ail gartrefi yng Nghymru yn cael rhywfaint o effaith ar ymddygiad ac mae hyn yn parhau i fod yn wir.
Dylai defnyddwyr gofio bod:
- rhai o'r ardaloedd a gyflwynir yn fach ac mae ganddynt nifer fach o drafodiadau, felly gellir disgwyl mwy o anwadalrwydd dros amser ar gyfer yr ardaloedd hyn
- rhywfaint o orgyffwrdd yn y cyfnodau amser a ddefnyddir wrth, er enghraifft, ystyried data ar gyfer y flwyddyn hyd at Mawrth 2025 a’r flwyddyn hyd at Mehefin 2025; felly er mwyn cyfrifo newidiadau cronnol dros amser, byddai’n well i gyfrifo newidiadau canrannol am y flwyddyn ddiweddaraf yn erbyn data ar gyfer holl blwyddyn ynghynt
Data pellach ar gael
Nid yw data amrywiol arall yn cael ei ddadansoddi yn y datganiad hwn ond rydym yn cyhoeddi'r data hwn yn y daenlen atodol sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru.
Treth yn ddyledus ar drafodiadau ychwanegol a oedd yn annodweddiadol o fawr neu gyda manylion cyfyngedig
Mae rhai trafodiadau wedi'u heithrio o'r ystadegau a adroddir arnynt yn y datganiad hwn. Mae’r rhain yn cynnwys:
- trafodiadau annodweddiadol o fawr, sy'n ymwneud â phryniant Trafnidiaeth Cymru o ased rheilffordd Craidd y Cymoedd oddi wrth Network Rail yn 2019-20; roedd £28.2 miliwn o dreth yn ddyledus ac wedi’i thalu ar y trafodiad hwn
- nifer fach o drafodiadau gwerth isel lle nad ydym yn gallu darparu unrhyw wybodaeth ar wahân i gyfanswm y ffigur treth yn y flwyddyn; mae hyn oherwydd bod risg o ddatgelu manylion y trafodiadau unigol
Cyhoeddir ystadegau ar y dreth flynyddol oedd yn ddyledus ar gyfer y trafodiadau hyn ar StatsCymru:
Rhyddhadau
Gall trethdalwyr yn hawlio rhyddhad ar drafodiadau preswyl a amhreswyl. Mae rhyddhad yn gostwng swm y dreth sy'n ddyledus pan fo amodau penodol yn cael eu bodloni. Gellir rhoi mwy nag un rhyddhad ar un trafodiad.
Gall rhyddhadau ostwng y dreth sy’n ddyledus:
- i sero, a elwir yn rhyddhad llawn
- neu o ganran neu swm penodol, a elwir yn rhyddhad rhannol
Cyhoeddir ystadegau ar ryddhadau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:
Ar 7 Chwefror 2025, newidiwyd y ddeddfwriaeth yn ymwneud â rhyddhad anheddau lluosog fel bod yn rhaid trîn achosion lle mae anheddau sy'n is-aneddau (gwerth llai na thraean o gyfanswm gwerth y trafodiad) fel rhan o'r brif annedd mewn unrhyw drafodiad preswyl prif gyfraddau. Mae hyn yn golygu mai prin iawn bellach y bydd rhyddhad anheddau lluosog yn berthnasol mewn trafodiad preswyl prif gyfraddau, ac rydym yn amcangyfrif y bydd yn lleihau gwerth y rhyddhad (neu'n cynyddu cyfanswm refeniw Treth Trafodiadau Tir) rhwng £2.0 a £2.5m y flwyddyn.
Ad-daliadau cyfradd uwch
Pan fydd trethdalwr yn hawlio ad-daliad am Dreth Trafodiadau Tir cyfradd uwch preswyl, mae'r trafodiad gwreiddiol yn cael ei ddiwygio i drafodiad Treth Trafodiadau Tir preswyl prif gyfradd. Cyhoeddir ystadegau ad-daliadau ar amrywiaeth o seiliau yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru:
- ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ad-daliadau cyfradd uwch, yn ôl y dyddiad dod i rym ar StatsCymru
- ystadegau'r Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer ad-daliadau cyfradd uwch, yn ôl blwyddyn a chwarter dod i rym, a’r flwyddyn a chwarter y cymeradwyir yr ad-daliad ar StatsCymru
- ystadegau Treth Trafodiadau Tir ar dreth a dalwyd ac ad-daliadau cyfraddau uwch (ar sail arian parod), yn ôl cyfnod amser ar StatsCymru
Treth a dalwyd
Rydym yn cyhoeddi ystadegau ar swm y dreth a dalwyd yn y daenlen sy’n cyd-fynd â’r datganiad hwn ac ar StatsCymru.
Dadansoddiad o ddiwygiadau i'n hamcangyfrifon cyhoeddedig
Cyhoeddir ein hamcangyfrifon cyntaf o drafodiadau ar dreth sy’n ddyledus ar gyfer mis penodol fel amcangyfrifon dros dro. Mewn datganiadau dilynol, rydym yn adolygu'r amcangyfrifon hynny a'r rhai ar gyfer misoedd cynharach yn rheolaidd. Mae'r newidiadau canrannol rydym yn ei weld rhwng yr amcangyfrif cyntaf a'r ail amcangyfrif ar gyfer mis penodol bellach yn gymharol fach. Dangosir y canrannau hyn yn y daenlen sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.
Manylion cyswllt
Ystadegydd Dave Jones
Rhif ffôn:
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn:
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
