Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ddoe gosododd Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, y Gwir Anrhydeddus Douglas Alexander AS,  y Gorchymyn Deddf Addysg (Yr Alban) 2025 (Darpariaethau Canlyniadol ac Addasiadau) 2025 (y Gorchymyn) gerbron dau Dŷ Senedd y DU. Mae’r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud o dan adran 104 o Ddeddf yr Alban 1998. Mae adran 104 o Ddeddf yr Alban yn galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud diwygiadau i ddeddfwriaeth (sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth) sydd y tu hwnt i gymhwysedd Senedd yr Alban, o ganlyniad i ddeddfwriaeth a wnaed gan Senedd yr Alban. Mae'n ofynnol gosod y Gorchymyn drafft gerbron dau Dŷ Senedd y DU. Mae hyn yn debyg i'r mecanwaith y darperir ar ei gyfer yn adran 150 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2007, sy'n galluogi'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sydd y tu hwnt i gymhwysedd Senedd Cymru, o ganlyniad i ddeddfwriaeth a wnaed gan Senedd Cymru neu Weinidogion Cymru.

Bydd y Gorchymyn yn gwneud darpariaeth yn sgil Deddf Addysg (Yr Alban) 2025 (Deddf 2025). Bydd y Ddeddf yn sefydlu ac yn rhoi swyddogaethau i Qualifications Scotland, corff cymwysterau newydd i ddisodli Awdurdod Cymwysterau'r Alban (SQA), ac yn sefydlu a rhoi swyddogaethau i Brif Arolygydd Addysg Ei Fawrhydi yn yr Alban. Gellir gweld copi o'r Gorchymyn a'r memorandwm esboniadol cysylltiedig yn y ddolen ganlynol:

https://www.legislation.gov.uk/ukdsi/2025/9780348276053/contents

Bydd y Gorchymyn yn cyflawni tri pheth: 

Yn gyntaf, bydd yn gwneud darpariaeth sy'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny sydd gan Qualifications Scotland y caniateir eu harfer heblaw yn yr Alban neu mewn perthynas â'r Alban, ac yn diddymu swyddogaethau cysylltiedig yr SQA. 

Yn ail, mae'n gwneud diwygiadau cyfyngedig i ddeddfwriaeth sylfaenol, a nifer o ddiwygiadau i is-ddeddfwriaeth, mewn meysydd a gadwyd yn ôl ac yng nghyfraith Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. I raddau helaeth, diweddaru cyfeiriadau statudol y mae'r diwygiadau hyn, gyda'r nod o sicrhau y bydd y gyfraith bresennol sy'n cyfeirio at yr SQA yn cyfeirio at Qualifications Scotland. 

Yn drydydd, bydd y Gorchymyn yn darparu bod y Prif Arolygydd i'w drin fel deiliad swydd anweinidogol yng Ngweinyddiaeth yr Alban i gefnogi'r model gweithredu ar gyfer yr arolygiaeth addysg newydd yn yr Alban.

Amlinellir rhagor o fanylion am y Gorchymyn yn y memorandwm esboniadol. 

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon ar ddatblygu'r Gorchymyn. Bydd y Gorchymyn yn diwygio nifer o offerynnau statudol Cymreig i ddiweddaru cyfeiriadau statudol a sicrhau eu bod yn adlewyrchu'r newidiadau i gyfraith yr Alban. Bydd hyn yn cynnwys diwygio fersiynau Cymraeg y ddeddfwriaeth berthnasol. Rydym yn fodlon bod y diwygiadau yn ganlyniadol ac yn angenrheidiol.