Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies wedi cyhoeddi y bydd Cymru Gyfan yn Barth dan Gyfyngiadau (RZ) oherwydd seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3) o 10 Tachwedd 2025.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae polisi rheoli Tafod Glas Llywodraeth Cymru, gyda diweddariadau rheolaidd iddo ar sail tystiolaeth i'w gryfhau, wedi cadw'r Tafod Glas rhag lledaenu o'r Parth dan Gyfyngiadau yn Lloegr gyfan tan yr adeg o'r flwyddyn pan na fydd yn debygol o ledaenu'n eang nac yn cael effaith fawr. Mae'r polisi wedi rhoi amser hefyd i ffermwyr frechu eu da byw a pharatoi ar gyfer ymddangosiad y clefyd yng Nghymru.

Mae ceidwaid anifeiliaid yn parhau i gael eu hannog i siarad â'u milfeddygon am frechu rhag BTV-3 - er mwyn amddiffyn da byw a'u bywoliaethau.

Hyd yma, mae un ar ddeg o achosion o BTV-3 wedi'u cadarnhau yng Nghymru, pedwar ym Mhowys a saith yn y Parth Rheoli Dros Dro yn Sir Fynwy. Mae'n debygol y bydd nifer yr achosion o'r Tafod Glas yn cynyddu wrth i ni barhau i gadw golwg ar y sefyllfa.

Mae'r parth dan gyfyngiadau'n yn ymwneud â BTV-3 yn unig. Efallai y bydd angen cyflwyno mesurau rheoli os ceir achosion positif o seroteipiau newydd y Tafod Glas yn y dyfodol.

Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog: 

Mae'n polisi wedi llwyddo hyd yma, diolch i waith caled partneriaid gan gynnwys yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a Sefydliad Pirbright ac i gydweithrediad ac ewyllys da y sector da byw.

Rwy'n sylweddoli bod y cyfyngiadau ar symud da byw a sefydlu'r Parth Rheoli Dros Dro (TCZ) wedi tarfu ar geidwaid da byw a'r diwydiant ehangach. Rwyf wedi cwrdd â'r sectorau da byw a milfeddygol yn rheolaidd, mewn cyfarfodydd ford gron, ac wedi gwrando ar eu hymateb i'r heriau y mae'r cyfyngiadau ar symud da byw rhwng Cymru a Lloegr ac effeithiau posibl y Tafod Glas ar iechyd a lles anifeiliaid, wedi'u creu. 

Yn dilyn y trafodaethau hynny, ac yn unol â'm hymrwymiad i adolygu'r sefyllfa ar sail tystiolaeth newydd a thystiolaeth sy'n dod i'r amlwg, rwyf wedi ystyried ein polisi Tafod Glas yng Nghymru ar gyfer gweddill 2025 a thu hwnt.

O gofio bod firws y Tafod Glas wedi cyrraedd Cymru, a bod data hanesyddol am y tymheredd a gwaith modelu yn awgrymu ei bod yn annhebygol iawn y bydd gwybed yn lledaenu firws y Tafod Glas yng Nghymru ar ôl 10 Tachwedd, bydd y Parth dan Gyfyngiadau yng Nghymru'n dechrau ar y diwrnod hwnnw.

Dyma fydd effeithiau datgan Parth dan Gyfyngiadau:

  • Diddymu'r Parth Rheoli Dros Dro (TCZ) - bydd y TCZ presennol a'r amodau cysylltiedig yn cael eu dileu, gan symleiddio'r mesurau i reoli'r clefyd ledled Cymru;
  • Dileu'r cyfyngiadau ar lefel safle - ni fydd cyfyngiadau symud neu reoli sy'n benodol i'r Tafod Glas ar safleoedd unigol yng Nghymru bellach;
  • Dim rhagor o ddifa na chyfyngiadau – ni chaiff anifeiliaid heintiedig eu difa ac ni chaiff rhagor o gyfyngiadau eu gosod oherwydd seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3) yng Nghymru;
  • Dim cyfyngiadau ar symud da byw - ni fydd gorfodaeth bellach i frechu da byw sy'n cael eu symud rhwng Cymru a Lloegr rhag y Tafod Glas na chymryd mesurau lliniaru eraill. Bydd hynny'n hwyluso'r fasnach a logisteg. Mae brechu yn dal i gael ei argymell, gan gynnwys ar gyfer da byw sy'n symud i bori yn Lloegr dros y Gaeaf;
  • Gwyliadwriaeth barhaus a bod yn barod - bydd monitro rheolaidd yn parhau, er mwyn canfod unrhyw seroteipiau newydd o'r Tafod Glas a chefnogi ymdrechion i adennill statws di-glefyd yn y dyfodol. Efallai y bydd angen mesurau rheoli ar gyfer seroteipiau eraill y Tafod Glas;
  • Cyfyngiadau'n parhau ar gynhyrchion  cenhedlu - parheir i gynnal profion ar anifeiliaid sy'n darparu cynhyrchion cenhedlu cyn rhewi a marchnata'r cynhyrchion hynny i sicrhau ansawdd a lleihau'r risg o drosglwyddo'r Tafod Glas yn y tymor hwy;
  • Newidiadau i symudiadau da byw i'r Alban - bydd anifeiliaid sy'n cael eu symud o Barth dan Gyfyngiadau Cymru i'r Alban yn gorfod bodloni rheolau Llywodraeth yr Alban ar drwyddedu a phrofion symud.

Yn y cyfarfod ford gron gyda'r Dirprwy Brif Weinidog ar 27 Hydref, roedd cynrychiolwyr y diwydiant yn unfrydol eu cefnogaeth i sefydlu Parth dan Gyfyngiadau yng Nghymru gyfan. Gwnaethon nhw gadarnhau bod cael symud da byw rhwng Cymru a Lloegr yn angenrheidiol i'r diwydiant a'u bod gyda'i gilydd yn derbyn bod cynnydd yn y risg o'r Tafod Glas yng Nghymru a phroblemau posibl o ran iechyd a lles anifeiliaid, gan gynnwys effeithiau'r polisi ar ffrwythlondeb ac ar gynhyrchiant.

Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Richard Irvine: 

Rydyn ni'n parhau i annog ceidwaid da byw i fod yn ofalus wrth brynu stoc, i gadw golwg am arwyddion y Tafod Glas ac i roi gwybod ar unwaith i APHA os ydyn nhw'n amau bod achos o'r clefyd.

Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn da byw a bywoliaethau rhag effeithiau gwaethaf y Tafod Glas, a all gynnwys salwch yn y da byw yr effeithir arnynt ac effeithiau tymor hwy ar ffrwythlondeb a chynhyrchiant. Mae'n bwysicach nag erioed i fod yn barod. Gyda chefnogaeth lawn y diwydiant, rwy'n annog ceidwaid anifeiliaid yn gryf i drafod rôl ac amseriad brechu eu buchesi a'u diadellau rhag y Tafod Glas gyda'u milfeddygon, yn enwedig cyn cyfnod nesaf trosglwyddo'r clefyd, yng ngwanwyn 2026.

Meddai'r Dirprwy Brif Weinidog: 

Wrth i ni symud tua'r dyfodol, mae cydweithredu rhwng ffermwyr, milfeddygon, Llywodraeth Cymru a phartneriaid cyflenwi yn parhau i fod yn hanfodol i leihau effaith hirdymor y Tafod Glas yng Nghymru.