Dyma brosiect Cronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur ar Fferm Tŷ Mawr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy'n adfer cynefinoedd, gwella bioamrywiaeth, a chysylltu pobl â natur trwy weithio mewn partneriaeth ac arloesedd.
Manylion allweddol
- Lleoliad: Fferm Tŷ Mawr, Dyffryn Tarrell, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Math o Brosiect Adfer cynefinoedd ar raddfa tirwedd ac ymgysylltu â'r gymuned
- Partneriaid: Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Partneriaeth Natur Leol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Plantlife Cymru, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru, eraill
- Cyllid: £246,463 o Gronfa Her Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru (2023–25)
Amcanion
- Adfer ac ailgysylltu cynefinoedd naturiol (coetir, glaswelltir, afonydd, mawndir)
- Datblygu cyfleusterau dysgu a chyfleusterau i ymwelwyr (ysgubor, ystafell ddosbarth, gwell mynediad)
- Creu safle arddangos ar gyfer adfer natur ac amaethyddiaeth adfywiol
- Ymgysylltu â chymunedau, ysgolion a gwirfoddolwyr mewn gweithgareddau sy'n seiliedig ar natur
Allbynnau ac effaith
- Adfer Cynefinoedd:
- Coetir newydd 14 hectar, gweirglodd /porfa 6 hectar sy'n gyfoethog eu rhywogaethau, coetir glannau afon, adfer gwrychoedd
- Adfer Afon Tarrell (strwythurau pren mawr, ailgysylltu gorlifdir)
- Sefydlu migwyn a meithrinfa goed
- Adfer mawndir a glaswelltir, cyfleuster cynaeafu a sychu hadau
- Ymgysylltu â'r Gymuned:
- Digwyddiad Bioblitz, grŵp llywio, ysgolion a gwirfoddolwyr yn cymryd rhan.
- Ystafell ddosbarth newydd a gwell mynediad i ymwelwyr
- Safle arddangos ar gyfer partneriaid cenedlaethol a rhyngwladol
- Bioamrywiaeth:
- 4075 o rywogaethau wedi eu cofnodi yn Nyffryn Tarrell, 167 yn Nhŷ Mawr, 47 o rywogaethau â blaenoriaeth Adran 7 (gweler yr atodiad i gael y rhestr lawn)
- Mwy o infertebratau, blodau gwyllt, a rhywogaethau dangosol ar gyfer cynefinoedd iach
Manteision
- Cymdeithasol: Mynediad cymunedol i natur, dysgu a lles
- Amgylcheddol: Adferiad bioamrywiaeth ar raddfa tirwedd, gwydnwch hinsawdd, storio carbon
- Economaidd: Datblygu sgiliau, arddangos ffermio a rheoli tir cynaliadwy.
- Partneriaeth: Model cydweithredol cryf ar gyfer prosiectau yn y dyfodol
Dyfyniadau
"Mae'r prosiect wedi dangos gwerth gweithio ar y cyd, gan ddenu partneriaid a rhanddeiliaid i gyflawni cymaint mwy na'r hyn sydd wedi'i ariannu'n uniongyrchol drwy'r grant."
"Mae gwelliannau ffisegol, sy'n cefnogi adferiad natur, eisoes yn amlwg, a bydd y rhain ynddynt eu hunain yn gwneud cyfraniad sylweddol at wydnwch ecolegol y dyffryn."
Gwaddol a'r camau nesaf
- Monitro parhaus, adfer afonydd ymhellach, a gweithgareddau ymgysylltu â'r gymuned wedi'i gynllunio trwy 2026
- Parhau i weithio mewn partneriaeth, rhannu dysgu, a chynyddu adferiad natur ar draws y Parc Cenedlaethol a thu hwnt
