Prosiect Lleoedd Lleol ar gyfer Natur dan arweiniad Sefydliad y Merched Llanafan, sy'n trawsnewid ardal nad yw'n cael ei ddefnyddio yn ardd a man cymunedol sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt yng nghefn gwlad Ceredigion.
Manylion allweddol
- Lleoliad: Llanafan, Ceredigion
- Math o Brosiect Gardd Bywyd Gwyllt
- Grŵp: Sefydliad y Merched (WI) Llanafan (15 aelod, garddio llesol, grwpiau llyfrau a cherdded)
Mynegai amddifadedd
• Mynediad at Wasanaethau 10% mwyaf difreintiedig
• Yn gyffredinol: 50% lleiaf difreintiedig
Y gymuned yn cymryd rhan
- 40 gwirfoddolwr, 621 awr o wirfoddoli
- Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth, myfyrwyr, aelodau WI, teuluoedd lleol
- Grisiau a llwybrau wedi'u gosod er mwyn hygyrchedd
Allbynnau
- Disgwylir i 50 o bobl ddefnyddio'r ardd
- Ardal wedi'i chlirio o rywogaethau goresgynnol, bellach yn ddôl wair a glaswelltir sy'n gyfoethog eu rhywogaethau
- Gwell mynediad i blant, yr henoed a'r rhai sydd â phroblemau symudedd
Manteision
- Cymdeithasol: Prosiect cymunedol go iawn, yn dod â phobl at ei gilydd
- Diwylliannol Meithrin balchder ac ymdeimlad o berchnogaeth
- Economaidd: Gwybodaeth a sgiliau a rennir ar gyfer prosiectau yn y dyfodol
- Iechyd: Gwell lles i bobl a bywyd gwyllt
- Manteision annisgwyl: Pren wedi'i ailddefnyddio ar gyfer gwrychoedd/ffensys, llwybrau wedi'u gwella
Dyfyniad
"Oherwydd ei maint a'i lethrau serth, mae'r rhan fwyaf o ardd WI Cottage wedi'i gadael ers blynyddoedd lawer. Nawr, gyda chymorth tîm Cadwch Gymru'n Daclus, Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth ac aelodau a chyfeillion y WI, ein nod yw ei gwneud yn hafan i fywyd gwyllt y gall y gymuned gyfan ei fwynhau."
Adelle Robinson, WI Llanafan
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
- Cydweithio ag Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru ar gynllun 'Mabwysiadu Llednant'
- Defnydd parhaus ar gyfer cyfarfodydd WI, boreau coffi, a digwyddiadau
- Chwilio am gyllid ar gyfer partneriaeth barhaus gyda Gwirfoddolwyr Cadwraeth Aberystwyth
