Adolygu i ba raddau y mae'r dyletswyddau yn y Cod Ymarfer Awtistiaeth yn cael eu bodloni.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth
Nod y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Awtistiaeth yw sicrhau bod anghenion plant, pobl ifanc ac oedolion ag awtistiaeth yn cael eu deall a'u bod yn cael eu cefnogi i fyw bywydau boddhaus. Mae'r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth yn nodi'r hyn y gall pobl awtistig, eu teulu a'u gofalwyr ei ddisgwyl gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Cynhaliwyd gwerthusiad o'r Cod i adolygu'r graddau y mae'r dyletswyddau yn y Cod yn cael eu cyflawni ac i ddatblygu argymhellion ar gyfer gwella wrth gyflawni'r dyletswyddau.
Mae'r gwerthusiad wedi'i strwythuro mewn dau gam. Dyma'r ail gam, sy’n barnu i ba raddau mae'r dyletswyddau yn y Cod yn cael eu cyflawni gan wasanaethau awtistiaeth, gan gynnwys y camau a gymerwyd i fynd i'r afael ag argymhellion y cam cyntaf. Mae hefyd yn adolygu profiad defnyddwyr gwasanaeth.
Mae'r adroddiad yn nodi cydymffurfiaeth â rhai dyletswyddau yn y Cod a lle mae hyn wedi gwella ers cam cyntaf y gwerthusiad. Mae'r adroddiad yn nodi'r angen am welliant o ran cydymffurfio â dyletswyddau eraill yn y Cod a lle mae angen rhagor o wybodaeth i asesu cydymffurfiaeth. Mae'r adroddiad yn nodi galluogwyr a rhwystrau ehangach sydd wedi helpu neu lesteirio cydymffurfiaeth.
Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion i bob awdurdod lleol a bwrdd iechyd lleol I wneud gwelliannau o ran cyflawni dyletswyddau'r Cod. Mae'r adroddiad hefyd yn darparu argymhellion i Lywodraeth Cymru ar y Cod Ymarfer Niwrowahaniaeth arfaethedig.
Adroddiadau
Gwerthusiad o'r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth: cam dau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Gwerthusiad o'r Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth: cam dau (crynodeb) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 447 KB
Cyswllt
Christopher Eaton
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
