Cyfle newydd i feithrin gallu, tyfu talent, a chryfhau rhagoriaeth caffael a masnachol ledled Cymru.
Pam dewis y Brentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol?
Cymwysterau a Gydnabyddir yn Genedlaethol
Mae prentisiaid yn ennill cymwysterau achrededig y CIPS ar Lefel 3 (Tystysgrif Caffael Uwch) neu Lefel 4 (Diploma mewn Caffael a Chyflenwi), ynghyd â chymwysterau cymhwysedd annibynnol ychwanegol (NVQ) sy'n cyd-fynd yn agos â safonau CIPS.
Mae'r rhaglen wedi'i datblygu yn unol â safonau'r diwydiant a blaenoriaethau'r sector.
Darganfyddwch fwy am lwybrau fframwaith prentisiaethau yma.
Dysgu seiliedig ar waith
Mae prentisiaid yn cael sgiliau ymarferol trwy weithio ar brosiectau go iawn o'r diwrnod cyntaf, gan ddefnyddio gwybodaeth ystafell ddosbarth yn uniongyrchol yn y gweithle. Mae'r dull hwn yn magu hyder, yn cyflymu datblygiad, ac yn sicrhau bod pob prentis yn barod i gael effaith gan roi gweithlu medrus a brwdfrydig i gyflogwyr.
Mae prentisiaid yn cyfuno profiad ymarferol yn y swydd â dysgu ffurfiol, gan dreulio 20% o'u hamser ar hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith.
Mynediad hyblyg
P'un a ydych chi'n dechrau neu'n uwchsgilio, mae'r brentisiaeth hon ar eich cyfer chi.
Mae Darparwyr Hyfforddiant Prentisiaethau Cymru yn cynnig modelau cyflwyno gwahanol i weddu i anghenion eich sefydliad.
Dewis gyrfa broffesiynol
Mae caffael yn hanfodol i lwyddiant pob sefydliad. Mae'r brentisiaeth hon yn rhoi unigolion ar lwybr i broffesiwn uchel ei barch, gyda chymwysterau cydnabyddedig a'r cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae’n ddelfrydol ar gyfer prentisiaid uchelgeisiol a chyflogwyr blaengar.
Dilyniant gyrfa
Gyda phrofiad ymarferol a chymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant, bydd prentisiaid yn barod i ymgymryd â swyddi fel Swyddog Caffael, Rheolwr Categori, neu Arweinydd Masnachol. Mae'r brentisiaeth yn ddechrau taith yrfa i swyddi masnachol uwch a thwf gyrfa hirdymor.
Cymorth i gyflogwyr
Canllawiau ar recriwtio, mynediad at gyllid ar gyfer y costau hyfforddi, a mentora, ynghyd â'r gallu i deilwra'r brentisiaeth i anghenion eich sefydliad.
Mae'r darparwyr Hyfforddiant Prentisiaethau ar gael i gefnogi cyflogwyr ar eu taith recriwtio prentisiaethau.
Buddion
Buddion i gyflogwyr
- Datblygu gweithlu medrus, ffyddlon
- Ymgorffori arferion gorau mewn caffael
- Cyrchu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer costau hyfforddi
- Dylanwadu ar gynnwys y rhaglen i gyd-fynd ag amcanion busnes
- Cefnogaeth gan ddarparwyr hyfforddiant cymeradwy drwy gydol y broses
Buddion i brentisiaid
- Ennill arian tra byddwch chi'n dysgu
- Cael cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol
- Meithrin rhwydwaith proffesiynol
- Agor drysau i yrfa broffesiynol ddeinamig â galw amdani
- Llwybrau dilyniant clir a chefnogaeth ar gyfer datblygiad pellach
Sut i gymryd rhan
Ar gyfer cyflogwyr
- Cofrestrwch eich diddordeb a darganfyddwch fwy gan y darparwyr hyfforddiant prentisiaethau cymeradwy.
- Gallwch deilwra’r brentisiaeth i weddu i anghenion eich sefydliad.
Ar gyfer prentisiaid
- Chwiliwch a gwneud cais ar-lein drwy Borth Prentisiaethau Llywodraeth Cymru.
- Dewch o hyd i gyflogwr neu uwchsgilio gyda'ch cyflogwr presennol.
- Archwiliwch lwybrau gyrfa a chyfleoedd dilyniant.
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer Cyflogwyr
Mae'r ddogfen Cwestiynau Cyffredin hon yn ateb eich holl gwestiynau allweddol am Brentisiaeth Caffael a Chyflenwi Masnachol Llywodraeth Cymru.
Yn barod i gymryd y cam nesaf?
Darllenwch y Cwestiynau Cyffredin llawn am arweiniad clir, ymarferol a dolenni i ragor o wybodaeth, gan gynnwys darparwyr hyfforddiant a manylion cymwysterau.
