Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg
Heddiw, mae Cyllideb Ddrafft Fanwl Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27 yn cael ei chyhoeddi. Mae'r Gyllideb hon yn buddsoddi dros £27bn yng Nghymru, sef £22.3bn o gyllid adnoddau, £3.6bn o gyllid cyfalaf ac £1.2bn o gyllid ardrethi annomestig i lywodraeth leol. Mae'n darparu mwy nag £800m o gyllid ychwanegol i adrannau Llywodraeth Cymru.
Wrth bennu'r cynlluniau gwario drafft hyn, mae'r Cabinet wedi adeiladu ar sylfeini 2025-26, pan gafodd Cyllideb Cymru gynnydd sylweddol mewn cyllid adnoddau a chyfalaf. Mae'r dyraniadau hyn wedi'u trosglwyddo ymlaen a chynyddwyd dyraniadau'r adrannau yn unol â'r rhagolygon chwyddiant yng ngham cyntaf y Gyllideb Ddrafft.
Mae pob un o Ysgrifenyddion y Cabinet wedi gwneud penderfyniadau ynghylch sut y mae'r cynnydd chwyddiannol yn cael ei ddyrannu o fewn eu portffolios eu hunain. Mae Adroddiad y Gyllideb Ddrafft Fanwl yn esbonio'r penderfyniadau hynny, ac mae tablau manwl sy'n dangos y Llinellau Gwariant yn y Gyllideb (BEL) ar gyfer pob portffolio yn cael eu cyhoeddi heddiw hefyd.
Mae holl ddogfennau'r Gyllideb Ddrafft Fanwl ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
- Adroddiad y Gyllideb Ddrafft Fanwl 2026-27
- Tablau sy'n ategu'r cynlluniau gwario
- Llinellau gwariant yn y gyllideb
Mae'r dogfennau ategol canlynol hefyd yn cael eu cyhoeddi heddiw:
- Asesiad Effaith Integredig Strategol – Asesiad Interim
- Dadansoddiad Dosbarthiadol o Wariant Cyhoeddus Datganoledig yng Nghymru 2026-2027
- Cynllun Cyllid Seilwaith 2026 i 2027
- Costau gweithredu deddfwriaeth
- Ymgynghoriad ar gynigion deddfwriaethol mewn perthynas â Deddfau Trethi Cymru
- Cyllidebu ar Sail Rhywedd ar Waith - Dysgu o Gynlluniau Peilot yng Nghymru (2019–2024)
