Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, mae ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio ar gynigion deddfwriaethol i ddiwygio Deddfau Trethi Cymru:

  • Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016
  • Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017
  • Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017   

Mae’r newidiadau arfaethedig yn dechnegol eu natur a’u diben yw rhoi mwy o eglurder i’n deddfwriaeth trethi datganoledig, ei gwella a’i diogelu at y dyfodol. Cynlluniwyd y newidiadau hefyd gyda’r bwriad o gefnogi’r ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yn ehangach yng Nghymru. Os bydd y Llywodraeth Cymru newydd yn dymuno mynd â’r newidiadau hyn ymhellach eto, gellid cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ddechrau tymor y Senedd nesaf. Mae’r cynigion hyn yn nodi’r cam nesaf ar y daith datganoli cyllidol yng Nghymru ac maent yn arwydd o aeddfedrwydd cynyddol system dreth Cymru. 

Cynhelir yr ymgynghoriad hwn ar y cyd gan Awdurdod Cyllid Cymru a Llywodraeth Cymru. Gofynnir am farn y cyhoedd, cyfreithwyr, cynghorwyr treth a chyrff cynrychioliadol ar wahanol newidiadau, technegol eu natur ar y cyfan, i Ddeddfau Trethi Cymru. Mae’r newidiadau hyn wedi cael eu nodi ar sail saith mlynedd o brofiad gweithredol Awdurdod Cyllid Cymru o gasglu a rheoli trethi datganoledig, yn ogystal ag adborth gan y diwydiant, partneriaid y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac mewn ymateb i newidiadau i ddeddfwriaeth berthnasol y DU. 

Gall rhai o’r newidiadau yn yr ymgynghoriad hwn gael eu gwneud drwy reoliadau. Fodd bynnag, rydym yn dod â’r holl gynigion ynghyd i ffurfio yr hyn a fyddai’n dod yn fil cynnal trethi cyntaf Cymru. 

Lansiwyd ymgynghoriad ar wahân yn ddiweddar hefyd, a oedd yn ymchwilio i’r broses ar gyfer gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth trethi datganoledig yn y dyfodol. Mae’r cynigion hyn yn ceisio sicrhau y gellir diweddaru cyfraith trethi yn effeithlon pan fydd angen, yn enwedig mewn ymateb i weithgareddau osgoi trethi neu newidiadau i drethi tebyg y DU. 

Byddai’r newidiadau a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn ei gwneud yn bosibl i Awdurdod Cyllid Cymru barhau i reoli trethi Cymru mor effeithiol â phosibl, gan adeiladu ar dros £2 biliwn mewn refeniw trethi datganoledig a gasglwyd ers 2018 sydd wedi ei ailfuddsoddi gan Lywodraeth Cymru mewn gwasanaethau fel GIG Cymru a’n hysgolion.

Daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar 26 Ionawr 2026. Bydd ystyriaeth lawn yn cael ei rhoi i’r ymatebion fel sail ar gyfer y camau nesaf ac i gefnogi datblygiad polisi pellach. Mater i’r Llywodraeth Cymru nesaf fydd penderfynu a ddylid rhoi effaith i’r cynigion hyn drwy ddeddfwriaeth sylfaenol newydd, yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.