Julie James AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni
Heddiw, mae Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) a’i Femorandwm Esboniadol cysylltiedig wedi’u gosod gerbron y Senedd.
Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ceisio adeiladu sylfeini cryfach ar gyfer democratiaeth Cymru drwy roi’r sancsiwn cyfansoddiadol terfynol i bleidleiswyr i ddiswyddo Aelodau o’r Senedd sy’n torri rheolau ymddygiad yn ddifrifol yn ystod tymor y Senedd.
Mae’r Bil yn sefydlu system adalw ar gyfer Aelodau’r Senedd sy’n seiliedig ar ddau ddigwyddiad sbardun. Y cyntaf yw pan fo Aelod yn cael ei euogfarnu ac yn cael dedfryd o garchar (gan gynnwys dedfrydau wedi’u gohirio), a’r ail ddigwyddiad yw pan fo achos o gamymddwyn difrifol fel y’i pennir gan y Senedd yn dilyn argymhelliad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad.
Mae’r Bil yn cryfhau proses safonau’r Senedd drwy ei gwneud yn ofynnol i bob Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a all gynnwys aelodau lleyg annibynnol. Byddai’r Comisiynydd Safonau hefyd yn cael pwerau ychwanegol i ymchwilio i bryderon am ymddygiad Aelodau.
At hynny, bydd y Bil yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gynnwys darpariaethau sy’n gwahardd datganiadau anwir mewn Gorchmynion Cynnal Etholiadau yn y dyfodol sy’n ymwneud â threfniadau llywodraethiant etholiadau i’r Senedd.
Ar ôl cyhoeddi’r Bil drafft ym mis Hydref, mae’r broses gyflwyno ffurfiol hon yn nodi dechrau’r broses graffu ddeddfwriaethol. Byddaf yn rhoi datganiad llafar i’r Senedd yfory ac edrychaf ymlaen at weithio’n adeiladol gyda holl Aelodau’r Senedd wrth inni fwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth bwysig hon.
Mae’r Bil a’r dogfennau ategol ar gael ar wefan y Senedd.
