Neidio i'r prif gynnwy

Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes cryf o helpu unigolion i fuddsoddi yn eu dyfodol, a sicrhau bod pawb, waeth beth fo'u cefndir, yn gallu dysgu drwy gydol eu bywydau. Fy mlaenoriaeth yw helpu mwy o bobl i gymryd rhan mewn addysg drydyddol, gan ganolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau a fydd eu hangen ar gyfer dyfodol ein heconomi. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ers tro na ddylai costau byw fod yn rhwystr i fynd i'r Brifysgol ac mae'n cynyddu cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr bob blwyddyn. Bydd y cymorth yn cynyddu eto ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. Rwy'n arbennig o falch y bydd grantiau cynhaliaeth yn cynyddu am y tro cyntaf ers 2018. Bydd pob myfyriwr cymwys yn gweld ei grant yn cynyddu 2.0%, fel rhan o gynnydd cyffredinol o 2.0% i gymorth cynhaliaeth. Mae'r cynnydd hwn, sy'n gysylltiedig â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr, yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i gynnig y cymorth mwyaf hael tuag gostau byw yn y DU i fyfyrwyr israddedig amser llawn. Bydd pob myfyriwr israddedig amser llawn a rhan-amser newydd a'r rhai sy'n dychwelyd yn cael y cynnydd hwn. Bydd y cymorth ar gyfer astudiaethau meistr a doethurol ôl-raddedig hefyd yn cynyddu 2.0%. 

Rwy'n ymwybodol o'r heriau ariannol sy'n wynebu'r sector addysg uwch yng Nghymru ac rwyf wedi ymrwymo i'w helpu i reoli'r heriau hyn. Mae sefydliadau cryf yn hanfodol i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer addysg ac ymchwil, ac i sbarduno twf economaidd.

Bydd Llywodraeth y DU yn cynyddu'r ffioedd dysgu a allai gael eu codi yn Lloegr yn 2026/27 ac yn 2027/28. Cynyddodd Llywodraeth Cymru y cap ar ffioedd dysgu yn 2024/25 ac eto yn 2025/26 i gyd-fynd â'r capiau yn Lloegr. Rwy'n credu bod yr un cynnydd i'r capiau ar ffioedd dysgu a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn briodol i Gymru – nid yw'r cyfnod o bwysau ariannol ar y sector yng Nghymru wedi dod i ben. 

Rwy'n cynnig cynyddu'r cap ar ffioedd i'r un gwerth a fydd yn cael ei gymhwyso yn Lloegr ar gyfer 2026/27, yn amodol ar y broses reoleiddio arferol. Bydd y cap hwn yn berthnasol i unrhyw fyfyriwr cymwys sy'n astudio yng Nghymru, nid dim ond i fyfyrwyr o Gymru. Bydd y benthyciad ffioedd dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr o Gymru yn cynyddu yn unol â hynny. Byddaf yn cadarnhau union swm y cap uwch ar ffioedd dysgu unwaith y ceir eglurder ynghylch y sefyllfa yn Lloegr.

Rwy'n cydnabod pwysigrwydd addysg uwch ran-amser wrth gefnogi'r economi a chreu gweithlu mwy amrywiol, profiadol a medrus. Mae astudio'n rhan-amser wedi bod yn llwyddiant ysgubol yng Nghymru, gyda chynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr. Er mwyn sicrhau bod astudio'n rhan-amser yn parhau i fod yn hygyrch ac yn gynaliadwy, rwy'n cyflwyno cynnydd o £250 yn uchafswm y benthyciad ffioedd dysgu sydd ar gael i fyfyrwyr rhan-amser ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27.

Mae'r newidiadau hyn yn helpu'r sector ar adeg anodd yn ei hanes. Mae'n nodi'r trydydd cynnydd blynyddol yn olynol yn y capiau ar ffioedd dysgu amser llawn, gan ddarparu refeniw sylweddol i'r sector. Fe wnes i hefyd roi £38.5 miliwn yn ychwanegol mewn grantiau i Medr yn 2024/25 i gynyddu ei gymorth ar gyfer addysg bellach ac uwch yng Nghymru.

Rwyf am fod yn glir na ddylai cynnydd mewn ffioedd dysgu atal unrhyw un yng Nghymru rhag gwneud cais i'r brifysgol. Nid ydynt yn effeithio ar y costau prifysgol y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu talu ymlaen llaw, nac yn cynyddu ad-daliadau benthyciadau misol ar ôl graddio. Dylai myfyrwyr siarad â'u darparwr addysg uwch os oes ganddynt gwestiynau am ffioedd. 

Mae'r buddsoddiad parhaus hwn yn sector addysg uwch Cymru yn adlewyrchu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu sefydliadau wrth iddynt fynd i'r afael â chostau cynyddol, gan ddiogelu'r ddarpariaeth a'r profiad i fyfyrwyr. Mae addysg uwch yn parhau i fod yn allweddol i uchelgeisiau'r Llywodraeth hon.