Stori Gabi
Mae Gabi yn cyfuno gwerthoedd eco â brwdfrydedd coginio, gan ragori drwy brentisiaeth coginio gynaliadwy.
Ers ei harddegau cynnar, mae Gabrielle Wilson, sy'n ugain oed, wedi datblygu ethos amgylcheddol cadarn, gan gredu'n gryf y gall newidiadau bach yn y ffordd rydym yn byw ein bywydau bob dydd wneud gwahaniaeth mawr i'n dyfodol.
Nid oedd wedi meddwl y byddai'n gallu cyfuno hyn â'i chariad at goginio, nes iddi lanio swydd ei breuddwydion.
Fe wnaeth Gabi, sy'n byw yn Rhaeadr Gwy, ddechrau ei hyfforddiant gyda chymwysterau City and Guilds Lefel 1 a Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol, cyn symud ymlaen i gymwysterau City and Guilds Lefel 1 a Lefel 2 mewn Gwasanaethau Gwesty a Bar yng Ngrŵp Colegau NPTC yn y Drenewydd.
Pan ymwelodd y cogydd Jamie Tully â'r coleg, fe wnaeth ei ddawn gyda chynhwysion a blasau ennyn diddordeb Gabi a'i rhoi ar drywydd menter newydd – prentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol. Dyma ddechrau taith a fyddai'n arwain Gabi i uchelfannau newydd.
Dywedodd:
"Mae brwdfrydedd Jamie Tully am y diwydiant bwyd yn heintus. Roeddwn i newydd gwblhau fy set gyntaf o gymwysterau ac felly pan welais gyfle i fod yn brentis iddo, neidiais ar y cyfle."
Gweithiodd Gabi ochr yn ochr â Jamie Tully yn The Chartists 1770 yn The Trewythin, gwesty a bwyty pedair seren sy'n eiddo i Cambrian Training.
Yn ystod ei phrentisiaeth, aeth Gabi â'i hyfforddiant i lefel arall. Cafodd ei hannog i gymryd rhan yng Nghystadlaethau WorldSkills UK gan ei choleg. Ar ôl cael canmoliaeth uchel yn y Rowndiau Terfynol Cenedlaethol yn 2023, cafodd le yn Nhîm y DU ar gyfer EuroSkills Herning 2025.
Wrth weithio gyda Jamie Tully rhwng cystadlaethau WorldSkills, fe wnaeth annog Gabi i gymryd rhan ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru 2024 a hi oedd enillydd cyntaf erioed Her y Cogydd Gwyrdd.
Pan ddaeth ei phrentisiaeth i ben, dechreuodd Gabi chwilio am ei hantur nesaf a dod o hyd iddi mewn bwyty o'r enw Chapters.
Dyma lle wnaeth gyfuno ei diddordebau yn y ffordd orau bosibl.
Mae Chapters, yn y Gelli Gandryll, yn fwyty Seren Werdd Michelin sy'n cael ei gydnabod am ei ymrwymiad i arferion cynaliadwy. Lle gwell i enillydd cyntaf erioed Her y Cogydd Gwyrdd fireinio ei sgiliau?
Ychwanegodd Gabi:
"Mae'r cogydd a'r cyd-berchennog Mark McHugo wedi dysgu cymaint i mi. Rwy'n dysgu rhywbeth newydd bob dydd.
"Yn ei farn ef, nid yw dod â chynaliadwyedd i'r diwydiant bwyd yn rhywbeth dirgel. Mae'n ffordd o fyw. Mae'n defnyddio pob rhan o bob cynhwysyn a ddaw i mewn i'r bwyty. Mae hyd yn oed croen ffrwythau a llysiau yn cael eu troi'n driogl rydyn ni'n eu defnyddio fel blas naturiol yn ein prydau sawrus."
Wrth siarad am ei chyfrifoldebau yn Chapters, mae Gabi yn esbonio:
"Mae'n dîm bach, ac felly mae pawb yn gwneud ychydig o bopeth, sy'n amgylchedd hyfforddi gwych - er fy mod i'n ffafrio’r gwaith patisserie a melysion yn y gegin."
Ac mae hynny'n ddealladwy hefyd, gan fod Gabi wedi mynd ymlaen ers hynny i gwblhau Diploma Lefel 3 City and Guilds mewn Patisserie a Melysion yng Ngrŵp Colegau NPTC yn y Drenewydd tra'n parhau i hyfforddi tuag at gynrychioli'r DU yng nghystadleuaeth WorldSkills International yn Shanghai y flwyddyn nesaf.
Mae gan Gabi eiriau doeth i unrhyw un sy'n ystyried prentisiaeth:
"Ewch amdani! Roeddwn i'n ferch mor swil, ond fe wnaeth fy mhrentisiaeth a'r cystadlaethau y gwnes i gymryd rhan ynddyn nhw ddangos i mi nad oes angen teimlo'n ofnus wrth siarad â phobl.
"Hefyd, er fy mod i wedi mwynhau'r coleg - pob munud ohono - mae prentisiaeth yn eich paratoi ar gyfer gweithio yn eich diwydiant dewisol, ond gyda'r rhwyd ddiogelwch o fod mewn hyfforddiant o hyd. Allwch chi ddim methu. Allwch chi ddim gwneud llanast o bethau. Rydych chi'n dysgu, ac mewn ffordd fwy ymarferol na dim ond mewn ystafell ddosbarth."
Mae gan Gabi ddyfodol disglair gydag uchelgeisiau cymedrol a allai helpu i newid y byd:
"Rydw i eisiau aros gyda Mark yn Chapters a dysgu cymaint ag y galla i. Byddwn i wrth fy modd yn cynrychioli'r DU yng nghystadlaethau WorldSkills International yn Shanghai y flwyddyn nesaf.
"Ar ryw adeg rydw i hefyd eisiau teithio'r byd i brofi blasau newydd a ffyrdd newydd o goginio.
"Ond bydda i'n mynd â'r hyfforddiant rwyf wedi’i gael ac arferion a dylanwad amgylcheddol cadarn Mark gyda mi. Rwy'n gobeithio y bydda i'n gallu lledaenu'r neges ein bod ni’n gallu gwneud pethau'n well a gweithio tuag at ddyfodol tecach, un pryd cynaliadwy ar y tro."
Gwnewch rywbeth clyfar - symud ymlaen yn eich gyrfa drwy ddilyn prentisiaeth
P’un a ydych chi’n ceisio gwneud eich ffordd drwy’r byd gwaith, neu’n cymryd camau i newid eich gyrfa, efallai mai prentisiaeth yw’r peth i chi.
