Gweithio gyda’ch Mentor Achrediad: canllaw i amgueddfeydd
Canllawiau ar gyfer amgueddfeydd sy'n gweithio gyda mentoriaid.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Croeso i Gweithio gyda’ch Mentor Achrediad: canllaw i amgueddfeydd. Mae’r canllaw wedi’i gynllunio i’ch helpu i ddeall rôl eich Mentor Achrediad ac mae’n rhoi dolenni i chi at adnoddau a fydd yn eich helpu chi a’ch Mentor Achrediad i weithio gyda’ch gilydd. Dylech ddarllen y canllaw hwn ar y cyd â’r Llawlyfr Mentora Achrediad, canllaw i fentoriaid.
Mae canllawiau llawn yr Achrediad ar gael yn Safon Achredu Amgueddfeydd 2018 a Chanllawiau Ategol 2024 – Achrediad: Sut i gwrdd â’r Safon ar wefan Cyngor Celfyddydau Lloegr.
Mae Achredu Amgueddfeydd yn Safon ar gyfer y DU gyfan. Mae partneriaid o Gyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Amgueddfeydd Gogledd Iwerddon, Orielau Amgueddfeydd yr Alban a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r cynllun ledled y DU, Ynys Manaw ac Ynysoedd y Sianel. Mae pob gwlad yn rheoli’r cynllun ac yn asesu ymgeiswyr yn ei rhanbarth ei hun. Mae ACE yn rheoli Pwyllgor Partneriaeth Achredu’r DU ac yn rhannu’r llwyfan ymgeisio ar-lein, Grantium, â’r pedair gwlad.
Mae’r Safon Achredu wedi’i chynllunio i fod yn gynhwysol ac o ddefnydd i bob math o amgueddfeydd cyhoeddus, o sefydliadau bach sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr i sefydliadau cenedlaethol. Mae’r gofynion wedi’u teilwra i faint a math pob amgueddfa, ac mae gwybodaeth am y gallu i dyfu ar gael ar dudalennau Achredu ACE.
Mae Partneriaeth Achredu’r DU yn diolch i bawb sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi a rhoi hyder i’r amgueddfeydd sy’n cael eu mentora ganddynt, gan eu helpu i gyrraedd a chadw’r Safon Achredu Amgueddfeydd y mae pobl yn ymddiried ynddi ac sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol.
Beth yw Mentor Achrediad?
Er mwyn bodloni’r Safon Achredu, mae’n ofynnol i’r amgueddfeydd hynny nad ydynt yn cyflogi gweithiwr amgueddfaol proffesiynol benodi Mentor Achrediad. Bydd hyn yn sicrhau bod gan y corff llywodraethu fynediad at gyngor proffesiynol ar gyfer amgueddfa.
Mae Mentoriaid Achrediad yn cefnogi amgueddfeydd i ennill a chadw statws Amgueddfa Achrededig drwy ddarparu cyngor proffesiynol annibynnol, gan fod yn wirfoddolwr gyda’r amgueddfa. O’r herwydd, nid yw’n aelod o staff di-dâl, nac ychwaith yn ymddiriedolwr (er y gall ymddiriedolwyr amgueddfeydd sy’n gymwys gyflawni rôl ychwanegol Mentor Achrediad).
Mae rhai rhannau o’r DU yn darparu Mentora Achrediad drwy gronfa o weithwyr proffesiynol amgueddfeydd sydd ag amrywiaeth o brofiad, neu drwy ddarparwyr cymorth i’r sector amgueddfeydd. Ac mae rhai awdurdodau lleol yn darparu Mentora Achrediad i nifer o amgueddfeydd yn eu hardal drwy gynghorwyr o amgueddfeydd sirol neu amgueddfeydd sy’n cael eu rhedeg y cyngor. Byddai’n rhaid i amgueddfa sicrhau bod y cyngor hwn yn cael ei dderbyn yn ffurfiol a bod y corff llywodraethu’n gweithredu arno i gadarnhau ei bod yn bodloni’r Safon.
Pam fod angen Mentor Achrediad ar ein hamgueddfa?
I fodloni Safon 1.3 Iechyd y Sefydliad: Strwythur boddhaol ar gyfer llywodraethu a rheoli, mae angen i chi ddangos bod gennych fynediad at gyngor proffesiynol ar gyfer amgueddfa.
Mae’r canllawiau ategol yn dweud:
Rydym am weld lefelau priodol o staff ac arbenigedd ar gyfer eich amgueddfa a bod llinell gyfathrebu glir rhwng y gweithiwr amgueddfaol proffesiynol a’ch corff llywodraethu. Dylai lefel y cyngor sydd ar gael fod yn briodol i faint a chwmpas eich amgueddfa. Ar gyfer amgueddfeydd llai o faint, heb staff proffesiynol cyflogedig, gellir bodloni’r gofyniad hwn drwy benodi a gweithredu ar sail mewnbwn Ymddiriedolwr sydd â phrofiad o fod yn weithiwr amgueddfaol proffesiynol neu’n Fentor Achrediad.
Y diffiniad o weithiwr amgueddfaol proffesiynol yn yr Achrediad yw rhywun sydd ag:
- o leiaf dair blynedd o brofiad o weithio mewn amgueddfeydd fel gweithiwr, ar lefel guradurol/reolaethol. Gall y profiad hwn fod mewn unrhyw un o’r tri maes o fewn y Safon: iechyd y sefydliad, rheoli casgliadau, neu ddefnyddwyr a’u profiadau
- ymrwymiad i ddysgu a datblygu personol i ddangos sut maen nhw’n cadw eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad yn gyfredol
Disgwyliwn i’r Mentor Achrediad fynychu o leiaf un cyfarfod o’r corff llywodraethu bob blwyddyn ac ymweld â’r amgueddfa o leiaf unwaith y flwyddyn. Byddwn yn gofyn am adroddiad Mentor Achrediad i gyd-fynd â’ch cais neu eich ffurflen. Gellir llwytho hwn i fyny i’r ffurflen ar-lein neu ei ddarparu ar wahân, i’r corff asesu Achrediad.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng Mentor Achrediad, ymddiriedolwr a chynghorwyr eraill amgueddfeydd?
Mae’r Mentor Achrediad yn gweithio’n unigol gyda’ch amgueddfa i gefnogi’r corff llywodraethu i fodloni’r Safon Achredu. Bydd yn rhoi cyngor i chi ar eich cais neu’ch ffurflen Achrediad, ac yn darparu cefnogaeth barhaus er mwyn i’r amgueddfa barhau i fodloni’r Safon.
Mae gan ymddiriedolwyr swydd benodol a ddiffinnir mewn cyfraith elusennau. Os oes gan unrhyw un o’ch ymddiriedolwyr brofiad proffesiynol mewn amgueddfa (a ddiffinnir ar dudalen 15 Sut i fodloni’r Safon) gallant ymgymryd â’r rôl ychwanegol o fod yn Fentor Achrediad i chi. Byddai angen Cytundeb Mentor o hyd yn yr achos hwn.
Er y gall fod gan eich corff llywodraethu bobl gymwys a phrofiadol o wahanol gefndiroedd, mae’r Safon yn mynnu bod gennych fynediad at gyngor proffesiynol ar gyfer amgueddfeydd.
Gall cynghorwyr eraill amgueddfeydd ddarparu adnoddau a hyfforddiant Achredu. Mae eu cyfrifoldebau’n cynnwys datblygu cyfleoedd, hyrwyddo amgueddfeydd, a chefnogi arferion da. Efallai y byddwch hefyd yn cael cymorth gan staff amgueddfa fwy yn eich ardal, y sefydliad cymorth cenedlaethol yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban, a chyrff fel yr Ymddiriedolaeth Casgliadau. Yn Lloegr, gall darparwr rhanbarthol datblygu amgueddfeydd (a dalfyrir yn aml yn ‘MD’) gyflogi Swyddogion Datblygu Amgueddfeydd sy’n gweithio i gefnogi amgueddfeydd a’r sector amgueddfeydd.
Ym mhob achos, eich Mentor Achrediad ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf i gael cyngor amgueddfaol proffesiynol mewn perthynas ag Achredu. Gall eich cyfeirio at ffynonellau eraill o gefnogaeth.
Sut mae bod yn Fentor Achrediad?
Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi lunio hysbyseb i ddenu darpar Fentor i'ch amgueddfa. Gwnewch hwn yn gyfle diddorol a defnyddiol, a chysylltu â’ch darparwr cymorth cenedlaethol neu ranbarthol ar gyfer Datblygu Amgueddfeydd (gweler y tabl) i holi am rwydweithiau a allai hysbysebu’r rôl. Mae templed o hysbyseb wedi’i gynnwys yn y lawrlwythiadau.
Gallwch hefyd fynd at Fentoriaid posibl yn uniongyrchol, neu siarad ag amgueddfeydd mwy i gynnig cyfle i’w staff.
Os yw eich amgueddfa’n arbenigo yn ei chasgliadau neu ei dull gweithredu, gallech gysylltu â Rhwydwaith Arbenigwyr Pwnc i ofyn iddo hysbysebu’r rôl ymhlith eu haelodau. Mae Ymddiriedolaeth Ogilby Amgueddfeydd y Fyddin (AMOT), Grŵp Ethnograffwyr Amgueddfeydd, y Grŵp Addysg mewn Amgueddfeydd a’r Gymdeithas Archaeoleg Amgueddfeydd yn enghreifftiau o’r math hwn o rwydwaith.
Os oes gennych chi feysydd penodol i fynd i’r afael â nhw yn eich cais neu’ch ffurflen Achredu, fel llywodraethu neu wella eich darpariaeth ddysgu, efallai y byddai’n fuddiol i chi chwilio am Fentor Achrediad sydd â phrofiad yn y maes hwnnw. Defnyddiwch yr ysgogiad cynllunio Achrediad yn y templedi i wirio’r meysydd lle mae angen y cymorth mwyaf arnoch.
Os oes gan eich amgueddfa Fentor Achrediad eisoes, ond eich bod wedi colli cysylltiad â nhw, bydd gan eich darparwr cenedlaethol Datblygu Amgueddfeydd restr gyswllt o Fentoriaid Achrediad:
Yr Alban
Orielau Amgueddfeydd yr Alban
accreditation@museumsgalleriesscotland.org.uk
Cymru
Llywodraeth Cymru
MuseumDevelopment@gov.wales
Gogledd Iwerddon
Cyngor Amgueddfeydd Gogledd Iwerddon
devofficer@nimc.co.uk
Lloegr
Cyngor Celfyddydau Lloegr
accreditation@artscouncil.org.uk
Mae ein Mentor Achrediad yn cael ei ddarparu gan yr Awdurdod Lleol, neu mae’r mentor hefyd yn Swyddog Datblygu Amgueddfeydd i ni – sut mae hynny’n gweithio?
Mewn rhai rhannau o’r DU, bydd Awdurdodau Lleol sydd ag amgueddfeydd mwy a thraddodiad hir o ddarparu cefnogaeth i’r amgueddfeydd llai yn eu hardal yn enwebu Mentor Achrediad ar gyfer amgueddfeydd. Mewn rhannau o Loegr, mae Swyddogion Datblygu Amgueddfeydd, Cynghorwyr Amgueddfeydd Sirol neu debyg wedi cael eu sefydlu’n hanesyddol fel Mentoriaid Achrediad, er bod y rôl ddeuol hon yn lleihau.
Yn yr achosion hyn, bydd angen cytundeb Mentor Achrediad arnoch o hyd a sicrhau eu bod yn bodloni gofynion y Safon.
Dechrau gweithio gyda’ch Mentor Achrediad
Mae Mentoriaid Achrediad yn gweithredu’n wirfoddol ar gyfer yr amgueddfa. Mae hyn yn wir hyd yn oed os ydynt yn cyflawni’r rôl fel rhan o rôl gyflogedig yn rhywle arall.
I ffurfioli hyn, dylai’r amgueddfa gyflwyno’r Mentor Achrediad i’r mudiad yn yr un modd ag unrhyw wirfoddolwr arall, a dylech wneud yn siŵr eu bod yn cael eu diogelu o dan bolisïau yswiriant atebolrwydd yr amgueddfa (rhag ofn iddynt gael eu brifo neu fynd yn sâl wrth wirfoddoli i’r amgueddfa).
Bydd angen i’ch Mentor Achrediad ddysgu am agweddau penodol ar eich amgueddfa, a gellir trafod hyn mewn sesiwn gynefino sy’n ymdrin â’r pwyntiau yn y rhestr wirio isod.
Rhestr wirio cynefino mentoriaid yn eich amgueddfa
Wrth gyflwyno eich Mentor Achrediad i’ch amgueddfa, ystyriwch gynnwys yr eitemau hyn yn eich sesiwn gynefino:
A ydym wedi darparu’r canlynol i’n Mentor Achrediad:
- Copi o’n dogfen lywodraethu (ee Cyfansoddiad, Erthyglau Cymdeithasu)?
- Set o gofnodion gan y corff llywodraethu neu bwyllgor perthnasol ar gyfer y chwe mis diwethaf?
- Y set ddiwethaf o gyfrifon a archwiliwyd?
- Siart o’r sefydliad? Dangos sut mae timau/unigolion yn ymwneud â’r corff llywodraethu ac unrhyw bwyllgorau.
- Manylion cyswllt pobl berthnasol, ee Ymddiriedolwyr neu aelodau o staff sy’n arwain ar Achredu?
- Unrhyw adroddiadau blynyddol neu debyg i’w gwneud yn gyfarwydd â gwaith yr amgueddfa?
- Unrhyw bolisïau a chynlluniau ysgrifenedig sydd gennym eisoes? (Efallai nad oes gan ymgeiswyr newydd yr Achrediad y rhain eto.)
- Deunyddiau marchnata, arweiniad i amgueddfeydd ac ati?
- Ein llawlyfr gwirfoddolw.
A ydym wedi cyflwyno’r Mentor Achrediad i’r canlynol:
- Y Cadeirydd a’r Trysorydd/prif swyddog cyllid?
- Aelodau’r corff llywodraethu a phwyllgorau perthnasol?
- Staff a gwirfoddolwyr? Yn enwedig y rheini a fydd yn ymwneud â datblygu’r polisïau casgliadau a mynediad a’r cynlluniau sydd eu hangen ar gyfer Achredu.
A ydym wedi trefnu iddynt weld:
- Yr amgueddfa?
- Y storfa gasgliadau ac ardaloedd 'y tu ôl i'r llenni'?
- Unrhyw adeiladau ar wahân y mae’r amgueddfa’n eu defnyddio?
Ac a ydym wedi:
- Llofnodi cytundeb Mentor Achrediad? Bydd angen i chi ddarparu copi ohono yn eich cais am Achrediad.
- Ychwanegu ein Mentor Achrediad at y rhestrau dosbarthu ar gyfer cofnodion cyfarfodydd, hysbysiadau CCB, digwyddiadau’r amgueddfa?
- Eu cynefino gan ddefnyddio'r gweithdrefnau gwirfoddoli arferol, gan gynnwys polisïau allweddol fel Iechyd a Diogelwch, Diogelu Data?
- Sicrhau eu bod, fel gwirfoddolwyr, yn dod o dan yswiriant yr amgueddfa?
- Eu galluogi i gael mynediad at ffeiliau ar-lein (os yw'n briodol)?
- Gofyn iddynt sefydlu cyfrif Grantium er mwyn iddynt weld cais Achrediad yr amgueddfa ar-lein? (Mae hyn yn bosibl, ond nid yw’n orfodol.)
- Dod i drefniant ynghylch talu treuliau? (Disgwylir i’r amgueddfa dalu’r costau teithio.)
Beth ddylem ni ddisgwyl i’n Mentor Achrediad ei wneud?
Er ei fod yn gwirfoddoli i’r amgueddfa’n ffurfiol, mae’n bwysig cofio y bydd yr amgueddfa’n cael y gwerth mwyaf gan y Mentor Achrediad drwy ei ystyried yn gyfaill beirniadol a fydd yn darparu barn broffesiynol, annibynnol ac ar wahân.
Rôl y Mentor Achrediad yw helpu’r amgueddfa i fodloni’r Safon Achredu, felly rhaid i’r cyngor a’r gefnogaeth a roddir i’ch amgueddfa fod wedi’u cysylltu’n glir â gofynion y Safon. Rôl y Mentor Achrediad yw cynghori corff llywodraethu’r amgueddfa, nid cwblhau’r cais am Achrediad ar ei ran. Yr amgueddfa sy’n gyfrifol am wneud hynny.
Oni bai eu bod wedi’u penodi’n ffurfiol yn ymddiriedolwr, ni ddylai Mentor Achrediad fynychu pob cyfarfod o’r corff llywodraethu neu gallent gael eu dosbarthu’n gyfreithiol fel ymddiriedolwr de facto.
Mae’r Safon yn ei gwneud yn ofynnol i’r Mentor Achrediad fynychu o leiaf un cyfarfod o’r corff llywodraethu bob blwyddyn. Disgwylir i’r rôl gymryd tua phedwar diwrnod y flwyddyn, gan gynnwys o leiaf un ymweliad â’r amgueddfa. Fel arall, bydd cymorth yn cynnwys ymatebion ad hoc i’r amgueddfa rhwng yr ymweliadau a’r cyfarfodydd ‘craidd’, gan ddarparu cyngor proffesiynol ar amrywiaeth o feysydd ymarfer a nodi lle gellir dod o hyd i gyngor ac adnoddau ychwanegol.
Pan fydd yr amgueddfa’n gwneud cais neu’n cyflwyno ffurflen Achrediad, bydd y Mentor Achrediad yn ysgrifennu adroddiad ar gyfer y corff asesu. Darperir templed ac adroddiad enghreifftiol yn y Llawlyfr Mentora Achrediad. Ble bynnag y maent yn y DU, mae amgueddfeydd yn cyflwyno eu cais neu eu ffurflen Achrediad drwy Grantium, sef porth ymgeisio Cyngor Celfyddydau Lloegr. Yna, caiff ei neilltuo i’r corff asesu perthnasol.
Nid oes disgwyl i Fentoriaid Achrediad wirfoddoli ar gyfer gweithgareddau cyffredinol amgueddfeydd fel digwyddiadau, codi arian, stiwardio a gwneud te!
Cytundeb Mentor Achrediad
Rydym wedi darparu cytundeb templed i roi amlinelliad clir i chi o ddisgwyliadau’r amgueddfa a’i Mentor Achrediad.
Mae disgwyl i’r amgueddfa fynd ati’n rhagweithiol i gynnwys y Mentor Achrediad drwy eu gwahodd i gyfarfodydd allweddol, gan gynnwys cyfarfodydd y corff llywodraethu, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt drwy anfon cofnodion a chylchlythyrau, a chaniatáu iddynt gael mynediad at bob rhan o waith yr amgueddfa.
Mentora o bell
Ystyriwch a ellir cynnal y gefnogaeth rydych yn ei chael gan eich Mentor Achrediad o bell.
Mae prinder mentoriaid ledled y wlad, a phrinder o ran yr amser y gallant ei gyfrannu at fyd ehangach yr amgueddfa, felly gallai mentora o bell roi gwell mynediad i’ch amgueddfa at amser eich Mentor Achrediad. Ac efallai mai dyma’r unig opsiwn os yw eich amgueddfa mewn rhan anghysbell o’r wlad.
Er bod y Safon yn gofyn am un ymweliad y flwyddyn, efallai y bydd cyfleoedd i’ch Mentor Achrediad ddarparu’r rhan fwyaf o’r gefnogaeth drwy gyfarfodydd ar-lein, galwadau ffôn, ac ati.
Pwyntiau allweddol yn y berthynas â’ch Mentor Achrediad
Bydd adegau pan fydd angen i chi gynnwys eich Mentor Achrediad yn fwy helaeth.
Cais cyntaf eich amgueddfa am Achrediad
Gall y Mentor Achrediad gymryd rhan yn y cam cyntaf, gweld a yw eich amgueddfa’n gymwys a dod yn amgueddfa sy’n ‘Gweithio at Achrediad (WTA)’.
Yna rhoddir tair blynedd i amgueddfeydd ddatblygu cais llawn. Dyma pryd y byddwch yn debygol o fod angen y gefnogaeth fwyaf gan eich Mentor Achrediad gan eu bod yn eich cynghori ar ddatblygu eich polisïau, eich cynlluniau a’ch gweithdrefnau.
Bydd y Mentor Achrediad yn cyflwyno adroddiad fel rhan o’ch cais, gan edrych ar brif feysydd iechyd y sefydliad, rheoli casgliadau, a defnyddwyr a’u profiadau. Gallant rannu hyn gyda chi, ac fe’u hanogir i wneud hynny, ond gallant ei gyflwyno’n uniongyrchol i’r corff asesu Achrediad.
Ar ôl asesu’r cais am Achrediad
Byddwch yn cael llythyr canlyniad gan eich corff asesu a fydd yn cynnwys argymhellion ar ‘Gamau Gweithredu Angenrheidiol’ a ‘Meysydd i’w Datblygu’. Bydd gennych amser penodol i fynd i'r afael â'r rhain, a bydd cyngor eich Mentor Achrediad yn amhrisiadwy wrth eich helpu i wella.
Sylwer: Roedd Meysydd i’w Datblygu yn arfer cael eu galw’n Feysydd i’w Gwella, ac mae’n bosibl mai fel hynny y cawsant eu disgrifio yn llythyr canlyniad yr asesiad diwethaf.
Cyfranogiad blynyddol a chyfathrebu parhaus gyda’r Mentor Achrediad
Mae’n ofynnol i’ch Mentor Achrediad gymryd rhan yn o leiaf un cyfarfod o’r corff llywodraethu a gwneud un neu fwy o ymweliadau â’r amgueddfa bob blwyddyn. Felly, bydd angen i chi eu gwahodd i’r cyfarfod a darparu’r gwaith papur perthnasol. (Gweler y rhestr wirio.)
Bydd yr amgueddfa’n parhau i adolygu ei chynnydd yn erbyn y Safon drwy ei phroses blaen-gynllunio. Cyfrifoldeb yr amgueddfa yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Mentor Achrediad drwy gofnodion cyfarfodydd, diweddariadau a cheisiadau am gymorth. Bydd angen i chi gynnwys eich Mentor yn y gwaith o adolygu unrhyw gynlluniau, polisïau a gweithdrefnau sy’n uniongyrchol berthnasol i ofynion y Safon.
Ffurflen Achredu
Bydd yn ofynnol i’r amgueddfa adnewyddu statws yr Achrediad drwy gyflwyno ffurflen Achredu, tua phum mlynedd fel arfer ar ôl y cais diwethaf. Nid yw mor feichus â’r cais cyntaf, ond mae’n amser da i ofyn am gefnogaeth eich Mentor Achrediad wrth i chi adolygu polisïau, cynlluniau a gweithdrefnau. Byddant hefyd yn cyflwyno adroddiad Mentor Achrediad.
Diolch i’ch Mentor Achrediad
Mae Partneriaeth Achredu’r DU yn diolch i bawb sy’n rhoi o’u hamser i gefnogi a rhoi hyder i’r amgueddfeydd sy’n cael eu mentora ganddynt, gan eu helpu i gyrraedd a chadw’r Safon Achredu Amgueddfeydd y mae pobl yn ymddiried ynddi ac sy’n cael ei chydnabod yn genedlaethol. Gall amgueddfeydd hefyd fod yn ddiolchgar am ymdrech wirfoddol Mentoriaid Achrediad ar eu rhan.
Newidiadau i statws eich Achrediad
Pan fydd amgueddfa’n cau i ymwelwyr i’w hailddatblygu, yn lleihau ei darpariaeth i’r cyhoedd yn sylweddol, yn newid ei model llywodraethu (ee yn dod yn gorff corfforedig elusennol) neu’n gwneud newidiadau mawr eraill, bydd angen rhoi gwybod i’r corff asesu Achrediad am hyn. Mae rhai newidiadau mawr yn golygu bod yr amgueddfa’n symud i statws Achrediad Dros Dro tra bydd y newidiadau’n digwydd.
Bydd angen rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch Mentor Achrediad. Bydd yn eich cefnogi i edrych ar sut gall yr amgueddfa barhau i fodloni’r Safon ar gyfer iechyd y sefydliad, rheoli casgliadau, a defnyddwyr a’u profiadau.
Os oes posibilrwydd o gau’n barhaol, mae’n well cynnwys eich Mentor Achrediad yn gynnar; bydd yn eich rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau a all eich cefnogi ar adeg anodd.
Dod â'ch Cytundeb Mentora i ben
Fel arfer, mae perthnasoedd mentora Achrediad yn dod i ben oherwydd:
- mae gwaith neu amgylchiadau personol y Mentor Achrediad wedi newid ac nid yw’n gallu cynnal yr ymrwymiad mwyach
- mae anghenion cymorth yr amgueddfa wedi datblygu fel nad yw arbenigedd y Mentor yn gweddu’n dda mwyach
- mae sgiliau’r Mentor wedi datblygu ac mae amgueddfa wahanol yn fwy addas ar eu cyfer
- mae gweithiwr amgueddfaol proffesiynol wedi ymuno â staff neu gorff llywodraethu’r amgueddfa, felly nid oes angen Mentor mwyach
- mae’r amgueddfa wedi gadael y cynllun
Yn achlysurol iawn, gall perthynas ddod i ben oherwydd anghytundeb difrifol neu ddiffyg cyfathrebu. Gall y naill barti neu’r llall ddod â’r berthynas i ben. Yn hytrach na gadael i’r berthynas chwythu ei phlwc yn raddol, mae’n fuddiol i’r mentor a’r amgueddfa ddod â hi i ben drwy ddulliau rheoli da.
Argymhellir eich bod yn cynnal cyfarfod terfynol er mwyn:
- adolygu’r hyn a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod y mae’r mentor a’r amgueddfa wedi bod yn cydweithio
- ystyried beth oedd yn ddefnyddiol i bob parti am y berthynas a beth allai fod wedi bod yn wahanol
- cytuno ar unrhyw gamau dilynol, ee pwy fydd yn hysbysu’r corff cefnogi neu asesu lleol
Oni bai fod yr amgueddfa bellach yn cyflogi gweithiwr amgueddfaol proffesiynol neu wedi recriwtio ymddiriedolwr gyda’r profiad hwn, bydd angen i chi recriwtio Mentor Achrediad newydd.
Adnoddau defnyddiol i’w defnyddio gyda’ch Mentor Achrediad
- Llawlyfr Mentora Achrediad
- Rhestr wirio ar gyfer cynefino
- Cytundeb Mentor Achrediad
- Ysgogiad cynllunio achrediad
- Templed hysbyseb Mentor Achrediad
