Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai Jayne Bryant wedi gweld sut mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn adfywio canol tref Merthyr Tudful.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod taith o amgylch canol y dref, a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cabinet ym Merthyr Tudful, ymwelodd â phrosiectau a gefnogir drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, sy'n adfywio ardaloedd allweddol o'r dref ac yn creu cyfleoedd i fusnesau lleol, trigolion ac ymwelwyr. 

Roedd y prosiectau yr ymwelwyd â nhw yn cynnwys y Farchnad Dan Do yng Nghanolfan Siopa Sant Tudful a adleoliwyd ac a drawsffurfiwyd.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful wedi derbyn mwy na £1.6 miliwn o gronfa Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru i gefnogi symud y farchnad o'i lleoliad presennol ar y llawr uchaf i uned fawr wag ar y llawr gwaelod yn y Ganolfan Siopa, safle Wilko gynt. 

Bydd y lleoliad newydd yn gwneud y farchnad yn gwbl hygyrch. Rydym yn disgwyl i'r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant:

Mae canol ein trefi a’n dinasoedd wrth galon ein cymunedau Cymreig, ac mae'n wych gweld drosof fi fy hun sut mae'r prosiectau hyn yn cyflawni newid ystyrlon i Ferthyr Tudful.

Drwy ein rhaglen Trawsnewid Trefi, rydym wedi buddsoddi mwy na £25 miliwn ym Merthyr, gan adfywio gofodau, cefnogi busnesau lleol a chreu cyfleoedd i drigolion.

Mae llwyddiant y cynlluniau hyn yn dangos sut y gall buddsoddiad wedi'i dargedu gan Lywodraeth Cymru ddatgloi potensial, cryfhau menter leol, ac adeiladu mannau cynhwysol sy'n dod â manteision gwirioneddol i ganol ein trefi a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.