Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r wybodaeth am adeiladu tai newydd yn seiliedig ar adroddiadau arolygwyr adeilad yr awdurdodau lleol a'r Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai (NHBC). Ni cheir yn y datganiad hwn wybodaeth gan PAIs eraill, sy’n debygol o arwain at dan gyfrif yng nghyfanswm yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd (gweler y nodiadau). Mae'r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn cwmpasu chwarter 1 blwyddyn ariannol 2025-26 (Ebrill i Fehefin 2025).

Main points

Ffigur 1: nifer yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd, chwater 1 2016-17 i chwater 1 2025-26

Image

Disgrifiad o ffigur 1: siart llinell sy'n dangos y cafwyd gostyngiad cyffredinol yn nifer y tai newydd a ddechreuwyd rhwng chwarter 1 2016-17 a chwarter 1 2025-26.

Ffynhonnell: arolygwyr adeiladu yr awdurdodau lleol a data’r NHBC

[Nodyn 1] Ni chasglwyd data chwarterol ar gyfer 2020-21 na 2021-22 oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19).

Dechreuwyd 1,090 o anheddau newydd rhwng Ebrill i Mehefin 2025, 8% mwy na’r un chwarter yn 2024 (1,011).

Gwblhawyd 1,228 o anheddau newydd rhwng Ebrill i Fehefin 2025, 9% yn llai na’r un chwarter yn 2024 (1,345).

Roedd mwy na dau-draean (69%) yr anheddau newydd a gwblhawyd rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2025 yn cynnwys tair ystafell wely neu fwy.

Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2025, roedd y rhan fwyaf o’r anheddau newydd a adeiladwyd yn perthyn i’r sector preifat (82%), gyda chyfran lai yn perthyn i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (16%) ac awdurdodau lleol (2%) (dylid trin gwybodaeth deiliadaeth yn ofalus, gweler nodiadau am fanylion).

O'i gymharu â'r un chwarter yn 2024, gostyngodd cyfran y gwaith o gwblhau anheddau a gyfrifwyd gan y sector cymdeithasol o 29% i 18%.

Nodiadau

Oherwydd talgrynnu, mae’n bosibl na fydd pob ffigur yn dod i 100%.

Mae'r data hwn yn seiliedig ar adroddiadau archwilwyr adeiladu awdurdodau lleol a'r NHBC sy’n arolygwr preifat cymeradwy. Nid yw'n cynnwys gwybodaeth oddi wrth arolygwyr preifat cymeradwy eraill, sy’n debygol o arwain at dan gyfrif yng nghyfanswm yr anheddau newydd a ddechreuwyd ac a gwblhawyd. Mae'n anodd weithiau i swyddogion rheoli adeiladu a’r NHBC sy'n cofnodi'r data i nodi daliadaeth derfynol arfaethedig yr eiddo (sy’n sail ar gyfer y wybodaeth am ddeiliadaeth). Gall hyn arwain at dan gyfrif  tai newydd yn y sector cymdeithasol a gor-gyfrif ar gyfer y sector breifat. O fewn y sector gymdeithasol, gall hefyd arwain at dan gyfrif tai newydd gan awdurdodau lleol a gor-gyfrif tai landlordiaid cymdeithasol. Felly dylid trin y data daliadaeth yn ofalus.

Bydd amrywiadau chwarterol yn dylanwadu ar y dechreuadau a chwblhadau, gan gynnwys amseru dechrau a chwblhau ar safleoedd mawr mewn rhai awdurdodau a ffactorau tymhorol fel gwyliau a thywydd. Nid yw'r ystadegau hyn yn cael eu haddasu'n dymhorol.

Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau ar wahân ar ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae'r ffigurau'n cwmpasu'r holl unedau tai fforddiadwy ychwanegol, p'un ai drwy adeiladu o'r newydd, prynu, caffael, prydlesu neu addasu anheddau presennol.

Ar hyn o bryd rydym yn asesu dichonoldeb defnyddio ffynonellau data gweinyddol amgen i ategu/wirio ansawdd yr ystadegau hyn. Rydym yn bwriadu cyhoeddi diweddariad ar y gwaith hwn erbyn Mawrth 2026.

Cyhoeddir pwyntiau allweddol a data StatsCymru yn chwarterol a chyhoeddir adroddiad blynyddol. Mae’r data ar StatsCymru yn cynnwys data ar lefel awdurdodau lleol yn ogystal â nifer yr anheddau newydd a gwblhawyd fesul math yr annedd a nifer yr ystafelloedd gwely.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Holly Flynn
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099