Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau): asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
Asesiad effaith y Gymraeg ar Fil a fydd yn gwella atebolrwydd Aelodau'r Senedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Cymraeg 2050 yw ein strategaeth genedlaethol ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.
Mae Llywodraeth Cymru yn gwbl ymrwymedig i’r strategaeth newydd, ac mae’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr wedi'i gynnwys yn ei Rhaglen Lywodraethu. Mae Cymraeg sy'n ffynnu hefyd yn un o saith nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Yn ogystal, mae gennym rwymedigaeth strategol i ystyried effaith lawn ein gwaith ar y Gymraeg. Mae hyn yn golygu y dylai unrhyw bolisi gan Lywodraeth Cymru ystyried sut y mae ein polisïau yn effeithio ar yr iaith a'r rhai sy'n ei siarad.
Mae gan Strategaeth Cymraeg 2050 dair thema gydgysylltiedig:
Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
- Trosglwyddo'r laith o fewn y teulu
- Y blynyddoedd cynnar
- Addysg statudol
- Addysg ôl-orfodol
- Y gweithlu addysg, adnoddau a chymwysterau
Thema 2: Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg
- Y gweithle
- Gwasanaethau
- Defnydd Cymdeithasol o'r Gymraeg
Thema 3: Creu amodau ffafriol - seilwaith a chyd-destun
- Cymuned a'r economi
- Diwylliant a'r cyfryngau
- Cymru a'r byd ehangach
- Technoleg ddigidol
- Seilwaith leithyddol
- Cynllunio leithyddol
- Gwerthuso ac ymchwil
Crynodeb o'r Cynnig
Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau)
Mae Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn cyflwyno system o adalw Aelodau'r Senedd o'u swyddi yn ystod eu tymor. Bydd yn caniatáu i etholwyr gael y gair olaf ynghylch a ddylid diswyddo neu gadw Aelod o'r Senedd ar ôl i un o ddau ddigwyddiad sbardun posibl ddigwydd, fel a ganlyn:
- bod Aelod yn cael ei euogfarnu o drosedd yn y Deyrnas Unedig ac yn cael dedfryd o garchar neu ei orchymyn i gael ei garcharu neu ei gadw'n gaeth (a'i bod yn ddedfryd nad yw'n arwain at anghymhwyso o swydd yn awtomatig)
- bod y Senedd yn cytuno i wneud Aelod yn destun pôl adalw yn dilyn argymhelliad gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad i osod y sancsiwn adalw.
Mae'n cynnwys mesurau hefyd sy'n ceisio cryfhau proses safonau'r Senedd, gan gynnwys:
- darparu hyblygrwydd ychwanegol i Gomisiynydd Safonau y Senedd (‘y Comisiynydd’) gynnal ymchwiliad ar ei ysgogiad ei hun i ymddygiad Aelod
- galluogi'r Senedd i benodi (os bydd yn dewis gwneud hynny) aelodau lleyg i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad
- ei gwneud yn ofynnol i'r Senedd sefydlu Pwyllgor Safonau Ymddygiad ym mhob Senedd yn y dyfodol
- darparu ar gyfer galluogi'r Senedd i gyflwyno mecanwaith apelio yn rhan o'r broses safonau.
Mae'r Bil hefyd yn egluro pwerau presennol Gweinidogion Cymru yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i wneud darpariaeth ynghylch cynnal etholiadau i'r Senedd. Mae hefyd yn cyflwyno dyletswydd ar Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth sy'n gwahardd gwneud neu gyhoeddi datganiadau o ffeithiau anwir.
Effaith ar y Gymraeg a mesurau i wella canlyniadau ar gyfer y Gymraeg
Mae strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru yn nodi gweledigaeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r nifer sy'n defnyddio'r iaith bob dydd erbyn 2050 a, thrwy wneud hynny, normaleiddio'r Gymraeg mewn cymaint o agweddau â phosibl ar fywyd. Ei nod yw cynnal a thyfu cymunedau sydd â nifer uchel o siaradwyr Cymraeg, hyrwyddo a hwyluso'r gwaith o ddarparu gwasanaethau dwyieithog er mwyn cynyddu'r ystod o wasanaethau a gynigir i siaradwyr Cymraeg, a gweld cynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.
Nid yw nodau cyffredinol Bil Senedd Cymru (Atebolrwydd Aelodau ac Etholiadau) yn uniongyrchol gysylltiedig â hyrwyddo'r Gymraeg, fodd bynnag, mae'r paragraffau isod yn dangos sut y cafodd y Gymraeg ei hystyried wrth ddatblygu agweddau perthnasol ar y ddeddfwriaeth.
System Adalw
Ni fydd sefydlu proses adalw yn effeithio'n uniongyrchol ar y Gymraeg ond bydd mesurau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod etholwyr ac Aelodau'r Senedd yn gallu cymryd rhan yn y broses drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn cefnogi gweledigaeth strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru sef normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg mewn cynifer o agweddau ar fywyd â phosibl.
Y bwriad polisi yw y bydd cynnal Pôl Adalw yn debyg i gyflwyno etholiad cyffredinol i'r Senedd mewn etholaeth. Bydd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn cyflwyno system newydd ar gyfer etholiadau cyffredinol i'r Senedd cyn etholiad y Senedd 2026. Cwblhawyd a chyhoeddwyd asesiad llawn o'r effaith ar y Gymraeg mewn perthynas â darpariaethau Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).
Mae’r Bil yn nodi bod rhaid ysgrifennu pob papur pleidleisio yn Gymraeg a Saesneg. Caiff y cwestiynau a'r atebion y mae'n rhaid iddynt ymddangos ar bapur pleidleisio ar gyfer pôl adalw eu darparu yn ddwyieithog ar wyneb y Bil.
Mae'r Bil yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau sy'n ymwneud â chynnal polau adalw, hynny yw, y "rheolau" manwl ynghylch eu cynnal. Fel rhan o ddatblygu'r Rheoliadau hyn, bydd yr effaith ar y Gymraeg yn cael ei hystyried.
Mae'r Bil yn gosod dyletswydd gyffredinol ar swyddogion canlyniadau etholaethol o ran cynnal pôl adalw yn un o etholaethau'r Senedd yn unol â'r Bil a'r rheoliadau a wneir oddi tano.
Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd rôl y swyddog canlyniadau etholaethol mewn polau adalw yn debyg i’w rôl mewn etholiadau i’r Senedd, ond nid yw hyn wedi'i benderfynu. Mae Canllawiau’r Comisiwn Etholiadol ar gyfer swyddogion canlyniadau etholaethol yn nodi bod y rôl yn cynnwys y canlynol:
- cyhoeddi’r hysbysiad etholiad ar gyfer yr etholaeth a ymleddir
- gweinyddu’r broses enwebu ar gyfer yr etholaeth a ymleddir
- annog cyfranogiad
- cyhoeddi’r datganiad o’r sawl a enwebwyd a’r hysbysiad o bôl neu’r etholaeth a ymleddir
- darpariaeth a chyfarpar gorsafoedd pleidleisio
- penodi staff gorsafoedd pleidleisio
- cynnal y pôl
- rheoli’r broses bleidleisio drwy’r post
- gwirio a chyfrif y pleidleisiau ar gyfer yr etholaeth a’r rhan honno o’r etholiad rhanbarthol a ymleddir sy’n perthyn i’r etholaeth
- datgan canlyniad yr etholaeth.
Mae canllawiau'r Comisiwn Etholiadol (Rhan A – Rôl a chyfrifoldebau'r Swyddog Canlyniadau, Etholiadau ar gyfer y Senedd a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu: canllawiau i Swyddogion Canlyniadau, Hydref 2020 – paragraff 1.12) ar gyfer Swyddogion Canlyniadau yn ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i Swyddogion Canlyniadau roi sylw i Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Felly, darperir gwasanaethau etholiadol yn Gymraeg, i'r graddau y bo'n rhesymol a chymesur, er mwyn peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Ar ben hynny, bydd y defnydd ymarferol o seilwaith a staff awdurdodau lleol i gynnal pôl adalw yn golygu y bydd y Gymraeg yn cael ei hintegreiddio wrth ei gynnal.
Mesurau i gryfhau proses safonau'r Senedd
Mae darpariaethau yn y Bil yn ymwneud â chamau gweithredu sydd i'w cymryd gan y Senedd – yn benodol, penodi "aelodau lleyg" i'r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, a diwygiadau i Fesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009. Mae'r Senedd yn ddarostyngedig i Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 (Deddf 2012), sy'n gwneud darpariaeth ynghylch defnyddio'r Gymraeg a'r Saesneg yn nhrafodion y Senedd a'r ffordd y mae Comisiwn y Senedd yn cyflawni ei swyddogaethau. Mae Deddf 2012 yn darparu'r canlynol:
- mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Senedd
- bod rhaid trin y ddwy iaith yn gyfartal
- y caniateir defnyddio'r naill iaith swyddogol neu'r llall yn nhrafodion y Senedd
- bod rhaid i'r cofnod o drafodion gynnwys trawsgrifiad yn yr iaith wreiddiol ynghyd â chyfieithiad i'r iaith arall
- bod rhaid i bob Senedd gyhoeddi Cynllun Ieithoedd Swyddogol sy'n gwneud darpariaeth am bethau fel:
- cyfieithu ar y pryd
- cyhoeddi dogfennau yn ddwyieithog
- cysylltiadau â’r cyhoedd
- mesur cynnydd
- strategaeth sgiliau iaith ar gyfer staff
- rhaid i'r Senedd adrodd yn flynyddol ar y ffordd y mae'n cyflawni ei dyletswyddau o dan y Cynllun, ac unrhyw achosion o weithredu'n groes iddo.
Mabwysiadwyd y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd yn ffurfiol gan y Senedd ar 28 Medi 2022. O ganlyniad i'r darpariaethau hyn, bydd yn ofynnol i'r Senedd ystyried y Gymraeg yn eu proses recriwtio, a bydd y darpariaethau yn berthnasol i drafodion y Pwyllgor Safonau Ymddygiad y mae unrhyw aelodau lleyg yn cymryd rhan ynddynt.
