Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â'r flaenoriaeth y cytunwyd arni o weithredu argymhellion Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru i symud Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cydlynwyr ADY) i'r raddfa arweinyddiaeth ac i amodau arweinwyr.

Ym mis Mehefin, ymgynghorais â rhanddeiliaid ar symud Cydlynwyr ADY i'r raddfa arweinyddiaeth, fel yr argymhellwyd ym mhumed adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru (argymhellion 4 a 5). Roedd yn amlwg o'r adborth bod ein partneriaid cymdeithasol am i'r newid hwn ddigwydd cyn gynted â phosibl, ond eu bod hefyd yn awyddus iddo gael ei gynllunio'n ofalus i osgoi canlyniadau anfwriadol. 

Felly, fe wnaethom ganiatáu amser ychwanegol i weithio drwy'r materion hyn gyda phartneriaid. Hoffwn ddiolch i aelodau'r Fforwm Partneriaeth Cyflog ac Amodau Athrawon am eu parodrwydd i weithio gyda ni dros yr haf i ystyried opsiynau i weithredu'r newid hwn. 

Mae'n bleser gennyf ymgynghori ar newidiadau i Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2025 a fyddai'n symud Cydlynwyr ADY i'r raddfa arweinyddiaeth, gyda'r Ddogfen yn nodi y dylai'r polisi tâl ar gyfer yr ysgol bennu graddfa 5 pwynt yn berthynol i grŵp y pennaeth.

Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd ariannu'r newid hwn ac, fel y cyhoeddwyd ddoe yn y gyllideb, rwy'n falch o gadarnhau y bydd cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru ar gael i awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ac o 2026/27 ymlaen at ddibenion cefnogi'r newid hwn.

Byddaf yn awr yn gwahodd sylwadau ysgrifenedig gan randdeiliaid allweddol erbyn 2 Rhagfyr ar y newidiadau arfaethedig i'r Ddogfen. Byddaf yn ystyried yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad cyn gwneud fy mhenderfyniad terfynol ond fy mwriad yw gwneud y newidiadau deddfwriaethol angenrheidiol cyn diwedd tymor y Senedd. 

Hoffwn ddiolch i'n partneriaid cymdeithasol am eu cefnogaeth barhaus ar y mater hwn ac edrychaf ymlaen at weithio gyda nhw ar y blaenoriaethau y cytunwyd arnynt fel y nodir yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 22 Medi.