Huw Irranca-Davies AS, Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rwyf wedi rhoi cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud a gosod Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) (Diwygio) 2025 ("y Rheoliadau"). Mae'r Rheoliadau yn gorgyffwrdd â pholisïau datganoledig a byddant yn gymwys o ran Cymru. Mae'r Rheoliadau yn gymwys ar draws y DU, ac felly, maent yn berthnasol yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Mae'r Rheoliadau wedi cael eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig drwy arfer pwerau a roddir gan Ddeddf yr Amgylchedd 2021.
Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Pecynwaith a Gwastraff Pecynwaith) 2024 ("Rheoliadau 2024") a gyflwynodd gynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) ar gyfer pecynwaith a gwastraff pecynwaith ar lefel y DU o 1 Ionawr 2025. Mae'r cynllun ERP ar gyfer pecynwaith yn ceisio sicrhau bod y costau y mae awdurdodau lleol yn eu hysgwyddo wrth reoli pecynwaith yn cael eu talu gan y cynhyrchwyr sy'n defnyddio ac yn cyflenwi pecynwaith, gan gymhwyso'r egwyddor mai'r "llygrwr sy'n talu".
Yn benodol, bydd y Rheoliadau yn gwneud newidiadau pellach i Reoliadau presennol 2024, gan fireinio'r cynllun EPR i sicrhau canlyniadau o safon i bobl Cymru. Mae'r isod ymhlith y newidiadau allweddol:
- Diwygio'r diffiniad o "wasanaeth rheoli gwastraff effeithlon" i sicrhau bod effeithiau amgylcheddol y gwasanaeth yn cael eu hystyried ochr yn ochr â'r costau gwaredu, gan roi hyblygrwydd pellach i Weinyddwr y Cynllun gymharu mathau o wasanaethau wrth wneud asesiadau mewn perthynas â thaliadau awdurdodau lleol.
- Ymestyn y darpariaethau ynghylch pecynwaith plastig gradd bwyd a gesglir yn eang i alluogi cynhyrchwyr sy'n casglu plastig gradd bwyd yn uniongyrchol o aelwydydd i ailgylchu'r deunydd yn ôl i blastig gradd bwyd - a elwir yn ailgylchu ar ffurf dolen gaeedig - i wrthbwyso eu ffioedd yn unol â’r tunelleddau a ailgylchwyd.
- Galluogi sefydlu Sefydliad Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr a chyfres o ddarpariaethau sydd wedi'u cynllunio i ddatrys materion technegol, er mwyn gwella effeithlonrwydd gweinyddol a gweithredol cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig ar gyfer pecynwaith (pEPR).
- Ystod o newidiadau gan gynnwys newidiadau sy'n cyfateb i'r diwygiadau uchod, newidiadau i ddarpariaethau gorfodi a darpariaethau trosiannol.
Polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig, ond o dan rai amgylchiadau, mae manteision i Gymru gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Yn yr achos hwn, bydd y Rheoliadau ar lefel y DU gyfan yn galluogi cysondeb ledled y DU gan alluogi Cymru ar yr un pryd i gynnal a gwella ei pherfformiad fel yr ail wlad oran yn y byd. Yn ei dro, bydd hyn yn hwyluso'r broses o gyflawni canlyniadau cadarnhaol i Gymru drwy ganiatáu dull unffurf ymhlith sefydliadau masnachol wrth iddynt fuddsoddi, yn aml mewn gweithrediadau ar draws marchnad y DU. Felly, mae'n briodol bod y Rheoliadau yn cael eu gwneud ar sail y DU gyfan yn yr achos hwn.
Gosodwyd y Rheoliadau gerbron Senedd y DU ar 3 Tachwedd 2025 ac yn amodol ar gymeradwyaeth, byddant yn dod i rym ar 1 Ionawr 2026.
